nôl i'r dudalen hyfforddiant

 

Lleoleiddio

 

Ystyr y cysyniad o leoleiddio yw addasu cynnyrch i anghenion ieithyddol a diwylliannol y farchnad darged.

 

Mae’r cysyniad o leoleiddio yn berthnasol i’r cyfieithydd yn ogystal â’r cwsmer a gynhyrchodd y ddogfen sydd i gael ei chyfieithu yn y lle cyntaf. O ganlyniad, gellir ystyried yr uned hon yn yr un cyd-destun â’r uned ar ragolygu, fel ystyriaeth arall wrth gyfathrebu â chynulleidfa.

 

 

Ystyriaethau lleoleiddio

 

Ystyriwch y jôc ganlynol fel enghraifft:

 

Cwestiwn:    ‘Pryd mae ffermwr fwyaf gofalus o’i foch?’

Ateb:           ‘Pan fydd o’n siafio!’

 

Buasai bron ym amhosibl cyfieithu’r jôc yma i iaith arall gan ei bod yn dibynnu ar ddealltwriaeth sydd bron yn gynhenid, fod treiglo yn digwydd yn y Gymraeg gan addasu geiriau ac, yn yr achos yma, achosi amwysedd ystyr.

 

Ystyriwch eich bod eisiau chwarae ar eiriau yn y fath fodd ag uchod er mwyn gwerthu cynnyrch mewn gwlad neu trwy gyfrwng iaith arall. Buasai chwarae ar gymhlethdodau ieithyddol o’r fath yn anodd ac yn agos at fod yn amhosibl eu trosglwyddo rhwng ieithoedd.  Er hynny, fel arf marchnata mae chwarae ar eiriau yn bwysig iawn, ac efallai y byddai disgwyl i'r cyfieithydd gyfieithu brawddeg fachog yn Saesneg sy’n defnyddio slang neu eiriau mwys, sy’n gwneud dim synnwyr yn y Gymraeg.  Rhaid i ysgrifenwyr sylweddoli na ellir cyfieithu, na throsglwyddo hiwmor o un iaith i'r llall heb sôn am dros ffiniau gwledydd gwahanol.

 

Yn yr un modd gall enw cwmni neu gynnyrch fod ag ystyr ddifrïol neu gwbl wirion mewn iaith arall. Yn Tsieina yn ôl y sôn, cyfieithodd y cwmni Coca-Cola ei hysbysebion gan ddefnyddio’r seiniau ke-kou-ke-la. Ni ddeallodd y cwmni bod y frawddeg yn golygu ‘brathu’r penbwl cwyr’ neu ‘caseg wedi’i llenwi â chwyr’ yn dibynnu ar y dafodiaith. Ymchwiliodd Coca Cola wedyn 40,000 o nodau Tsieineaidd i ganfod cyfatebiad ffonetig agos sef ko-kou-ko-le sef rhywbeth tebyg i ‘ hapusrwydd yn y geg.’  Yn India hysbysebwyd y ddiod Horlicks gan dynnu sylw at ei gallu i atal bod eisiau bwyd yn y nos, ond yn ôl y sôn, fe'i cyfieithwyd i iaith Tamil fel 'ugain dyn yn cysgu o dan goeden.'  Mae sawl rhaglen deledu wedi defnyddio enghreifftiau o wledydd gwahanol lle mae gan gynnyrch enw sydd yn berffaith arferol yn iaith y wlad honno, ond sydd ag ystyr wahanol mewn ieithoedd eraill.

 

Yn aml hefyd bydd ymgais i gyfieithu enwau ffilmiau heb ystyried cynnwys y ffilmiau eu hunain.  O bosibl, byddai'n well i'r cwmni sy'n rhyddhau'r ffilm roi enw newydd sy'n fwy cydnaws â chwaeth y gynulleidfa.

 

