nôl i'r dudalen hyfforddiant
Ystyr
y cysyniad o leoleiddio yw addasu cynnyrch i anghenion ieithyddol a
diwylliannol y farchnad darged.
Mae’r
cysyniad o leoleiddio yn berthnasol i’r cyfieithydd yn ogystal â’r cwsmer a
gynhyrchodd y ddogfen sydd i gael ei chyfieithu yn y lle cyntaf. O ganlyniad,
gellir ystyried yr uned hon yn yr un cyd-destun â’r uned ar ragolygu, fel
ystyriaeth arall wrth gyfathrebu â chynulleidfa.
Ystyriaethau lleoleiddio
Ystyriwch
y jôc ganlynol fel enghraifft:
Cwestiwn: ‘Pryd mae ffermwr fwyaf gofalus o’i foch?’
Ateb: ‘Pan fydd o’n siafio!’
Buasai
bron ym amhosibl cyfieithu’r jôc yma i iaith arall gan ei bod yn dibynnu ar
ddealltwriaeth sydd bron yn gynhenid, fod treiglo yn digwydd yn y Gymraeg gan
addasu geiriau ac, yn yr achos yma, achosi amwysedd ystyr.
Ystyriwch
eich bod eisiau chwarae ar eiriau yn y fath fodd ag uchod er mwyn gwerthu
cynnyrch mewn gwlad neu trwy gyfrwng iaith arall. Buasai chwarae ar
gymhlethdodau ieithyddol o’r fath yn anodd ac yn agos at fod yn amhosibl eu
trosglwyddo rhwng ieithoedd. Er hynny,
fel arf marchnata mae chwarae ar eiriau yn bwysig iawn, ac efallai y byddai
disgwyl i'r cyfieithydd gyfieithu brawddeg fachog yn Saesneg sy’n defnyddio
slang neu eiriau mwys, sy’n gwneud dim synnwyr yn y Gymraeg. Rhaid i ysgrifenwyr sylweddoli na ellir
cyfieithu, na throsglwyddo hiwmor o un iaith i'r llall heb sôn am dros ffiniau
gwledydd gwahanol.
Yn
yr un modd gall enw cwmni neu gynnyrch fod ag ystyr ddifrïol neu gwbl wirion
mewn iaith arall. Yn Tsieina yn ôl y sôn, cyfieithodd y cwmni Coca-Cola ei
hysbysebion gan ddefnyddio’r seiniau ke-kou-ke-la. Ni
ddeallodd y cwmni bod y frawddeg yn golygu ‘brathu’r penbwl cwyr’ neu ‘caseg
wedi’i llenwi â chwyr’ yn dibynnu ar y dafodiaith. Ymchwiliodd Coca Cola wedyn 40,000 o nodau
Tsieineaidd i ganfod cyfatebiad ffonetig agos sef ko-kou-ko-le
sef rhywbeth tebyg i ‘ hapusrwydd yn y geg.’
Yn India hysbysebwyd y ddiod Horlicks gan
dynnu sylw at ei gallu i atal bod eisiau bwyd yn y nos, ond yn ôl y sôn, fe'i
cyfieithwyd i iaith Tamil fel 'ugain dyn yn cysgu o
dan goeden.' Mae sawl rhaglen deledu
wedi defnyddio enghreifftiau o wledydd gwahanol lle mae gan gynnyrch enw sydd
yn berffaith arferol yn iaith y wlad honno, ond sydd ag ystyr wahanol mewn
ieithoedd eraill.
Yn
aml hefyd bydd ymgais i gyfieithu enwau ffilmiau heb ystyried cynnwys y
ffilmiau eu hunain. O bosibl, byddai'n
well i'r cwmni sy'n rhyddhau'r ffilm roi enw newydd sy'n fwy cydnaws â chwaeth
y gynulleidfa.
