YMCHWIL TERMAU AR Y WE
Gallwch ddefnyddio’r we i chwilio am
dermau
1.
drwy chwilio am restrau
termau ar y we
2.
drwy chwilio mewn dogfennau
ar y we
1.
Chwilio
am restrau termau ar y we
Mae rhyddid i unrhyw un bostio’i restr
termau ei hun ar y we, ac mae rhestrau fel hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin
mewn sawl iaith. Cofier fodd bynnag nad yw’r ffaith eu bod ar y we yn gwarantu
eu safon. Mae rhai o’r rhestrau yn ffeiliau testun syml, mae eraill yn eiriaduron
rhyngweithiol soffistigedig. Isod ceir detholiad o restrau termau defnyddiol
ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhestr arwyddion Cymraeg
i siopau (Bwrdd yr Iaith)
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/html/infolang/arwyddion-siopau-rhag-e.htm
Geiriadur Terminoleg Trefniadaeth Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (PDF) (Bwrdd yr Iaith)
http://212.38.78.27/pdf/cyfrol1.pdf
Cyfieithiadau o dermau y Rhwyd
http://www.fydd.org/d/gweirfa.html
Termau Addysg (Bwrdd yr Iaith)
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/pdf/termau-addysg.pdf
Termau Cyllid (Bwrdd yr Iaith)
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/pdf/termau-cyllid.pdf
geirfa cyfrifeg - gryno
http://users.aber.ac.uk/wip/cyfrifeg.htm
Geirfa Cyrsiau C>S
http://users.aber.ac.uk/wip/gcyrsics.htm
Geirfa Weinyddol C-S
http://users.aber.ac.uk/wip/gweics~1.htm
Geirfa Weinyddol S-C
http://users.aber.ac.uk/wip/gweisc~1.htm
Geirfa-Cyrsiau Saesneg -Cymraeg
http://users.aber.ac.uk/wip/geirfc~1.htm
Rhestrau Termau ac Enwau Cyrsiau (YR UNED GYFIEITHU, PCA, ABER)
http://users.aber.ac.uk/wip/
Termau Gwleidyddiaeth Ryngwladol C>S
http://users.aber.ac.uk/wip/gwleidcs.htm
Termau Gwleidyddiaeth Ryngwladol S>C
http://users.aber.ac.uk/wip/gwleidsc.htm
COFIWCH
Gallwch holi cyfieithwyr eraill am dermau trwy fynd yn aelod o'r
fforwm Welsh-Termau-Cymraeg ar www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg.html
2. Chwilio mewn dogfennau ar y we
Weithiau, er hynny, byddwch
angen ymchwilio i derm eich hun, er mwyn canfod ei ystyr,
ei darddiad, a'i gyd-destun mewn dogfennau
a meysydd eraill. Gyda'r wybodaeth yma gallwch benderfynu yn well yr hyn
fydd y term yn y Gymraeg.
Gallwch hefyd ymchwilio i weld pa derm
sydd fwyaf cyffredin. Os yw term yn arferedig yn barod yn ei faes, nid eich
lle chi fel cyfieithydd (na therminolegydd chwaith) fydd ei newid, neu greu
term newydd oni bai ei fod yn wallus o ran ystyr neu iaith. Wrth wneud ymchwil
ar y we gallwch weld pa derm sydd fwyaf cyffredin a'i ddewis, neu benderfynu,
wedi ymchwilio, pa ddefnydd sydd orau os oes sawl term gwahanol.
Mae chwilio am dermau mewn dogfennau
ar y we:
·
yn gyflym
·
yn gwneud y gwaith chwilio
yn eich lle chi
·
yn cynnig sawl ffynhonnell,
a'r mwyaf ( o fewn rheswm, gan y bydd yn rhaid ichi gael amser i gyfieithu
gweddill y ddogfen!) o enghreifftiau o'r defnydd a wneir o derm, gorau'n
y byd er mwyn gallu gweld pa un sydd fwyaf cyffredin
Pam ymchwilio termau ar
y we?
Ø
i ganfod mwy am ystyr
term. Efallai nad yw ar gael mewn geiriadur gan ei fod yn derm newydd sy'n
perthyn i faes penodol. Gellir gweld ym mha gyd-destun y bydd yn cael ei
defnyddio a bydd hynny yn egluro ei ystyr yn well.
Ø
i ganfod pa derm sy'n
cael ei ddefnyddio yn yr iaith darged i gyfateb i'r un gwreiddiol. Mae safleoedd
gwe dwyieithog yn arbennig o ddefnyddiol i wneud hyn.
