CySill


Cyflwyniad

Gwirio Sillafu

Mae gwirydd sillafu yn gweithio trwy gael hyd i eiriau unigol yn eich dogfen nad yw'n eu hadnabod, hynny yw geiriau nad ydynt yn ei eiriadur mewnol. Ar ôl oedi ar air dieithr, bydd y gwirydd sillafu'n awgrymu geiriau o'i eiriadur a all, o bosib, gael eu cyfnewid amdano. Mae'r rhaglen yn cynnig awgrymiadau trwy nodi gwahanol gyfuniadau o lythrennau sydd yn cyfateb i batrwm sillafu'r gair dieithr.


Gwirio Gramadeg

Mae gwirydd gramadeg neu arddull yn ceisio adnabod cyfuniadau o nifer o eiriau sy'n dangos strwythur gramadegol neu strwythur arddull arbennig. Caiff y strwythur ei archwilio o ran cywirdeb gramadegol neu briodoldeb o ran arddull. Yn y Gymraeg, er enghraifft, rhaid i ansoddair fel 'mawr' dreiglo'n feddal ar ôl enw benywaidd unigol, fel 'cath'. 'Cath fawr' sy'n gywir ac nid 'cath mawr'. Cyn belled â bod y rhaglen gyfrifiadurol yn gallu adnabod y strwythur hwn yn gywir (sef ansoddair ar ôl enw benywaidd unigol), bydd yn gallu wneud yn siwr bod yr ansoddair wedi'i dreiglo'n gywir. Oherwydd cymhlethdod y Gymraeg, efallai na fydd hi'n bosib adnabod strwythur gramadegol arbennig bob tro. Yn wir, mae'n bosib weithiau y bydd CySill yn oedi ar strwythur cywir ac yn cynnig awgrym. Er bod gwirydd gramadeg CySill yn llai datblygedig na'r gwirydd sillafu, mae'n dal i gynnig haen ychwanegol ar gyfer gwirio gwallau posibl mewn gwaith ysgrifenedig, cyn belled â'i fod yn cael ei ddefnyddio'n ddeallus.


Nôl
Ymlaen