Mae
iaith ac arferion yn amrywio o wlad i wlad. Mae cath ddu yn croesi'r ffordd o
flaen car yn arwydd o lwc ddrwg yn Sbaen ac yn arwydd o lwc dda yng Nghymru. Bu
bron i'r cyfieithiad Sbaeneg o Gwladfa
Patagonia, R. Bryn Williams (Gwasg Carreg Gwalch, 2000) fod yn llanastr cyn
i'r golygydd nodi bod y cyfieithydd wedi defnyddio'r ferf 'coger'. Yn Sbaeneg Sbaen mae defnyddio’r ferf 'coger' yn yr ystyr dal e.e. ‘cogió
el tren a las seis’
(daliodd y trên am chwech o’r gloch), neu ddal gafael yn gwbl arferol, ond yn
Sbaeneg nifer o wledydd yn America Ladin mae gan 'coger'
ystyr rhywiol tra amheus. Bydd ffilmiau
tramor yn cael eu trosi i mewn i Sbaeneg America Ladin a Sbaeneg Sbaen oherwydd
yr amrywiadau ieithyddol a diwylliannol sy'n bodoli rhwng y ddwy ardal. Nid
yw'r enw Nova ar gar yn addas mewn gwledydd lle
siaredir Sbaeneg er hynny, gan fod ‘no va’ yn golygu ‘nid yw’n mynd’. Er nad yw'n dibynnu ar
gyfieithu hwyrach mai’r enghraifft fwyaf diweddar o gam gwag diwylliannol yw hysbyseb y cwmni siocled Cadbury’s yn India am siocled Temptations.
Yn yr hysbyseb mae map o India a'r slogan "Rwyf yn rhy dda i gael fy
rhannu. Be ydw i? Temptations Cadbury’s ynteu Kashmir?’ gan
gyfeirio at yr ardal lle lladdwyd 36,500 o bobl ers 1986 o ganlyniad i ryfela
rhwng Pacistan ac India.
Mae
ystumiau corfforol ac arferion cymdeithasol hefyd yn amrywio o wlad i wlad.
Mewn gwledydd Mwslemaidd er enghraifft, ystyrir y
llaw chwith fel llaw aflan, ac yn draddodiadol ym Mhrydain ystyrir ei bod yn
ddigywilydd pwyntio at bobl. Mewn nifer o wledydd ar gyfandir Ewrop mae cusanu
wrth gyfarch pobl yn llawer mwy cyffredin nag y mae yng Nghymru a gweddill
gwledydd Prydain. Yn Nghymru mae codi bawd yn gyfarchiad cyffredin sy'n cyfleu
agosatrwydd ond mae wedi peri ofn i bobl o wledydd eraill sydd ddim yn
gyfarwydd â'r ystum.
Yng
Nghymru rydym wedi hen arfer gweld ymgyrchoedd hysbysebu a luniwyd yn Saesneg
ond na ellir eu cyfieithu i'r Gymraeg i'w gwneud yr un mor fachog. Diffyg
ystyriaeth o'r angen i gyfieithu i'r Gymraeg sy'n achosi hyn a gellir gwella'r
sefyllfa gyda phroses lunio hysbyseb sy'n ystyried hynny. Yn well byth, byddai
llunio hysbyseb dwyieithog o'r cychwyn yn y pendraw yn fwy effeithiol ac yn
rhatach. Gellid hefyd lunio hysbyseb sy'n dibynnu ar yr ochr weledol yn llwyr.
Wrth gwrs, fel arfer mae llun a slogan yn mynd law yn llaw er mwyn cryfhau'r
ystyr. Ystyriwch y slogan yn erbyn yfed a gyrru 'Don't
dice with death' oedd hefyd yn cynnwys llun o gar wedi ei gywasgu fel
ei fod ar siâp dis. Mae'n arf marchnata da
iawn ond yn anffodus mae'n dibynnu'n llwyr ar ddywediad Saesneg na ellir ei
gyfieithu i'r Gymraeg. Serch hynny, mae
yna enghreifftiau clodwiw iawn o sloganau Cymraeg sydd wedi cael eu cyfieithu,
neu'n rhai gwreiddiol. Ystyriwch er enghraifft y slogan gan gwmni Lloyd's Motors, Aberystwyth yn
hysbysebu car Land Rover 'Un
garw am fod yn esmwyth' sy'n chwarae ar y defnydd o idiom Gymraeg ac yn
defnyddio gwrthgyferbyniad. Wrth gwrs, buasai'n
anodd iawn cyfieithu'r slogan hwn i'r Saesneg. Enghraifft arall dda oedd slogan
a welwyd ar faniau swyddfa’r post rai blynyddoedd yn ôl yn sôn am ‘godi ffôn i
godi calon’, unwaith eto yn gwneud defnydd creadigol o idiom Gymraeg. Gwelwyd
enghraifft o leoleiddio yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf mewn hysbyseb ar giât
yn Fachwen ger Llanberis, Gwynedd. Edrychai'r hysbyseb yn debyg i hyn:
MAE'R TIR HWN YN BREIFAT DIM
OND POBL LEOL, GYDA'R
NOS YN UNIG, A PHYSGOTWYR GYDA THRWYDDED GAIFF FYND Y FFORDD YMA. RHOWCH
HELP I NI I GADW'R YMWELWYR A THRESPAWSYR ODDI AR Y TIR HWN. MAE
LLWYBR CYHOEDDUS A DDEFNYDDIR YN YSTOD Y DYDD YN DECHRAU'N UWCH I FYNY'R
FFORDD |
THIS LAND IS PRIVATE ENTRY
IS PROHIBITED UNLESS YOU ARE CARRYING A FISHING LICENSE. THE
PUBLIC FOOTPATH AND PADARN LAKE WALK TO LLANBERIS START FURTHER UP THE ROAD |
Wedi'r
cyfan, addasu cynnyrch i'r gynulleidfa darged yw diben lleoleiddio!
