RHAGOLYGU DOGFENNAU
Prin yw nifer y cyfieithwyr a fyddai’n
gwadu eu bod wedi teimlo'n rhwystredig wrth wynebu dogfen sydd bron yn amhosibl
ei chyfieithu i'r Gymraeg oherwydd bod y gwreiddiol mor annealladwy ac astrus.
Gall hyn fod am sawl rheswm, gan gynnwys gormodedd o jargon, dogfen rhy
eiriog, ysgrifennwr sydd heb feddwl clir, arddull aruchel, camgymeriadau
sillafu ac atalnodi a lliaws o bethau eraill.
Mewn sefyllfa o'r fath, mae'r cyfieithydd
nid yn unig yn gorfod cyfieithu dogfen ond yn gorfod gwneud synnwyr ohoni
cyn cychwyn. Dylid ystyried y mater hwn yn y lle cyntaf a thrafod gyda'r cleient
i ba raddau y cewch:
·
newid/golygu/gwella mynegiant
y ddogfen wreiddiol mewn trafodaeth gyda'r awdur cyn ei chyfieithu
·
addasu'r cyfieithiad
i wella'r mynegiant e.e. a gewch chi dorri brawddegau yn rhai byrrach, neu
a oes rhaid glynu yn union wrth y gwreiddiol
·
os oes gennych gleient
cyson gallwch hyd yn oed argymell sut y gallant wella mynegiant eu gwaith.
Bydd hyn yn hwyluso'ch gwaith chi ac yn adlewyrchu'n well arnynt hwythau hefyd.
Gan fod y defnydd o gof cyfieithu wedi
dod yn gyffredin erbyn hyn, mae cysondeb arddull a mynegiant yn helpu’r gwaith
hwnnw. Bydd y rhaglenni hyn yn cyfieithu yn ôl yr uned, a gan amlaf yn ôl
yr uned o frawddeg. Y byrraf yw'r frawddeg felly, y uchaf yw'r tebygolrwydd
y bydd yn cyfateb i frawddeg arall yng nghof y rhaglen gyfieithu. Mae sgrifennu
cryno a gramadegol cywir felly’n bwysig. Dylai hefyd geisio bod yn ddiamwys,
ac mae hyn yn ddibynnol iawn ar eglurder yr atalnodi. Rhaid cofio mai adnabod
brawddegau cyfatebol y mae'r rhaglenni’n eu canfod ac nad oes ganddynt ddealltwriaeth
o wahaniaethau ystyr.
Er mai ar gyfer cyfieithu peirianyddol
neu gyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur y defnyddir y cysyniad o ragolygu
(pre-editing yn Saesneg) neu awduro rheoledig (controlled authoring), y mae hefyd yn berthnasol i gyfieithu
dynol gan arbed amser yn y pendraw i bawb ac yn arbennig i'r cyfieithydd sydd
ddim yn gorfod treulio'i amser yn ceisio gwneud pen a chynffon o waith sy'n
astrus i'w ddarllen.
Os y cewch y cyfle i olygu, neu ragolygu
cyfieithiad, neu gynghori awdur ynglŷn â sut mae ysgrifennu'n gliriach yna
dyma rai argymhellion i'ch cynorthwyo.
Ø
Cadw brawddegau'n fyr
gyda nifer fach o gymalau. Dywed y mudiad Plain English y
dylai pob brawddeg gynnwys rhwng 15 ac 20 o eiriau a dylai pob brawddeg gynnwys
un cysyniad yn unig. Mae cadw brawddegau'n fyr yn lleihau problemau atalnodi
a chymhlethdodau ystyr
Ø
Hepgor geiriau diangen
Ø
Trefnu brawddegau yn
rhesymegol
Ø
Peidio newid cystrawen
ar ganol brawddeg
Ø
Osgoi amwysedd ystyr,
gan dynnu sylw arbennig at atalnodi, rhestrau, y defnydd o'r fannod yn Saesneg
Ø
Cofio pwy yw'r gynulleidfa
darged ac addasu'r iaith a'r eirfa yn unol â hynny
Ø
Defnyddio'r eirfa gliriaf
ac osgoi'r defnydd o jargon wrth annerch cynulleidfa sy'n anghyfarwydd â'r
ieithwedd honno
Ø
Defnyddio berfau gweithredol
yn hytrach na goddefol
Ø
Defnyddio berfenw neu
ansoddair yn lle enw
Ø
Defnyddio rhestrau er
mwyn rhannu brawddegu yn llai a dangos pwyntiau yn glir
Ø
Gall amrywio'r gosodiad
wneud y mynegiant yn gliriach. Gellir defnyddio technegau megis tablau, graffiau,
bocsys, tanlinellu yn hytrach na thestun yn unig.
Wrth ddilyn y canllawiau hyn gall y cwsmer nid yn unig hwyluso gwaith y cyfieithydd ond bydd ei ddogfennau a'i waith papur hefyd yn ymddangos yn well. Bydd yn gallu trosglwyddo ei neges yn well i'w gynulleidfa a gall hynny yn ei dro gynyddu elw ac enw da cwmni.