Golygu
Beth yw ystyr golygu?
Mae gwahanol bobl
yn golygu gwahanol bethau wrth y term ‘golygu gwaith’. I rai, nid yw’n ddim
mwy na edrych dros eu gwaith eu hun yn frysiog i wneud yn siŵr nad oes
unrhyw gamgymeriadau amlwg ynddo. Mewn sefyllfa swyddfa broffesiynol fodd
bynnag mae gan y golygydd un neu fwy o’r swyddogaethau canlynol:
1.
Darllen testun i sicrhau cywirdeb ffeithiol
a phriodoldeb y cynnwys.
Bydd angen i’r golygydd
felly fod yn arbenigwr ar y pwnc dan sylw (e.e. hanesydd os mai cyfrol ar
hanes yw’r gwaith dan sylw, neu beiriannydd os mai llawlyfr peirianneg sy’n
cael ei gyhoeddi). Yn y math yma o olygu, bydd y golygydd naill ai yn gwneud
y newidiadau ei hun, neu yn trafod y testun gyda’r awdur gwreiddiol gan nodi
lle mae angen i hwnnw neu honno ymhelaethu/cwtogi neu newid y testun. Os mai
cyfieithiad yw’r testun, yna mae angen darllen y gwreiddiol a’r cyfieithiad
ochr yn ochr i sicrhau bod y cyfieithiad yn adlewyrchiad cywir o ystyr y testun
gwreiddiol.
2.
Asesu a chywiro’r testun o ran arddull
ac eglurder mynegiant.
Yn y sefyllfa hon
cymerir bod cynnwys y ddogfen dan sylw yn gywir (ond dylai golygydd da bob
amser dynnu sylw at gamgymeriadau ffeithiol amlwg yn y testun). Dyletswydd
y golygydd yn y math hwn o waith yw gwneud yn siŵr fod yr ystyr yn cael
ei fynegi’n glir a bod cywair yr iaith yn briodol i’r ddogfen dan sylw. Mewn
rhai sefyllfaoedd mae dogfennau yn cael eu golygu o ran eglurder i’w paratoi
ar gyfer cael eu cyfieithu i nifer o ieithoedd eraill, neu ar gyfer cael eu
cyfieithu’n beirianyddol (machine translation).
Yr enw ar hyn yw rhagolygu [linc].
3.
Cywiro testun o ran cywirdeb iaith
(gramadeg), gan gynnwys sillafu (orgraff) a chamgymeriadau teipio.
Bellach mae nifer
o raglenni meddalwedd ar gael sy’n mecaneiddio’r broses hon i raddau, er enghraifft
CySill [linc] sy’n cywiro sillafu a gramadeg yn y Gymraeg, a’r gwirydd sillafu
yn Microsoft Office XP [linc] sy’n cywiro sillafu yn y Gymraeg. Ni ellir dibynnu’n
llwyr ar hyd yn oed y goreuon o’r rhaglenni hyn fodd bynnag. Nid yw gwirwyr
gramadeg eto yn medru deall pob rheol ramadeg, a byddant weithiau yn awgrymu
cywiriad sydd ei hun yn anghywir. Maent yn gymorth felly i dynnu sylw at wallau
posibl, ond mae angen golygydd dynol o hyd i roi’r gair olaf ar gywirdeb gramadeg.
Mae gwirwyr sillafu yn ddefnyddiol i ganfod gwallau teipio a gwallau sillafu.
Os ceir gair nad yw’r rhaglen yn ei adnabod, bydd angen golygydd dynol o hyd
i ddewis y gair cywir o restr sy’n cael ei chynnig iddo, neu benderfynu bod
y gair yn gywir, ac yn bod, er nad yw’r rhaglen yn ei adnabod. Nid yw rhaglenni
gwirio sillafu fodd bynnag yn medru dweud os nad dyna’r sillafiad cywir ar
gyfer yr ystyr a fwriadwyd yn y cyd-destun yna (e.e. ‘yoke’ a ‘yolk’ yn Saesneg,
neu ‘mor’ a ‘môr’ yn y Gymraeg), ac unwaith eto, golygydd dynol ddylai fod
â’r gair olaf.
4. Cywiro proflen sydd wedi cael ei chreu ar gyfer
ei hargraffu.
Yr enw ar hyn yw
prawfddarllen. Mae’r term hwn weithiau’n cael ei ddefnyddio’n llac ar gyfer
yr holl brosesau golygu. Yr ystyr wreiddiol, a chywir fodd bynnag yw’r cam
olaf wedi i’r gwaith gael ei baratoi yn barod i’r camera (camera-ready), neu, yn achos deunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi ar y
we erbyn hyn, yn y fersiwn fydd yn ymddangos fel tudalen we. Pan oedd teip
ar gyfer argraffu yn cael ei osod â llaw, y pwrpas oedd gwneud yn siŵr
nad oedd unrhyw lythrennau wedi’u camosod. Erbyn hyn, edrych am symbolau sydd
wedi mynd yn rhyfedd wrth drosglwyddo o un system i’r llall ddylai fod y prif
waith yn ystod y cam hwn (e.e. y gosodiad yn mynd yn rhyfedd neu’r acenion
yn gwrthod trosi rhwng rhaglen brosesu geiriau megis Microsoft Word a rhaglen
argraffu bwrdd gwaith megis Quark Express, neu raglen gyhoeddi ar y we megis
Dreamweaver).