Er
cystal y gall cyfieithiad fod, er hynny, ni all unrhyw gyfieithydd gyfieithu
amrywiadau ieithyddol a diwylliannol fel eu bod yn union fel y gwreiddiol.
Rhaid i gyfieithydd fod yn fwy na chyfieithydd llythrennol a bod yn ymwybodol o
deithi ieithyddol a diwylliannol yr iaith a’r gynulleidfa a fydd yn darllen y
cyfieithiad. Mae lleoleiddio yn golygu addasu cynnyrch, cynnyrch ieithyddol yn
yr achos yma, er mwyn ei wneud yn addas yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.
Dylid ystyried os yw hyn yn wasanaeth ychwanegol y mae cyfieithydd yn ei gynnig,
neu a yw'n rhan o waith dyddiol cyfieithydd.
Mae
gan yr ysgrifennwr gwreiddiol gryn gyfrifoldeb yn yr achos yma dros baratoi dogfen
sydd mor hawdd ei chyfieithu ag sydd bosibl. Yn ogystal â hyn, dylai sicrhau bod
y cyfieithiad yn addas i’w gynulleidfa, wedi’r cyfan mae’r cyfieithydd yn
siŵr o fod yn derbyn dogfen sydd wedi cael ei haddasu amryw o weithiau cyn
cael ei chynhyrchu yn ‘derfynol’ ar gyfer y cyfieithydd.
Mae
globaleiddio yn bwnc llosg mawr yn y byd y dyddiau
hyn ond wrth gwrs mae cwmnïau mawr yn ddibynnol ar apêl eu cynnyrch yn
rhyngwladol er mwyn gwneud elw. Er mwyn gwneud elw rhyngwladol rhaid i gwmni
ddibynnu ar elw lleol. Mae globaleiddio cynnyrch felly, gan ei wneud yn hygyrch i bawb,
yn ddibynnol ar leoleiddio. I danlinellu hyn galwa banc yr HSBC ei hun yn ‘fanc
lleol y byd’. Mewn geiriau eraill, er mwyn i gynnyrch rhyngwladol apelio at
farchnadoedd gwahanol rhaid ei farchnata gan ystyried gwahaniaethau ieithyddol
a diwylliannol y gwledydd ac ardaloedd gwahanol. Yn sylfaenol, er bod y syniad
yn wrthun i nifer o bobl, er mwyn cystadlu ar lefel rhyngwladol, rhaid bod yn
lleol. Er hynny, talcen caled iawn sydd gan gwmnïau Coca-Cola a Pepsi yn Saudi
Arabia a gwledydd Islamaidd eraill, lle mae gwerthiant Zamzam
Cola a gynhyrchir yn Iran wedi codi ar draul
gwerthiant y cwmnïau rhyngwladol eraill, fel arwydd o brotest yn erbyn polisïau
Unol Daleithiau America!
Yn
y cyd-destun hwn mae rhyngwladoleiddio yn hanfodol ar
gyfer lleoleiddio gan mai’r syniad yw paratoi cynnyrch ‘niwtral’ y gellir ei
leoleiddio yn hawdd. Gall hyn olygu creu rhaglenni cyfrifiadurol y gellir eu
haddasu i sawl gwlad neu gall olygu sicrhau nad yw dogfen yn dibynnu ar hiwmor
neu ar ddywediad arbennig. Ystyrier er enghraifft y gwahaniaeth mewn
cyfeiriadau o wlad i wlad. Yn yr Unol Daleithiau defnyddir 'zip
codes' sy’n wahanol i godau post a welir yng ngwledydd Prydain. Mae’r nodau a
ddefnyddir wrth ysgrifennu yn amrywio rhwng ieithoedd. Mae gan rhai ieithoedd
acenion, ac mae ieithoedd eraill megis Arabeg a Hebraeg yn rhedeg o’r dde i’r
chwith yn groes i e.e. y Gymraeg sy’n rhedeg o’r chwith i’r dde. Byddai’n rhaid
ystyried materion o’r fath wrth gynllunio cynnyrch neu feddalwedd. O ran
cynnwys hefyd byddai’n rhaid ystyried gwahaniaethau sylfaenol megis ar ba ochr
i’r lôn y gyrrir car, a maint, siâp a lliw gwrthrychau megis arian, bocsys
llythyru, bysiau ac ambiwlansiau, heb sôn am gyfeiriadau at arferion
diwylliannol.