Mae iaith ac arferion yn amrywio o wlad i wlad. Mae cath ddu yn croesi'r ffordd o flaen car yn arwydd o lwc ddrwg yn Sbaen ac yn arwydd o lwc dda yng Nghymru. Bu bron i'r cyfieithiad Sbaeneg o Gwladfa Patagonia, R. Bryn Williams (Gwasg Carreg Gwalch, 2000) fod yn llanastr cyn i'r golygydd nodi bod y cyfieithydd wedi defnyddio'r ferf 'coger'.  Yn Sbaeneg Sbaen mae defnyddio’r ferf 'coger' yn yr ystyr dal e.e. ‘cogió el tren a las seis’ (daliodd y trên am chwech o’r gloch), neu ddal gafael yn gwbl arferol, ond yn Sbaeneg nifer o wledydd yn America Ladin mae gan 'coger' ystyr rhywiol tra amheus.  Bydd ffilmiau tramor yn cael eu trosi i mewn i Sbaeneg America Ladin a Sbaeneg Sbaen oherwydd yr amrywiadau ieithyddol a diwylliannol sy'n bodoli rhwng y ddwy ardal. Nid yw'r enw Nova ar gar yn addas mewn gwledydd lle siaredir Sbaeneg er hynny, gan fod ‘no va’ yn golygu ‘nid yw’n mynd’. Er nad yw'n dibynnu ar gyfieithu hwyrach mai’r enghraifft fwyaf diweddar o gam gwag diwylliannol yw hysbyseb y cwmni siocled Cadbury’s yn India am siocled Temptations. Yn yr hysbyseb mae map o India a'r slogan "Rwyf yn rhy dda i gael fy rhannu. Be ydw i? Temptations Cadbury’s ynteu Kashmir?’ gan gyfeirio at yr ardal lle lladdwyd 36,500 o bobl ers 1986 o ganlyniad i ryfela rhwng Pacistan ac India.

 

Mae ystumiau corfforol ac arferion cymdeithasol hefyd yn amrywio o wlad i wlad. Mewn gwledydd Mwslemaidd er enghraifft, ystyrir y llaw chwith fel llaw aflan, ac yn draddodiadol ym Mhrydain ystyrir ei bod yn ddigywilydd pwyntio at bobl. Mewn nifer o wledydd ar gyfandir Ewrop mae cusanu wrth gyfarch pobl yn llawer mwy cyffredin nag y mae yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain. Yn Nghymru mae codi bawd yn gyfarchiad cyffredin sy'n cyfleu agosatrwydd ond mae wedi peri ofn i bobl o wledydd eraill sydd ddim yn gyfarwydd â'r ystum.

 

Yng Nghymru rydym wedi hen arfer gweld ymgyrchoedd hysbysebu a luniwyd yn Saesneg ond na ellir eu cyfieithu i'r Gymraeg i'w gwneud yr un mor fachog. Diffyg ystyriaeth o'r angen i gyfieithu i'r Gymraeg sy'n achosi hyn a gellir gwella'r sefyllfa gyda phroses lunio hysbyseb sy'n ystyried hynny. Yn well byth, byddai llunio hysbyseb dwyieithog o'r cychwyn yn y pendraw yn fwy effeithiol ac yn rhatach. Gellid hefyd lunio hysbyseb sy'n dibynnu ar yr ochr weledol yn llwyr. Wrth gwrs, fel arfer mae llun a slogan yn mynd law yn llaw er mwyn cryfhau'r ystyr. Ystyriwch y slogan yn erbyn yfed a gyrru 'Don't dice with death' oedd hefyd yn cynnwys llun o gar wedi ei gywasgu fel ei fod ar siâp dis.  Mae'n arf marchnata da iawn ond yn anffodus mae'n dibynnu'n llwyr ar ddywediad Saesneg na ellir ei gyfieithu i'r Gymraeg.  Serch hynny, mae yna enghreifftiau clodwiw iawn o sloganau Cymraeg sydd wedi cael eu cyfieithu, neu'n rhai gwreiddiol. Ystyriwch er enghraifft y slogan gan gwmni Lloyd's Motors, Aberystwyth yn hysbysebu car Land Rover 'Un garw am fod yn esmwyth' sy'n chwarae ar y defnydd o idiom Gymraeg ac yn defnyddio gwrthgyferbyniad.  Wrth gwrs, buasai'n anodd iawn cyfieithu'r slogan hwn i'r Saesneg. Enghraifft arall dda oedd slogan a welwyd ar faniau swyddfa’r post rai blynyddoedd yn ôl yn sôn am ‘godi ffôn i godi calon’, unwaith eto yn gwneud defnydd creadigol o idiom Gymraeg. Gwelwyd enghraifft o leoleiddio yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf mewn hysbyseb ar giât yn Fachwen ger Llanberis, Gwynedd. Edrychai'r hysbyseb yn debyg i hyn:

 

MAE'R TIR HWN YN

BREIFAT

 

DIM OND POBL LEOL,

GYDA'R NOS YN UNIG, A PHYSGOTWYR GYDA THRWYDDED GAIFF FYND Y FFORDD YMA.

RHOWCH HELP I NI I GADW'R YMWELWYR A THRESPAWSYR ODDI AR Y TIR HWN.