Ø
gellir gweld pa derm yw'r
mwyaf arferedig, ac os yw'n synhwyrol gellir ei ddefnyddio
Lle i chwilio?
a. Mynegeion
Pwnc
b. Peiriannau
chwilio
c. Y we
ddofn
a. Mynegeion Pwnc
Os ydych yn edrych am y defnydd o derm
mewn maes arbennig yna mae mynegeion pwnc yn ddefnyddiol iawn gan eu bod
yn barod yn fynegeion i feysydd arbennig. Maent yn aml o well safon gan eu
bod yn cael eu rheoli gan berchnogion sy'n ymwneud â'r pwnc dan sylw, ac
sy'n arbenigwyr yn y maes. Mae hyn yn fwy tebygol byth os ydynt yn fynegai
pynciau academaidd. Mae Yahoo er enghraifft yn cynnwys mynegeion pwnc ond
maent yn rhai masnachol a rhaid cofio hynny wrth ymchwilio. Gweler y cysylltiad
yma i gael gwybod mwy am fynegeion pwnc http://library.albany.edu/internet/subject.html
http://www.rdn.ac.uk/vts/instructor/index.htm
Wedi cyrraedd mynegai i bwnc arbennig
gallwch chwilio gan ddefnyddio'r term y byddwch yn edrych amdano neu trwy
ddilyn llwybr sy'n mynd â chi'n agosach at y wybodaeth yr ydych yn ceisio
ei chael.
b.
Peiriannau chwilio
Mae rhain yn gronfeydd data o dudalennau'r
Rhyngrwyd sydd wedi cael eu casglu gan raglen cyfrifiadur, a gallwch chwilota
trwyddynt. Dyma'r arfau sydd fwyaf cyffredin wrth chwilio ar y we, gyda pheiriannau
megis Yahoo, Google, AltaVista ac ati yn bodoli. Bydd rhain yn trefnu'r wybodaeth
yn ôl ei pherthnasedd gan ddibynnu ar eu ffordd hwy o chwilio neu y ffordd
yr oeddech chi'n dymuno iddynt chwilio.
c.
Y We ddofn
Mae'r we ddofn yn cynnwys gwybodaeth
sydd wedi'i chadw mewn cronfeydd data y gellir chwilota trwyddynt. Mae rhain
yn cynnwys pethau megis geiriaduron ar-lein a newyddion sy'n newid trwy'r
amser e.e manylion teithiau awyren, prisiau,
swyddi, data cwmnïau.
Cyn dechrau, rhaid ystyried
:
q
Pa eiriau neu derm sy'n
allweddol?
q
A oes termau neu eiriau
cyfatebol neu debyg?
q
A oes ffyrdd gwahanol
o sillafu'r term?
q
Sut mae cyfuno'r geiriau
allweddol yn y modd gorau?
·
Yn sylfaenol, gallwch
fynd i beiriant chwilio a theipio'r gair neu'r thema y mae gennych ddiddordeb
ynddynt i mewn. Ceisiwch ddewis yr hyn sy'n amlwg ac agosaf at yr hyn rydych
yn chwilio amdano:
e.e. os
oes gennych ddiddordeb mewn moch yna yn hytrach na theipio anifeiliaid,
teipiwch moch, Mozart yn hytrach na cyfansoddwyr ayb. Os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, yna
y lleiaf cyffredinol y byddwch chi yna gorau'n byd.
·
Rhesymeg Boole
Bydd y
rhan fwyaf o'r peiriannau chwilio yn defnyddio'r hyn a elwir yn resymeg Boole
wrth chwilio. Mae'n cyfeirio at y berthynas resymegol rhwng y termau chwilio.
Mae'n dibynnu ar y tri gweithredydd, sef
OR
AND
NOT
OR
Mae'n cael
ei ddefnyddio gan fwyaf i chwilio am dermau neu syniadau sy'n gyfystyron
e.e. coleg a phrifysgol. Mewn chwiliad o'r fath byddwch yn cael yr holl gofnodion
sy'n cynnwys un o'r ddau derm neu'r ddau.
AND
Mae hwn
yn chwiliad ar gyfer cael cofnodion lle mae'r ddau derm chwilio yn bresennol.
Y mwyaf
o gysyniadau y byddwch yn eu cyfuno mewn chwiliad AND, yna'r lleiaf o gofnodion
y cewch chi.
NOT
Mae'r chwiliad
yma yn canfod cofnodion lle mai dim ond un o'r termau sy'n bresennol. Byddwch
yn ofalus wrth ei ddefnyddio oherwydd gall y term yr ydych ei eisiau fod
yn bresennol yn y dogfennau y dymunwch i'w hosgoi
Gellir
defnyddio'r uchod mewn peiriannau chwilio, neu byddant hefyd yn ddiofyn yn
ystyried bod maint y bylchau rhwng y geiriau yn cynrychioli'r gweithredoedd.
Mae hyn yn dod yn fwy cyffredin fel ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio
fel y safon cyffredinol gan y rhan fwyaf o beiriannau chwilio,
Gair1 (bwlch) Gair 2 |
AND sydd fwyaf cyffredin ond weithiau
gall fwlch olygu OR |
+gair1 |
Gair na ellir ei hepgor |
+gair1 +gair2 |
Gair 1 A Gair 2 |
gair1 –gair2 |
Gair 1 NID gair 2 |
gair 1 (bwlch) gair 2 +gair 3 |
Gair 1 A/NEU Gair 2 A Gair 3 |
Defnyddir
– i olygu hepgor term a + i'w gynnwys wrth
wneud chwiliad.