Rhaid
cofio hefyd am wahaniaethau yn y mesurau o wlad i wlad. Bellach defnyddir yr
Euro mewn sawl gwlad Ewropeaidd, ond yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain
parheir i ddefnyddio punnoedd. Er
gwaethaf deddfau Ewropeaidd o blaid y system fetrig mae nifer yng ngwledydd
Prydain yn parhau i arddel yr hen system imperial o fesur a phwyso. Rhaid sicrhau bod cysondeb a dealltwriaeth o
ba fesuriad a ddefnyddir. Enghraifft eithafol o bethau’n mynd o chwith oherwydd
amryfusedd rhwng dwy system o fesur yw un o brojectau NASA pan gymysgwyd
mesuriadau metrig cydrannau a wnaed yn Ewrop gyda rhai imperial cydrannau a
wnaed yn yr Unol Daleithiau, gan beri i’r cynllun cyfan fethu.
Beth i'w wneud?
Mater i’r rhai sy’n cynhyrchu’r hyn sydd i gael ei
gyfieithu fydd rhyngwladoleiddio cynnyrch er mwyn ei wneud
yn hawdd ei addasu i’r gynulleidfa leol. Dylent fod yn ymwybodol bob tro o'u
cynulleidfaoedd.
Dylai’r cyfieithydd sefydlu'r
amodau gwaith ar gychwyn y broses gyfieithu gan drafod gyda’r cwsmer pwy
fydd â'r cyfrifoldeb terfynol dros leoleiddio a chyfleu ystyr yn gywir. Dylid egluro na ellir cyfieithu rhai pethau
sy'n perthyn yn benodol i iaith neu ddiwylliant arbennig, ac y dylid ystyried y
ddwy iaith cyn llunio dogfen neu ymgyrch ddwyieithog. Mae hyn yn arbennig o wir wrth lunio ymgyrch
hysbysebu a all fod yn ddibynnol iawn ar slogan penodol. Wedi'r cyfan bydd sawl fersiwn 'derfynol'
wedi cael ei baratoi yn yr iaith wreiddiol yn barod ac ni ddylid disgwyl i'r
unig fersiwn a gyfieithir gan y cyfieithydd allu adlewyrchu'r meddwl a aeth i'r
fersiwn gwreiddiol, oni thrafodir gyda'r cyfieithydd ymlaen llaw.
Os yw’r cyfieithiad dan sylw yn rhan o ymgyrch hysbysebu
sy’n cynnwys lluniau, yna dylai’r cyfieithydd ofyn am gael gweld y lluniau
hefyd er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn gweddu i’r delweddau gweledol. Mewn
gwirionedd mae llunio slogan effeithiol ar gyfer ymgyrch o’r fath yn waith i
arbenigwyr hysbysebu, nid cyfieithwyr, a dylai cyfieithwyr sy’n delio â gwaith
o’r fath drafod y mater yn llawn gyda’r asiantaeth sy’n eu comisiynu. Hyd yn
oed os yw hi’n rhy hwyr i newid pethau yn yr ymgyrch dan sylw, gall tynnu
sylw’r asiantaeth at y broblem fod yn gymorth i sefydlu gwell trefn ar gyfer yr
ymgyrch nesaf.
Mae dogfennau ac ymgyrchoedd hysbysebu sydd wedi ymgorffori
ystyriaethau lleoleiddio yn llwyddiannus yn medru bod
yn arfau marchnata grymus. Mae’n werth atgoffa cwsmeriaid nad baich ofer yw
gofalu am y manylion hyn, ond ffordd i gael yr elw mwyaf o’u buddsoddiad
gwreiddiol.
Llyfryddiaeth
Samuelsson-Brown, Geoffrey A Practical Guide for Translators,
Multilingual Matters Ltd., 1993.
Newmark, Peter, About Translation, Multilingual
Matters Lts, 1991.
Localization Industry Standards Association www.lisa.org
Bezuidenhout, Ilze 'A Discursive-Semiotic
Approach to Translating
Cultural Aspects in Persuasive Advertisements.'
http://ilze.org/semio/index.htm