MAE LLWYBR CYHOEDDUS A DDEFNYDDIR YN YSTOD Y DYDD YN DECHRAU'N UWCH I FYNY'R FFORDD

THIS LAND IS

PRIVATE

 

ENTRY IS PROHIBITED UNLESS YOU ARE CARRYING A FISHING LICENSE.

 

THE PUBLIC FOOTPATH AND PADARN LAKE WALK TO LLANBERIS START FURTHER UP THE ROAD

 

 

Wedi'r cyfan, addasu cynnyrch i'r gynulleidfa darged yw diben lleoleiddio!

 

Er cystal y gall cyfieithiad fod, er hynny, ni all unrhyw gyfieithydd gyfieithu amrywiadau ieithyddol a diwylliannol fel eu bod yn union fel y gwreiddiol. Rhaid i gyfieithydd fod yn fwy na chyfieithydd llythrennol a bod yn ymwybodol o deithi ieithyddol a diwylliannol yr iaith a’r gynulleidfa a fydd yn darllen y cyfieithiad. Mae lleoleiddio yn golygu addasu cynnyrch, cynnyrch ieithyddol yn yr achos yma, er mwyn ei wneud yn addas yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol. Dylid ystyried os yw hyn yn wasanaeth ychwanegol y mae cyfieithydd yn ei gynnig, neu a yw'n rhan o waith dyddiol cyfieithydd.

 

Mae gan yr ysgrifennwr gwreiddiol gryn gyfrifoldeb yn yr achos yma dros baratoi dogfen sydd mor hawdd ei chyfieithu ag sydd bosibl. Yn ogystal â hyn, dylai sicrhau bod y cyfieithiad yn addas i’w gynulleidfa, wedi’r cyfan mae’r cyfieithydd yn siŵr o fod yn derbyn dogfen sydd wedi cael ei haddasu amryw o weithiau cyn cael ei chynhyrchu yn ‘derfynol’ ar gyfer y cyfieithydd.

 

 

Globaleiddio

Mae globaleiddio yn bwnc llosg mawr yn y byd y dyddiau hyn ond wrth gwrs mae cwmnïau mawr yn ddibynnol ar apêl eu cynnyrch yn rhyngwladol er mwyn gwneud elw. Er mwyn gwneud elw rhyngwladol rhaid i gwmni ddibynnu ar elw lleol.  Mae globaleiddio cynnyrch felly, gan ei wneud yn hygyrch i bawb, yn ddibynnol ar leoleiddio. I danlinellu hyn galwa banc yr HSBC ei hun yn ‘fanc lleol y byd’. Mewn geiriau eraill, er mwyn i gynnyrch rhyngwladol apelio at farchnadoedd gwahanol rhaid ei farchnata gan ystyried gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol y gwledydd ac ardaloedd gwahanol. Yn sylfaenol, er bod y syniad yn wrthun i nifer o bobl, er mwyn cystadlu ar lefel rhyngwladol, rhaid bod yn lleol. Er hynny, talcen caled iawn sydd gan gwmnïau Coca-Cola a Pepsi yn Saudi Arabia a gwledydd Islamaidd eraill, lle mae gwerthiant Zamzam Cola a gynhyrchir yn Iran wedi codi ar draul gwerthiant y cwmnïau rhyngwladol eraill, fel arwydd o brotest yn erbyn polisïau Unol Daleithiau America!

 

 

Rhyngwladoleiddio

Yn y cyd-destun hwn mae rhyngwladoleiddio yn hanfodol ar gyfer lleoleiddio gan mai’r syniad yw paratoi cynnyrch ‘niwtral’ y gellir ei leoleiddio yn hawdd. Gall hyn olygu creu rhaglenni cyfrifiadurol y gellir eu haddasu i sawl gwlad neu gall olygu sicrhau nad yw dogfen yn dibynnu ar hiwmor neu ar ddywediad arbennig. Ystyrier er enghraifft y gwahaniaeth mewn cyfeiriadau o wlad i wlad. Yn yr Unol Daleithiau defnyddir 'zip codes' sy’n wahanol i godau post a welir yng ngwledydd Prydain. Mae’r nodau a ddefnyddir wrth ysgrifennu yn amrywio rhwng ieithoedd. Mae gan rhai ieithoedd acenion, ac mae ieithoedd eraill megis Arabeg a Hebraeg yn rhedeg o’r dde i’r chwith yn groes i e.e. y Gymraeg sy’n rhedeg o’r chwith i’r dde. Byddai’n rhaid ystyried materion o’r fath wrth gynllunio cynnyrch neu feddalwedd. O ran cynnwys hefyd byddai’n rhaid ystyried gwahaniaethau sylfaenol megis ar ba ochr i’r lôn y gyrrir car, a maint, siâp a lliw gwrthrychau megis arian, bocsys llythyru, bysiau ac ambiwlansiau, heb sôn am gyfeiriadau at arferion diwylliannol.

