Bwriad y safle hwn yw darparu adnodd hwylus lle y gallwch wirio a
oes enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer enw lle Saesneg, neu enw Saesneg yn bodoli
ar gyfer enw lle Cymraeg.
Mae'r safle wedi ei seilio ar gronfa ddata ryngweithiol y mae
modd ei chwilio'n hawdd. Pan fydd cofnodion perthnasol yn cael eu canfod, bydd
diffiniad, gwybodaeth leoli (enw'r plwyf, y sir, a'r awdurdod unedol) yn
ogystal â chyfeirnod grid yn cael eu darparu.
Pan na fydd cofnod perthnasol yn cael ei ganfod, bydd modd llenwi
ffurflen er mwyn gyrru ymholiad am enwau sydd heb eu cynnwys yn y gronfa ddata
atom yng Nghanolfan Bedwyr. Byddwn yna'n chwilio am ateb o fewn adnoddau
archifol presennol y Ganolfan Enwau Lleoedd.
Lle bydd y wybodaeth ar gael o fewn yr archif, bydd yr ymholydd
yn derbyn ateb o fewn dau ddiwrnod gwaith a bydd y wybodaeth yn cael ei
hychwanegu at y gronfa ddata ryngweithiol. Os na cheir ateb yn adnoddau
archifol y Ganolfan, bydd neges i'r perwyl hwnnw yn cael ei dychwelyd i'r
ymholydd a bydd yr ymholiad yn cael ei storio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Gair am y ffurfiau
Argymhellion yn unig yw'r ffurfiau ar enwau lleoedd sydd i'w cael
yma. Nid yw'r wefan hon yn ymgais i ddeddfu pa ffurf sydd yn gywir neu yn
anghywir.
Ar hyn o bryd, dinasoedd, trefi, pentrefi a plwyfi sydd wedi eu
cynnwys yn y gronfa ddata. Nid yw eto'n holl-gynhwysfawr; mae mwy o gofnodion
yn cael eu hychwanegu i'r gronfa yn gyson. Bydd enwau afonydd mynyddoedd a
nodweddion tirweddol eraill yn cael eu hychwanegu'n fuan.
Wrth lunio'r rhestr cyfeiriwyd at sawl ffynhonell wahanol ac
oherwydd nad oedd y ffurfiau wastad yn gyson o ffynhonell i ffynhonell, rhaid
oedd dewis rhyngddynt. O ganlyniad, wrth ddewis y ffurfiau i'w hargymell,
dilynwyd canllawiau Tîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg (isod) hyd y bo modd:
Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd
Cydymffurfio ag egwyddorion orgraff safonol yr iaith Gymraeg ar ddechrau’r 21
ganrif.
Cydnabod, fel man cychwyn, ffurfiau a argymhellir yn y ddau lyfr safonol, sef Rhestr
o Enwau Lleoedd / A Gazetteer of Welsh Place-Names (Elwyn Davies,
1967) (REL) a Welsh Administrative and Territorial Units (Melville
Richards, 1969) (WATU) ac argymhellion Pwyllgor Ymgynghorol Bwrdd yr Iaith ar
Safoni Enwau.
Cydnabod bod eithriadau sy’n gydnabyddedig yn genedlaethol, yn bennaf yn y
defnydd o’r cysylltnod. Maesteg, Llanrwst, Llanrug, Llandaf, Caerdydd
Ystyried tystiolaeth tarddiad ac ystyr pan fo hynny’n gymorth wrth drafod ffurf
ac orgraff. Eglwys Gymyn, Llan-non, Llandygái
Ymwrthod â ffurf bedantig, adferiad hynafiaethol, trosiad llythrennol a bathiad
creadigol Gwrecsam , Dyffryn (= Y Fali), Rhydwen (= Chwitffordd) oni bai bod tystiolaeth i’r ffurf ennill ei phlwyf yn lleol ac yn
genedlaethol: Brychdyn, Cei Connah
Ystyried tystiolaeth dafodieithol neu arferiad leol wrth drafod sillafu, ynganu
ac aceniad, yn arbennig os yw wedi ennill ei phlwyf yn genedlaethol Dole , Pencader, Cwm Cou, Froncysyllte ond glynu at orgraff safonol hyd y bo modd, gan gofio bod enw yn perthyn i
Gymru gyfan ac, efallai, yn ymddangos mewn sawl rhan o Gymru Biwmares, Cadair Idris, Blaeanau Gwent
Anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes llythyren neu ddwy o wahaniaeth
rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Seisnig’ (gan ochri gyda’r ffurf Gymraeg).
(Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnance ac awdurdodau’r priffyrdd. Tywi, Cilgeti, Llanfihangel Crucornau
ond cydnabod ffurfiau sefydlog Caeriw/Carew , Merthyr Tudful/Merthyr Tydfil
Gwahaniaethu rhwng enwau lleoedd a threflannau (pryd y dilynir y canllawiau
uchod) a safleoedd eilradd neu dermau tirweddol (pryd y gellir cyfeirio at yr
elfen generig yn y Gymraeg neu’r Saesneg). Hornby Cave/Ogof Hornby (Gogarth), Llwybr Clawdd Offa/Offa’s Dyke Path ond defnyddio’r Gymraeg yn unig os mai dyna’r ffurf gydnabyddedig Ynys Dulas , Coedydd Aber
Argymell nid deddfu.
Gochel rhag bathu a chyfieithu.
Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor
Datblygwyd gyda chymorth grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg