YSTYRIAETHAU IECHYD A DIOGELWCH
WRTH WEITHIO GYDA CHYFRIFIADUR
nôl i'r dudalen hyfforddiant
Cynnwys
1. Y Cyfrifiadur a'r orsaf waith
2. Sgrin/Monitor
3. Bysellfwrdd
4. Llygoden
5. Dodrefn
6. Ystum y Corff
7. Amgylchedd Gweithio
8. Amser
9. Rheoliadau
10. Pethau i'w cofio
11. Cysylltiadau
Wrth weithio gyda chyfrifiaduron mae ystyried iechyd a diogelwch yn bwysig,
nid yn unig oherwydd bod gan y gweithiwr a'r cyflogwyr gyfrifoldebau cyfreithiol
dros iechyd a diogelwch yn y gwaith, ond hefyd oherwydd bod cadw at y safonau
hyn yn bwysig er budd iechyd y gweithiwr, ac o ganlyniad, ei allu i weithio
a'i fwynhad o wneud. I'r cyflogwr golyga gweithiwr iach a bodlon weithiwr mwy
effeithlon. Yn gyfreithiol mae'n rheidrwydd ar y cyflogwr i roi'r wybodaeth
angenrheidiol i'r gweithiwr fel y gall weithio yn yr amgylchedd a'r modd mwyaf
diogel, fel y dangosir yn yr adran Rheoliadau isod.
Y Cyfrifiadur a'r orsaf waith
Efallai, er mwyn cael amgylchedd gwaith derbyniol nad yw'n bygwth ei echyd,
y bydd yn rhaid i'r gweithiwr newid agweddau ar ei swyddfa neu orsaf waith.
Gall y defnydd anghywir neu anaddas o gydrannau gwahanol y cyfrifiadur neu'r
Uned Arddangos Weledol arwain at boenau ac anhwylderau amrywiol. Yma byddwn
yn trafod y defnydd o'r cydrannau hyn. Efallai y bydd rhai ystyriaethau yn ymddangos
fel dim mwy na synnwyr cyffredin ond o'u dilyn gallasid osgoi problemau iechyd
yn y gweithle.
nôl i'r top
Sgrin/Monitor
Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yr HSE) nid oes tystiolaeth
bod defnyddio unedau arddangos gweledol yn achosi niwed parhaol i'r golwg, ond
gall defnyddio sgriniau achosi llygaid sych, blinedig a phoenus a chur pen.
Wrth osod y sgrin dylid ystyried y canlynol:
Lleoliad
- Dylai'r sgrin fod tua 30cm i ffwrdd oddi wrth y defnyddiwr, ond mewn gwirionedd
dylai fod mor bell oddi wrth y defnyddiwr ag sy'n gyffyrddus gan fod edrych
yn bell yn ymlacio'r llygaid
- Dylid gosod y monitor mewn safle sy'n hwylus ac yn gyffyrddus i edrych arno.
Fel canllaw dylai rhan uchaf y sgrin fod ar yr un uchder â'ch llygaid, ond
mae'n amrywio o berson i berson
Golau
Rhaid cael y cydbwysedd cywir o olau yn y man gwaith
- Mae'n bwysig bod dosbarthiad da o olau, sef bod yr holl wrthrychau o'ch
cwmpas yr un mor llachar
- Sicrhewch nad oes un ffynhonnell llachar iawn o olau yn eich gweithfan,
megis lamp desg neu oleuni'r haul
- Gallwch ddefnyddio llenni a chysgodlenni sy'n caniatáu goleuni i ddod i
mewn ond yn cadw golau llachar draw
- Yn aml mae mwy o olau yn yr ystafell nag ar y sgrin ei hun gan ei gwneud
hi'n anghyffyrddus i'r llygaid, gan achosi adlewyrchiad o'r sgrin
- Sicrhewch bod digon o olau ar gyfer darllen dogfennau papur
- Efallai y bydd yn rhaid addasu ongl yn unol â'r golau sydd ar gael
Sglein/Llacharedd
Mae sglein ar sgrin yn lleihau eglurder yr hyn a welir oherwydd ei fod yn lleihau'r
cyferbyniad lliwiau, gan orfodi'r defnyddiwr i graffu ar y sgrin.
Er mwyn osgoi sglein, dylid ystyried:
- Osod sgrin gwrth adlewyrchu dros y monitor
- Orchuddio neu geisio cael gwared o achosion llacharedd tu cefn ichi, megis
trwy gau llenni neu ddiffodd golau llachar
- Defnyddio nodau tywyll ar gefndir golau gan eu bod yn cael eu heffeithio
lai gan adlewyrchiadau na nodau golau ar gefndir tywyll
- Os oes rhaid, symud allan o lwybr golau llachar iawn
- Addasu disgleirdeb a chyferbyniad y sgrin i gyd fynd â chyflwr goleuo'r
ystafell
- Sicrhau bod lliwiau'r sgrin yn teimlo'n gyffyrddus i'r llygaid
Fflachio
Weithiau gall nodau ar sgrin ymddangos fel petaent yn fflachio. Dylid addasu
faint mae'r sgrin wedi cael ei ffocysu, ac os nad yw'n gwella dylid sicrhau
bod y monitor yn gweithio'n iawn.