 

Rhaid cofio hefyd am wahaniaethau yn y mesurau o wlad i wlad. Bellach defnyddir yr Euro mewn sawl gwlad Ewropeaidd, ond yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain parheir i ddefnyddio punnoedd.  Er gwaethaf deddfau Ewropeaidd o blaid y system fetrig mae nifer yng ngwledydd Prydain yn parhau i arddel yr hen system imperial o fesur a phwyso.  Rhaid sicrhau bod cysondeb a dealltwriaeth o ba fesuriad a ddefnyddir. Enghraifft eithafol o bethau’n mynd o chwith oherwydd amryfusedd rhwng dwy system o fesur yw un o brojectau NASA pan gymysgwyd mesuriadau metrig cydrannau a wnaed yn Ewrop gyda rhai imperial cydrannau a wnaed yn yr Unol Daleithiau, gan beri i’r cynllun cyfan fethu.  

 

 

Beth i'w wneud?

Ÿ            Mater i’r rhai sy’n cynhyrchu’r hyn sydd i gael ei gyfieithu fydd rhyngwladoleiddio cynnyrch er mwyn ei wneud yn hawdd ei addasu i’r gynulleidfa leol. Dylent fod yn ymwybodol bob tro o'u cynulleidfaoedd.

 

Ÿ            Dylai’r cyfieithydd sefydlu'r amodau gwaith ar gychwyn y broses gyfieithu gan drafod gyda’r cwsmer pwy fydd â'r cyfrifoldeb terfynol dros leoleiddio a chyfleu ystyr yn gywir.  Dylid egluro na ellir cyfieithu rhai pethau sy'n perthyn yn benodol i iaith neu ddiwylliant arbennig, ac y dylid ystyried y ddwy iaith cyn llunio dogfen neu ymgyrch ddwyieithog.  Mae hyn yn arbennig o wir wrth lunio ymgyrch hysbysebu a all fod yn ddibynnol iawn ar slogan penodol.  Wedi'r cyfan bydd sawl fersiwn 'derfynol' wedi cael ei baratoi yn yr iaith wreiddiol yn barod ac ni ddylid disgwyl i'r unig fersiwn a gyfieithir gan y cyfieithydd allu adlewyrchu'r meddwl a aeth i'r fersiwn gwreiddiol, oni thrafodir gyda'r cyfieithydd ymlaen llaw.

 

Ÿ            Os yw’r cyfieithiad dan sylw yn rhan o ymgyrch hysbysebu sy’n cynnwys lluniau, yna dylai’r cyfieithydd ofyn am gael gweld y lluniau hefyd er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn gweddu i’r delweddau gweledol. Mewn gwirionedd mae llunio slogan effeithiol ar gyfer ymgyrch o’r fath yn waith i arbenigwyr hysbysebu, nid cyfieithwyr, a dylai cyfieithwyr sy’n delio â gwaith o’r fath drafod y mater yn llawn gyda’r asiantaeth sy’n eu comisiynu. Hyd yn oed os yw hi’n rhy hwyr i newid pethau yn yr ymgyrch dan sylw, gall tynnu sylw’r asiantaeth at y broblem fod yn gymorth i sefydlu gwell trefn ar gyfer yr ymgyrch nesaf.

 

Ÿ            Mae dogfennau ac ymgyrchoedd hysbysebu sydd wedi ymgorffori ystyriaethau lleoleiddio yn llwyddiannus yn medru bod yn arfau marchnata grymus. Mae’n werth atgoffa cwsmeriaid nad baich ofer yw gofalu am y manylion hyn, ond ffordd i gael yr elw mwyaf o’u buddsoddiad gwreiddiol.

 

 

Llyfryddiaeth

Samuelsson-Brown, Geoffrey A Practical Guide for Translators, Multilingual Matters Ltd., 1993.

 

Newmark, Peter, About Translation, Multilingual Matters Lts, 1991.

 

Localization Industry Standards Association  www.lisa.org

 

Bezuidenhout, Ilze 'A Discursive-Semiotic Approach to Translating Cultural Aspects in Persuasive Advertisements.' http://ilze.org/semio/index.htm


nôl i'r brig