nôl i'r dudalen hyfforddiant

Cof Cyfieithu


Beth yw Cof cyfieithu?

Ffordd o ailgylchu hen gyfieithiadau fel na fydd byth angen cyfieithu'r un frawddeg ddwywaith yw cof cyfieithu. Yn aml wrth gyfieithu dogfennau ailadroddus (e.e. dogfennau cyfreithiol) neu ddogfennau sy'n cael eu diweddaru'n achlysurol, fe fydd y cyfieithydd cyffredin yn gweld ei hun yn ail-gyfieithu rhywbeth mae ef neu hi wedi'i gyfieithu o'r blaen. Y syniad y tu ôl i gof cyfieithu yw cael gwared o hyn, neu o leiaf ei leihau'n sylweddol trwy gynnig cyfieithiad o segment o ddogfen (brawddeg, pennawd, paragraff, pwynt bwled etc.) sydd wedi ei storio yn y cof o gyfieithiad blaenorol.


Sut mae'n gweithio?

Mae'r cyfrifiadur yn storio hen gyfieithiadau yn y cof, fesul segment. Os oes segment eisoes yn y cof o ddarn sydd i gael ei gyfieithu, bydd y cyfieithiad yn ymddangos ar y sgrin. Gellir gosod y feddalwedd i ddangos nid yn unig segmentau sy'n cyfateb 100% i segment yn y cof, ond rhai sy'n cyfateb i 70% neu 80%. Er enghraifft, os yw cyfieithiad pennawd yn y cof yn rhoi, "Adroddiad y Cwmni 2000", a bod y pennawd newydd yn mynd, "Company's Report 2001", bydd y feddalwedd yn cynnig y cyfieithiad cywir, "Adroddiad y Cwmni 2001". Bydd yn anwybyddu'r ffigwr cyn belled â bod canran y testun sy'n cyfateb i'w gilydd yn llai na 100%.

Trwy ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu, mae llawer o fudd yn dod i'r cyfieithydd:


Rhannu'r Cof

Mae modd defnyddio cof cyfieithu ar beiriannau unigol, ond mae cryfder meddalwedd o'r fath i'w weld ar ei orau pan fydd ganddo lawer o ddeunydd yn y cof. Golyga hyn ei bod hi'n fuddiol rhannu'r cof ag eraill. Er enghraifft, byddai'n fuddiol rhannu'r cof rhwng sefydliad cyfieithu, yn arbennig gan y gall llawer o'r cyfieithwyr fod yn gweithio ar ddeunydd tebyg.

Mewn sefydliad o'r fath, byddai'n rhaid storio'r cof ar wasanaethwr canolog gyda chyfieithwyr unigol yn tynnu ohono ac yn ychwanegu ato. Mae modd tagio segmentau gydag enw a dyddiad y ddogfen wreiddiol, enw'r cyfieithydd a gwybodaeth ddefnyddiol arall er mwyn gallu olrhain cyfieithiadau drwy'r system.

Mewn systemau soffistigedig hefyd, mae modd rhoi blaenoriaeth i rai cyfieithiadau dros eraill e.e. gwaith cyfieithwyr mewnol dros waith a roddwyd i gyfieithwyr allanol. Mae llawer o'r systemau diweddaraf yn dechrau cynnig rhannu cof ar draws y we. Byddai hyn yn ddefnyddiol iawn, yn arbennig i gyfieithwyr hunangyflogedig sydd heb y cyfle i rannu cof ar fewnrwyd a allai rannu'r cof gyda'i gilydd pan fo'n briodol.


Pa feddalwedd sydd ar gael?

Mae nifer o systemau cof cyfieithu masnachol ar y farchnad, ond y ddwy fwyaf blaenllaw yng Nghymru yw Trados a Déjà Vu. Ceir system arall, Wordfast, sydd ar hyn o bryd yn cael ei chynnig am ddim ar y we.


Am fanylion am Trados, gweler: http://www.trados.com

http://www.trados.com


Am fanylion am Déjà Vu, gweler: http://www.atril.com

http://www.atril.com


Am fanylion am Wordfast, gweler: http://champollion.net/

http://champollion.net

Sut i sefydlu Wordfast ar eich prosesydd geiriau.

I gychwyn, ewch i safle gwe Wordfast a'i lwytho i lawr i'ch cyfrifiadur. Neu fe allwch ei lwytho i lawr trwy glicio yma.

Agorwch y ffeil zip a chadw'r dogfennau y tu mewn i ffolder o'ch dewis chi, e.e. MyDocuments.

Os nad oes gennych feddalwedd i agor ffeiliau zip, llwythwch WinZip 8.1 i lawr o safle Winzip trwy glicio yma.

Bydd gennych ddwy ffeil, wordfast.doc a wordfast.dot. Agorwch wordfast.doc a'i darllen yn ofalus. Dilynwch y cyfarwyddiadau i fewnosod a defnyddio Wordfast.


Help gyda mewnosod wordfast.


Cam 1.) Yn y ddogfen wordfast.doc fe welwch yr adran Installing Wordfast. Os yw'n ymddangos fel yn y llun isod, cliciwch ddwywaith ar y link:

Double-click here to automatically install Wordfast

Os na, ewch i gam 5.


2.) Ar ôl gwneud hyn, fe fydd y botwm isod yn ymddangos:


3.) Cliciwch OK. Ar ôl ychydig eiliadau, fe fydd y botwm isod yn ymddangos.


4.) Cliciwch OK. Rydych nawr wedi mewnosod Wordfast ar Word. Darllenwch y gweddill o wordfast.doc i ddarganfod sut mae'n gweithio.


5.) Os nad oedd yn edrych fel y llun uchod, bydd yn ymddangos fel hyn:


6.) Dewiswch y linell las i gyd, a chlicio'r botwm dde. Yna, dewisiwch yr opsiwn Toggle Field Codes. Bydd hyn yn ei newid i fod fel y llun yng ngham 1. Nawr fe allwch ddilyn y cyfarwyddiadau o gam 1 i 4. Gweler y llun isod. (Noder: gellir gwneud hyn i unrhyw linell sy'n cychwyn: {MACROBUTTON... )


nôl i'r dudalen hyfforddiant