Ystyriaethau eraill
- Gellir addasu maint y nodau ar y sgrin er mwyn eu darllen yn haws, heb addasu
maint gwirioneddol y testun
- Os bydd y gweithiwr yn cael trafferth gyda'i olwg dylai ystyried cael prawf
llygaid. Yn gyfreithiol mae'n ofynnol i'r cyflogwr dalu am brawf llygaid ar
gais y gweithiwr
- Yn aml mae rhywbeth mor syml â glanhau sgrin y cyfrifiadur yn gwella
gallu'r defnyddiwr i ddarllen y sgrin
nôl i'r top
Bysellfwrdd
Fel ym mhob agwedd arall dylid eistedd yn gyffyrddus wrth fysellu. Mae'r dechneg
fysellu yn bwysig.
Yn ddelfrydol:
- Dylai'r bysellfwrdd fod o flaen y gweithiwr ar yr un lefel â'r penelin
- Ni ddylid ymestyn tuag at y bysellfwrdd
- Dylai bod digon o le i orffwys y dwylo o flaen y bysellfwrdd
- Ni ddylai'r dwylo fod wedi'u plygu ger yr arddyrnau
- Ni ddylid gorymestyn y bysedd
- Dylid bysellu gyda chyffyrddiad ysgafn ar y bysellau
- Dylid eistedd fel bod y dwylo ar ongl 90°, neu siâp L wrth fysellu
- Ni ddylid defnyddio gliniadur am gyfnodau maith
Dylid ystyried:
- A yw'r bysellfwrdd yn ddigon trwm a chadarn i aros yn ei unfan wrth fysellu
- A ellir darllen y llythrennau ar y bysellau yn glir
- Y math o fysellfwrdd a'i siâp ac ergonomeg. Dylid ystyried defnyddio un
gwahanol sydd wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer pobl sy'n cael anawsterau
os nad yw'r gweithiwr yn hapus gyda'r bysellfwrdd presennol
nôl i'r top
Llygoden
Gall defnydd gormodol o'r llygoden arwain at boenau yn yr ysgwyddau, breichiau,
bysedd, dwylo a'r arddyrnau.
Dylid:
- Gosod y llygoden mewn man cyfleus, yr agosaf i'r bysellfwrdd y gorau
- Ei ddefnyddio gyda'r arddwrn yn syth
- Eistedd yn gefnsyth ac yn agos i'r ddesg er mwyn peidio ag ymestyn y breichiau
yn ormodol
- Gorffwys yr elin ar y ddesg
- Peidio gafael yn y llygoden yn rhy dynn
- Peidio pwyso'r botymau yn rhy galed
- Rhoi'r bysedd yn ysgafn ar y botymau
Os yw'r gweithiwr yn cael poenau dylai ystyried y canlynol:
- Maint a siâp y llygoden, efallai y dylai ddefnyddio un o siâp neu faint
gwahanol sy'n fwy cyffyrddus
- Os bydd yn defnyddio'r llygoden am amser hir dylai gymryd digon o seibiau
oddi wrth y llygoden, neu amrywio'r gwaith
- Gall newid y llaw sy'n defnyddio'r llygoden
- Bob hyn a hyn gall dynnu'r llaw oddi ar y llygoden a gadael i'r fraich hongian
yn rhydd i lawr o'r ysgwydd
nôl i'r top
Dodrefn
Dylai'r dodrefn a ddefnyddir ganiatáu i'r gweithiwr eistedd a gweithio yn y
modd mwyaf cyffyrddus.
Dylid ystyried y canlynol:
- Bod digon o le ar gyfer gosod yr holl gyfarpar mewn mannau ar ddesg sy'n
gyffyrddus i'r gweithiwr, fel nad oes yn rhaid iddo ymestyn at yr offer
- Bod digon o le o dan y ddesg i symud y coesau ac i gadw ystum cyffyrddus
i'r corff wrth weithio
- A yw cefn y gadair yn cynnal y cefn mewn modd gyffyrddus A ellir addasu
cefn y gadair
- A oes pwysau gormodol yn cael ei roi ar gefn y coesau a'r pengliniau? A
fyddai'n ddoeth defnyddio mainc droed, yn arbennig pobl fyrrach
- Dylai fod gan bob cadair bum troed sy'n rhoi digon o gynhaliaeth i'r gweithiwr
- Dylai breichiau'r gadair ganiatáu gosod y breichiau ar ongl o 90°,
neu siâp L.
nôl i'r top
Ystum y corff
Dylai'r gweithiar eistedd yn y modd mwyaf cyfleus a chyffyrddus.
Ystyriwch:
- Addasu eich cadair a'ch desg a'ch cyfarpar gweithio i safle sy'n gyfleus
a chyffyrddus i chi gan ystyried y wybodaeth sydd yn yr uned hon fel cyfarwyddyd.
