CySill

Archwilio Gair

Defnyddiwch Archwilio Gair i wirio sillafiad gair neu chwilio am air yng ngeiriadur CySill. Gallwch chi agor Archwilio Gair:

Teipiwch air yn y llinell olygu. Pan fydd CySill yn adnabod y gair hwnnw, bydd rhan ymadrodd y gair yn ymddangos yn y bocs oddi tano.

Mae'n bosib teipio ffurf rediadol berf, gair wedi'i dreiglo neu ffurf luosog enw yn y llinell olygu. Er enghraifft, wrth archwilio teipio, teipiodd neu theipiais, bydd y rhaglen yn adnabod pob un o'r rhain fel ffurfiau ar y ferf teipio. Yn yr un modd, bydd chymdeithas, gymdeithas a nghymdeithas yn cael eu nodi fel ffurfiau ar cymdeithas. Pe baech chi'n teipio ffurf luosog yn y llinell olygu, bydd y rhaglen yn rhoi'r ffurf unigol ac yn nodi ei fod yn lluosog.

Cliciwch ar hwn i gau ffenestr Archwilio Gair
Cliciwch ar 'Awgrymu' pan na fydd CySill yn adnabod y gair yn y llinell olygu. Bydd y rhaglen yn rhestru'r holl eiriau posibl y gellid eu defnyddio yn lle'r gair yn y llinell olygu. Trwy glicio ar air yn y rhestr, bydd yn ymddangos yn y llinell olygu ac fe fydd y rhan ymadrodd hefyd i'w weld yn y bocs oddi tano.
Cliciwch ar Thesawrws i weld rhestr o eiriau sydd ag ystyr tebyg i'r gair yn y llinell olygu. Gallwch rolio trwy'r geiriau hyn yn y blwch rhestru a gosod unrhyw air yn y llinell olygu trwy glicio arno.
Trwy glicio ar 'Ailosod', bydd y gair gwreiddiol a amlygwyd yn eich dogfen yn cael ei ailosod gan y gair sydd yn y llinell olygu. Wrth glicio ar y swyddogaeth hon byddwch yn dychwelyd yn awtomatig at eich prosesydd geiriau.
Pan fydd berf yn y llinell olygu, gallwch glicio ar 'Rhedeg' i agor deialog 'Rhedeg Berf'. Yn y deialog hwn, dangosir rhediad llawn y fer sy'n ymddangos yn y llinell olygu. Gallwch glicio ar yr amser berfol perthnasol i gael gweld y rhediad ar gyfer yr amser hwnnw. Nodir ffurfiau hynafol neu ffurfiau llenyddol â seren. Trwy glicio ar fotwm de'r llygoden dros unrhyw ferf, bydd y ferf honno'n cael ei chopïo i linell olygu Archwilio Gair. Gellir clicio ar 'Ailosod' i ludo'r ffurf yn ôl i'ch dogfen.

 

Gallwch chi ychwanegu gair dilys at eich geiriadur personol. Cewch gyfle wedyn i olygu rhan ymadrodd y gair hwnnw.

Cliciwch yma am ragor o fanylion am eich geiriadur personol.

Cliciwch ar hwn i agor y ffeil help.
Os ydych chi wedi llwytho CysGair ar eich cyfrifiadur, gallwch chi agor ef trwy glicio ar y botwm hwn.

Nôl
Ymlaen