Weithiau hefyd bydd peiriant chwilio
yn rhoi'r cyfle ichi fynegi sut y byddwch eisiau chwilio gan egluro'r uchod
mewn brawddegau y byddwch yn cytuno neu'n anghytuno gyda hwy e.e. chwiliad
dwys Google
I gael mwy o wybodaeth ewch i http://library.albany.edu/internet/boolean.html
·
Os ydych eisiau edrych
am derm sy'n cynnwys sawl gair, mae'n syniad ei roi mewn dyfynodau fel nad
yw'r geiriau unigol yn cael eu hystyried ar wahân.
·
Gellwch ddefnyddio 'wildcards'
gyda rhai peiriannau chwilio er mwyn cynrychioli llythyren.
·
Mae gan bob beiriant chwilio
ei resymau ei hun dros y drefn y bydd yn cyflwyno canlyniadau chwiliad. Gall
y meini prawf hyn amrywio gryn dipyn o beiriant i beiriant felly gall fod
yn ddefnyddiol ichi edrych mewn mwy nag un peiriant chwilio wrth edrych am
derm.
·
Defnyddio'r
Gymraeg fel arf chwilio
O ran cael
gwybodaeth am y defnydd a wneir o dermau, yna does dim gwell na chorpws iaith
sy'n cynnwys yr holl gofnod posibl o iaith. Mae'n adnodd ymchwil da iawn
ar gyfer ymchwil termau ac ymchwiliadau ieithyddol ac eraill. Mae corpws
o'r iaith Gymraeg o’r enw CEG ar gael ym mhrifysgol Cymru Bangor. Gellir
gweld hwn ar http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/ceg/ceg_cym.html
Er hynny,
gellir ystyried yr holl ddeunyddiau Cymraeg sydd ar y we fel un corpws mawr.
Efallai mai ychydig o wybodaeth Gymraeg sydd ar y we o’i gymharu â'r ddarpariaeth
sydd ar gael mewn ieithoedd eraill, ond gall hyn fod yn fantais gan na fydd
chwiliad cyffredinol yn dychwelyd gymaint o ‘sbwriel’. Hefyd, os na chewch
lwc weithiau yn cynnig chwiliad Saesneg, gall chwiliad Cymraeg weithiau ganfod
tudalen yn gynt.
Cofiwch gadw cofnod o'ch chwiliad mewn cronfa ddata neu dabl er
budd eich gwaith yn y dyfodol, ac er mwyn gallu cyfiawnhau'r defnydd o derm
pe bai angen gwneud hynny.
Dim digon o ganlyniadau?
Weithiau
ni fyddwch yn cael llawer o gofnodion yn ymateb i chwiliad. Dyma rai resymau
paham:
Weithiau
mae defnyddio peiriant chwilio arall yn rhoi gwell canlyniadau i chi.
Gormod o ganlyniadau?
Does dim
yn waeth na chael miloedd ar filoedd o gofnodion a chithau ddim yn gwybod
pa rai sydd fwyaf dibynadwy. Gallwch fod wrthi am amser hir yn agor tudalennau
gwe i gael yr wybodaeth a chanfod bod yr wybodaeth yn ddiwerth i'ch pwrpas
chi. Bydd rhaid ichi bennu terfyn amser neu nifer o dudalennau y byddwch yn
edrych arnynt, neu gyfyngu eich chwiliad gan ddefnyddio'r argymhellion uchod,
a'r canlynol hefyd:
Anfanteision
y we
·
Nid yw nifer o beiriannau
chwilio yn rheoli safon yr hyn a gyhoeddir ar y we, felly byddwch yn ofalus
wrth benderfynu pa safleoedd y byddwch yn dibynnu arnynt i gael gwybodaeth.
Wrth chwilio weithiau ceir cymysgedd o safleoedd academaidd a rhai personol
gyda'i gilydd. Ystyriwch swyddogaeth, cynulleidfa, ffynhonnell, cynnwys,
ac arddull y darn wrth geisio sefydlu p'un a yw'n ddibynadwy ai peidio. Gweler
e.e. http://library.albany.edu/internet/evaluate.html
·
Mae rhai peiriannau chwilio
yn ddewisol am y wybodaeth y maent yn ei harddangos, gan ystyried cynnwys
tudalen flaen safle gwe yn unig heb ystyried cynnwys tudalennau eraill o
fewn y safle.
·
Sicrhewch felly eich bod
yn edrych ar gynnwys sawl tudalen i gael cynrychiolaeth decach o'r wybodaeth,
ac felly gallwch benderfynu yn well pa derm i'w ddefnyddio.
Tudalennau
gwe defnyddiol
Dyma safle gwe cynhwysfawr iawn yn cynnwys
gwybodaeth am sut i ymchwilio a thrin y we http://library.albany.edu/internet/checklist.html
Mynegai pynciau prifysgol http://www.vts.rdn.ac.uk/ yn arbennig o'i fewn http://www.rdn.ac.uk/vts/instructor/index.htm i gael sgiliau defnyddio ac ymchwilio'r we.