HYFFORDDIANT PELLACH

 nôl i’r dudalen hyfforddiant

 

 

Gyda datblygiadau newydd yn digwydd mor gyflym yn y byd cyfieithu, mae’n bwysig bod cyfieithwyr yn cadw’u gwybodaeth o’r maes yn gyfoes, ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi a chynadleddau perthnasol pan ddaw’r cyfle. Mae cael cyfle i gyfarfod cyfieithwyr eraill a chlywed am y datblygiadau diweddaraf yn y maes hefyd yn werthfawr, ac ni ddylid dibrisio cyfleoedd anffurfiol i rwydweithio fel ffordd o gyfrannu at eu datblygiad proffesiynol.

 

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn cynnig gweithdai a chynadleddau yn arbennig ar gyfer cyfieithwyr yng Nghymru. Ceir mwy o wybodaeth, ynghyd â manylion am sut i ddod yn aelod o’r Gymdeithas, ar eu safle gwe ar http://www.welshtranslators.org.uk/.

 

Mae rhai cynadleddau rhyngwladol yn y byd cyfieithu a therminoleg hefyd yn werth eu mynychu. Mae cynhadledd ASLIB yn Llundain bob blwyddyn “Translating and the Computer” yn canolbwyntio ar  ddatblygiadau newydd mewn cymhorthion cyfrifiadurol i gyfieithwyr, ac yn fodd clywed am y diweddaraf mewn technoleg cyfieithu. Ceir manylion am hon ar safle ASLIB: http://www.aslib.co.uk/conferences/index.html.

 

Mae EAFT, Cymdeithas Terminoleg Ewrop, hefyd yn cynnal cynadleddau o dro i dro ar faterion yn ymwneud â darparu terminoleg safonol ar gyfer cyfieithwyr. Ceir mwy o fanylion ar: http://www.eaft-aet.net/en/1aetce.htm. Mae gwybodaeth gynhwysfawr am weithgareddau terminoleg y byd rhyngwladol, ar gael gan INFOTERM ar http://linux.infoterm.org/.

 

 

nôl i’r dudalen hyfforddiant