- Fel canllaw dylai eich elinau fod yn weddol o llorwedd, a dylai rhan uchaf
yr uned arddangos weledol (VDU) fod mor uchel â'ch llygaid
- Beidio eistedd yn yr un safle am gyfnodau hir. Gwnewch yn siwr eich bod
yn newid ystum eich corff cyn amled ag sy'n ymarferol
nôl i'r top
Amgylchedd gweithio
Dylai'r amgylchedd fod yn bleserus i weithio ynddo.
Dyma rai ystyriaethau:
- Dylid sicrhau bod digon o le i weithio ynddo a bod digon o bellter rhwng
y gweithwyr yn y gweithle
- A oes rhaid ymestyn llawer i gyrraedd at offer?
- A yw'r ystafell yn ddigon cynnes?
- A oes digon o awyr iach, ond dim gormod o ddrafft?
- A yw'r gweithle yn fan dim ysmygu?
nôl i'r top
Amser
Wrth gwrs mae'r amser a dreulir wrth Uned Arddangos Weledol heb gael gorffwys
yn dibynnu ar y gwaith.
Dylid ystyried y canlynol:
- Mae darllen y sgrin, bysellu a defnyddio llygoden am gyfnodau maith heb
saib yn siwr o flino unigolyn
- Ystyrir na ddylid gweithio mwy na 90 munud neb gael 15 munud o orffwys,
neu newid gweithgaredd. I bob 30 munud o waith felly dylai'r gweithiwr gymryd
5 munud o saib
- Y gred gyffredinol yw bod seibiant byr yn aml yn well na rhai hir yn anaml
- Dylid ceisio cymryd seibiant oddi wrth y sgrin er mwyn gwneud gweithgaredd
o fath arall.
nôl i'r top
Rheoliadau
Yn ôl llawlyfr yr HSE Gweithio gyda VDU's, mae'r Rheoliadau Diogelwch
(Cyfarpar Sgrin Arddangos) 1992 a ddaeth i rym ym mis Ionawr 1993 i weithredu
Cyfarwyddyd y Gymuned Ewropeaidd 'yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyflogwyr leihau'r
risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith VDU drwy sicrhau y cynllunnir gweithleoedd
a swyddi yn dda.' Eglura'r llawlyfr 'nid yw'r Rheoliadau'n cynnwys manylebau
technegol manwl na rhestrau o gyfarpar cymeradwy. Yn hytrach, maent yn pennu
amcanion mwy cyffredinol.' Er mwyn cydymffurfio, mae'r rhain yn cynnwys:
- 'Dadansoddi gorsafoedd gwaith, ac asesu a lleihau risgiau
- Sicrhau bod gorsafoedd gwaith yn cwrdd ag isafswm y gofynion
- Cynllunio gwaith fel bod seibiannau neu newid mewn gweithgaredd
- Trefnu prawf llygad a darparu sbectol os bydd angen rhai arbennig yn ôl
y gofyn
- Darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch a gwybodaeth'
Mae'r Rheoliadau hefyd yn berthnasol i bobl sy'n gweithio adref. Nid ydynt,
er hynny, yn gosod unrhyw gyfrifoldeb ar yr hunangyflogedig, er bod rhannau
o'r Rheoliadau yn berthnasol. Fodd bynnag, mae'n synhwyrol gweithio mewn man
sydd mor gyffyrddus â phosibl.
nol i'r top
Cofiwch
Os ydych yn dioddef poenau y credwch sy'n gysylltiedig â'ch gwaith yna:
Peidiwch â dioddef yn ddistaw
Siaradwch â'ch cyflogwr am y mater
Ewch i weld meddyg neu optegydd
Sicrhewch bod eich man gwaith a'ch amodau gweithio mor gyffyrddus â sydd
bosibl. Gallasai newidiadau yn eich cyfarpar neu eu safle arwain at welliant
Sicrhewch bod eich man gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau perthnasol
Ystyriwch y canllawiau uchod
Cofiwch mai canllawiau bras a geir yma a bod mwy o wybodaeth arbenigol a manylach
ar gael gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gweler y cysylltiadau isod)
neu gan Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol neu gan eich cyflogwyr.
nôl i'r top
Cysylltiadau
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Caerdydd
Adeiladau'r Llywodraeth
Ty Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5SH
Ffôn: 01222 263000
Ffacs: 01222 263120
Caerfyrddin
Adeiladau Porth Tywyll
3 Lôn Goch
Caerfyrddin
SA31 1QL
Ffôn: 01267 232823
Ffacs: 01267 223267
Wrecsam
Adeiladau'r Goron
31 Stryd Caer
Wrecsam
LL31 8AN
Ffôn: 01978 290500
Ffacs: 01978 355669
http://www.hse.gov.uk/
http://www.hse.gov.uk/welsh/index.htm
Mae sawl safle gwe ar gael sy'n cynnig gwybodaeth a chanllawiau Iechyd a Diogelwch
gan gynnwys safleoedd gwe rhai prifysgolion, undebau llafur a chynghorau lleol.
e.e:
http://www.healthycomputing.com
nôl i'r top
nôl i'r dudalen hyfforddiant