CYWEIRIAU IAITH

 

nôl i’r dudalen hyfforddiant

 


 

Wrth gyfieithu testun, un o’r cwestiynau y dylai’r cyfieithydd ei holi ei hun yw pa fath o gywair iaith ddylai ei ddefnyddio. Fel arfer bydd cywair y cyfieithiad yn dilyn cywair y gwreiddiol, h.y. os yw’r gwreiddiol mewn iaith syml, agos atoch, dylai’r cyfieithiad fod mewn cywair tebyg. Os yw’r gwreiddiol mewn cywair technegol, ffurfiol, dylai hynny fod yn wir am y cyfieithiad hefyd. Weithiau bydd y cwsmer yn rhoi cyfarwyddyd pendant ynghylch hyn, yn enwedig os yw cywair y cyfieithiad i fod yn wahanol i gywair y gwreiddiol.

 

Enghraifft:

Ysbyty yn gofyn am gyfieithiad o gyfres o lyfrynnau i’r Gymraeg.

 

Roedd y llyfrynnau i fod i esbonio gwahanol driniaethau i gleifion, ac roedd hi’n bwysig fod yr iaith yn syml ac yn hawdd ei deall. Meddygon ymgynghorol oedd yr awduron gwreiddiol. Roedd rhai ohonynt yn medru ysgrifennu’n glir ac yn ddealladwy, ond roedd eraill yn defnyddio gormod o dermau anghyfarwydd ac roeddynt yn rhy dechnegol ar gyfer y cleifion. Gofynnwyd i’r cyfieithydd gyfieithu’r gyfres gyfan i gywair syml, clir, gan gadw mewn cof natur y gynulleidfa darged.

 

 

Os ydych yn defnyddio blaenddalen rheoli projectau, gallwch gynllunio lle ar y ffurflen i nodi manylion ynghylch cywair iaith y cyfieithiad. Os oes unrhyw amheuaeth yn eich meddwl, dylid trafod y mater gyda’r cwsmer. Cofiwch na fydd pob cwsmer yn deall beth yw cyweiriau iaith gwahanol, a heb erioed ystyried y cwestiwn. Bryd hynny, mae gofyn i’r cwsmer pwy yw’r gynulleidfa darged yn gymorth i ateb y cwestiwn.

 

Gall y broblem fod yn fwy dwys pan fo anghysondeb yn iaith y gwreiddiol, fel pan geir nifer o awduron gwahanol. Bryd hynny, gall rhagolygu’r gwreiddiol fod yn gymorth i safoni’r cyfieithiad hefyd. Unwaith eto, gall rhagolygu fod yn gysyniad dieithr i rai cwsmeriaid, ond os yw asiantaeth gyfieithu yn dymuno symud i’r maes hwn, mae rhagolygu testunau yn yr iaith wreiddiol yn wasanaeth ychwanegol y medrant ei gynnig i’w cwsmeriaid.

 

Unwaith bod y cyfieithydd yn deall pa gywair sy’n briodol i’r gwaith, bydd mewn gwell sefyllfa i wybod a ddylid defnyddio termau technegol yn y cyfieithiad, neu a yw geirfa annhechnegol yn fwy priodol. Mae llawer mwy o ryddid gyda geirfa annhechnegol i aralleirio, defnyddio cyfystyron, a geiriau gwahanol. Mae rhai pobl yn eu gwaith bob dydd wedi hen arfer a bod yn lladmerydd rhwng iaith dechnegol rhyw faes arbennig, a’r hyn sy’n ddealladwy i bobl gyffredin y tu allan i’r maes. Enghraifft o hyn yw’r ffordd y mae nyrsys yn dehongli geirfa feddygol i gleifion.

 

 

 

 

 

 

Mae Canolfan Bedwyr wedi datblygu canllawiau ar gyfer ysgrifennu a chyfieithu i Gymraeg syml, dealladwy sy’n cael ei alw yn Cymraeg Clir. Mae hwn yn cyfateb i gywair y Plain English yn Saesneg. Mae gwasanaeth cyfieithu Cymraeg Clir yn cael ei gynnig gan Ganolfan Bedwyr ei hun, a dim ond gan y Ganolfan, a’r rhai a awdurdodwyd ganddi, y mae’r hawl i osod nod Cymraeg Clir ar eu dogfennau. Fodd bynnag, mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi canllawiau Cymraeg Clir ar ffurf llyfr, sy’n cynnig arweiniad i gyfieithwyr ar yr egwyddorion cyffredinol i ysgrifennu mewn cywair syml a chlir. Manylion y llyfr yw: Cymraeg Clir (Canllawiau Iaith) gan Cen Williams. ISBN 1 898817 49 9. Pris: £4.95. Gellir ei archebu o’ch siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth Canolfan Bedwyr.

 

 


 

nôl i’r dudalen hyfforddiant