CysGair
Sgrin CysGair
Y Bar Offer
Mae bar offer CysGair 2 yn cynnwys:
(noder: angen flash i ddangos hwn. Ar gael o http://www.macromedia.com)
Teipiwch air Cymraeg neu Saesneg yn y Bocs Geiriau. Wrth i chi deipio fe welwch chi'r Rhestr Eiriau yn cael ei diweddaru'n awtomatig i ddangos safle'r gair yn y geiriadur. Ar ôl gorffen teipio, gallwch glicio ar y botwm Chwilio(5) neu fe allwch bwyso 'Enter' i ddangos cyfeithiad y gair.
Trwy glicio ar y saeth i lawr, sydd i'r chwith o'r Bocs Geiriau, mae modd gweld rhestr syrthio sy'n dangos yr holl eiriau yr ydych wedi edrych arnynt mewn un sesiwn. Gellir rholio drwy'r rhestr a chlicio ar unrhyw air i fynd yn ôl i weld cyfeithiad y gair hwnnw.
Mae hwn yn mynd â chi yn ôl at y gair blaenorol yn y Rhestr Hanes.
Mae hwn yn dangos y gair nesaf yn y Rhestr Hanes.
Mae hwn yn archwilio'r gair sydd yn y Bocs Geiriau ac yn dangos y cyfieithiad
ohono yn y Ffenestr Ddiffinio.
Mae'r botwm yn cychwyn y Porydd Geiriau o'r gair presennol. Mae'r Porydd Geiriau
yn dangos y cysylltiadau rhwng geiriau ac yn galluogi'r defnyddiwr i weld diffiniadau
cysylltiedig ac i archwilio'r cyfieithiadau ohonynt. Trwy glicio ar y botwm
Pori ar y bar offer, bydd y gair neu'r ymadrodd sydd yn y Bocs Geiriau yn cael
ei gopïo a'i ehangu yn ffenestr y Porydd. Fe welwch chi hefyd bod cyfieithiad
y gair yn ymddangos yn y Ffenestr Ddiffinio.
Pan fydd icon ffolder felen gaeëdig wrth ochr gair, gallwch glicio ddwywaith ar y gair hwnnw i'w ehangu. Cliciwch ddwywaith ar ffolder agored ac fe'i gwelwch hi'n cau a'r gangen syrthio'n diflannu. Weithiau fe welwch chi icon tebyg i dudalen o bapur wrth ochr gair. Mae'n dynodi nad oes diffiniadau cysylltiedig yn y geiriadur ac nad oes modd ehangu'r gair ymhellach.
Pan ddewiswch chi air yn ffenestr y Porydd geiriau, gallwch glicio ar y botwm 'Bôn newydd' i osod y gair neu'r ymadrodd ar frig y gangen syrthio.
Mae hwn yn dangos mai Cymraeg-Saesneg yw iaith bresennol y geiriadur. Pan gliciwch
ar y botwm fe fydd CysGair 2 yn newid i eiriadur Saesneg-Cymraeg.
![]() |