Cwestiynau i’w gofyn
Penderfynwch yn
gyntaf pa fath o waith olygu sydd dan sylw. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth
ddyfynnu pris am olygu testun mewn sefyllfa fasnachol. Mae’n bwysig ym mhob
sefyllfa eich bod chi’n deall beth yn union yw hyd a lled eich cyfrifoldebau
chi a’ch rhan yn y broses gyfan o ddarparu testun gorffenedig. Dylech ofyn
felly
Os mai golygu ar
gyfer cwmni cyhoeddi ydych chi dyma rai ystyriaethau pwysig:
Os mai golygu cyfieithiadau
yw eich gwaith, mae angen i chi wybod:
Rhai pethau i’w cofio wrth olygu testun o unrhyw fath:
·
Gall
y rhan fwyaf o bobl olygu yn well ar bapur nac ar sgrîn.
·
Defnyddiwch
wirydd sillafu a gramadeg, ond cofiwch na ellir dibynnu arnynt yn llwyr.
·
Byddwch
yn ofalus gyda rhestrau a phwyntiau bwled gan sicrhau nad oes rhai wedi
cael eu hepgor.
·
Os
yw dogfen yn disgrifio camau mewn gweithred, dilynwch y camau yn eich meddwl
i sicrhau eu bod yn ddealladwy.
·
Mae'n
anodd i berson weld ei gamgymeriadau ei hun wrth ysgrifennu neu gyfieithu.
Mae bob amser yn well cael rhywun arall i olygu’r gwaith. Os nad yw hyn
yn bosibl ceisiwch roi’r gwaith o’r neilltu am gyfnod er mwyn dod yn ôl
ato â llygaid ffres i’w olygu.
·
Neilltuwch
amser yn achlysurol i adolygu pwyntiau gramadegol a gwella eich dealltwriaeth
eich hun o iaith.
·
Ceisiwch
fod yn ymwybodol o’r camgymeriadau cyffredin rydych yn eu gwneud. Gallwch wneud rhestr ohonynt er mwyn sicrhau
eich bod yn talu sylw arbennig iddynt.
·
Defnyddiwch
eich bys neu ddalen o bapur i ddilyn pob gair wrth ei ddarllen a gorchuddio’r
testun sydd eto i’w olygu.
·
Gallwch
ddefnyddio'r adnodd 'trackchanges' o fewn Word er mwyn amlygu'r newidiadau
a wneir mewn testun. Gellir defnyddio'r adnodd i ddangos y newidiadau i’r
awdur/cyfieithydd gwreiddiol.
Wrth olygu cyfieithiad hefyd :
·
Ceisiwch
weld y cyfieithiad fel testun ar ei ben ei hun yn hytrach na fel cyfieithiad.
·
Os
ydych yn poeni fod cyfieithiad yn swnio’n annaturiol, darllenwch y ddogfen
allan yn uchel er mwyn adnabod y darnau sy’n peri trafferth
Yn ôl ambell un, dyfodol cyfieithu fydd golygu, gan
y bydd mwy byth o ddefnydd o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol.
Dyma rai argymhellion ar gyfer darllen proflenni:
·
Dylech
drafod gyda'r cwsmer os ydych yn gyfrifol am brawf ddarllen hefyd. Does
dim sy'n waeth na gweld dogfen wedi'i chyfieithu'n gywir yn cael ei chyhoeddi
yn llawn camgymeriadau y gallasid eu hosgoi. Yn bwysicach na hyn, gall adlewyrchu
yn wael iawn ar y cyfieithydd ei hun.
·
Dylech
edrych yn fanwl ar benawdau.
·
Dylech
edrych yn fanwl ar droednodiadau.
·
Dylech
edrych ar ysgrifen sy'n fân iawn, megis troednodiadau.
·
Dylech
gofio geiriau sy'n debyg i rai eraill y gall y gwirydd sillafu fod wedi'u
camgymryd, yn arbennig rhai sy'n dibynnu ar acenion i'w gwahaniaethu oddi
wrth air arall.
·
Dylid
sicrhau bod rhifau'n gywir.
·
Dylid
sicrhau bod enwau priod yn gywir.
Darllen pellach
Mae sawl tudalen
gwe ar gael sy'n rhoi syniadau ar sut i olygu testun. Rhaid cofio bod rhain
yn aml yn defnyddio'r geiriau golygu a phrawf ddarllen fel cyfystyron. Mae
rhai tudalennau hefyd yn canolbwyntio ar brawf ddarllen a golygu deunydd nas
cyfieithwyd, ond gellir cymhwyso'r technegau hyn i faes cyfieithu. Dyma rai
tudalennau gwe a llyfrau defnyddiol:
·
LR
Communication Systems, Inc.
www.lrcom.com/tips/proofreading-editing.htm
·
Purdue
University, OWL Online Writing Lab
owl.english.purdue.edu/handouts/general/gl_stepedit.html
owl.english.purdue.edu/handouts/general/gl_proof2.html
·
Samuelsson-Brown,
Geoffrey A Practical Guide
for Translators, Multilingual Matters Ltd, 1993.
·
Hughes,
J. Elwyn Canllawiau Iaith a Chymorth
Sillafu, Gomer, Llandysul, 1997. (Yr adran ar nodau cywiro wrth brawfddarllen
yn arbennig)