RHEOLI ANSAWDD

nôl i'r dudalen hyfforddiant


Mae mwy a mwy o gwmnïau y dyddiau hyn yn mabwysiadu system neu raglen rheoli ansawdd. Yn aml, mae hyn i gyd-fynd ag ISO 9000 sy'n gosod safon ansawdd rhyngwladol y gall cyrff a mudiadau ym mhob maes, ac o bob maint ymgyrraedd ato. Yn y tymor hir gall arbed amser ac arian i'r cwmni drwy adnabod rhai agweddau o'r gwaith cyfieithu y gallasid eu gwella.

Pam y mae angen gosod rhaglen rheoli ansawdd?

Rheoli Ansawdd Gwaith Cyfieithu

Mae system waith ynghlwm wrth y cysyniad o reoli ansawdd. Wrth osod system waith a fydd yn cael ei dilyn bob tro y bydd contract newydd gellir osgoi camgymeriadau a phroblemau a allasai godi. Yn ei hanfod, patrwm o waith gweinyddol a osodir a fydd yn ystyried sut y bydd y cwmni cyfieithu yn cynnig y gwasanaeth a'r gwaith gorau posibl. Dylid ystyried materion megis perthynas y cwmni cyfieithu â'r cwsmer, a sut y bydd yn cynnal ac yn gwella safonau. I gael mwy o wybodaeth am hyn gweler yr uned llif gwaith.

Rheoli Ansawdd Cyfieithiad

Gall ieithydd profiadol adnabod cyfieithiadau da a chyfieithiadau gwael yn reddfol bron. Mater arall fodd bynnag yw trosi'r adnabyddiaeth reddfol honno yn drefn fesur wrthrychol sy'n medru cynorthwyo cwmni cyfieithu i reoli ansawdd eu cynnyrch. Gall hyn gynorthwyo cwmnïau cyfieithu i adnabod problemau penodol a chymryd camau i'w goresgyn, p'un ai cyfieithwyr dibrofiad, cynnwys astrus a dieithr, diffygion terminolegol, neu rywbeth arall sy'n achosi'r broblem. O adnabod a mesur y diffygion, gellir wedyn gynnig atebion er mwyn gwella'r ansawdd, p'un ai yw hynny'n fater o hyfforddi a datblygu staff, cyflwyno technoleg a phrosesau newydd, neu atebion eraill.

Er mwyn asesu safon cyffredinol y gwaith dylid dewis sampl ar hap a'i 'farcio' yn erbyn y meini prawf rheoli ansawdd a ddefnyddir.

Rhaid ystyried pa feini prawf a ddefnyddir a sut mae mesur neu sgorio ddifrifoldeb y gwallau o fewn y meini prawf hynny. Yma cynigir rhai patrymau rheoli ansawdd y gellid eu haddasu yn ôl y gofyn.

a. Metrig Safon Cyfieithu J2450

Dyma grynhoad byr o'r metrig safon a luniwyd gan gwmni ceir SAE International ar gyfer safoni cyfieithiadau gwybodaeth gwasanaethu car. Cafodd ei lunio ar gyfer nodi camgymeriadau ieithyddol yn bennaf. I gael mwy o wybodaeth am y cwmni a'u system rheoli ansawdd gweler y cysylltiadau ar waelod y dudalen. Cafwyd y wybodaeth yma yn rhannol o safle gwe y Commercial Translation Centre, Awstralia.

1. Term anghywir

Difrifol 5/Dibwys 2

2. Camgymeriad cystrawen

Difrifol 4/Dibwys 2

3. Hepgor/Gadael allan

Difrifol 4/Dibwys 2

4. Camgymeriad mewn strwythur gair neu gytundeb

Difrifol 4/Dibwys 2

5. Camgymeriadau sillafu

Difrifol 3/ Dibwys 1

6. Camgymeriad atalnodi

Difrifol 2/ Dibwys 1

7. Camgymeriadau amrywiol nad ydynt yn perthyn i ddim un o'r categorïau uchod

Difrifol 3/Dibwys 1

b.

Y cyfieithydd fydd yn penderfynu ar y ffactorau ansawdd a fydd yn cael eu defnyddio i safoni'r gwaith, ond efallai y bydd rhai o'r canlynol yn ddefnyddiol:

  • Terminoleg
  • Sillafu
  • Gramadeg
  • Atalnodi

Pethau gweddol o hawdd i osod safon arnynt yw'r uchod. Er hynny, mae'r ffactorau isod yn dipyn anos i'w safoni. Rhaid gofyn hefyd a ellir safoni rhai ohonynt heb edrych yn ôl ar y testun gwreiddiol. Rhaid ystyried hefyd, os yw ffyddlondeb i'r testun a'r arddull wreiddiol weithiau yn mynd yn groes i'r egwyddor o rwyddineb a darllenadwyedd, megis os oes testun gwreiddiol astrus y gofynnodd y cwsmer iddo gael ei symleiddio yn Gymraeg. Wrth gwrs, dylai materion o'r fath gael eu trafod ar gychwyn y gwaith cyfieithu.

  • Arddull a chywair
  • Rhwyddineb a darllenadwyedd y cyfieithiad
  • Ffyddlondeb y cyfieithiad i'r testun ac i'r arddull wreiddiol

c.

Dyma fodel arall y gellir ei ddefnyddio i safoni'r cyfieithiad. Yma cyfeirir at sut mae safoni'r ffactorau ansawdd yn unol â meini prawf penodol

Set o ffactorau ansawdd

  1. terminoleg - enwi'r cysyniadau'n briodol
  2. gramadeg - ffyddlondeb gramadegol y mynegiant
  3. arddull - priodoldeb o ran cywair a chyd-destun technegol
  4. cynnwys - ffyddlondeb semantig y mynegiant
  5. strwythur - adlewyrchu gosodiad y gwreiddiol

Meini prawf ansawdd

1. cywirdeb - gallu'r cyfieithiad i gynhyrchu'r effaith gywir

2. cydymffurfiad - yn unol â chonfensiynau, deddfwriaeth berthnasol

3. cysondeb - yn gallu cynnal lefel o berfformiad/cymhwysedd

4. rhwyddineb deall - gallu'r cyfieithiad i beri i'r defnyddiwr ddeall a gweithredu yn ôl y bwriad

5. dehongliad - dim amwyster yn y cynnwys semantig

Yma eir gam ymhellach na b. uchod wrth osod meini prawf i safoni'r ffactorau ansawdd. Rhaid ystyried os bydd angen gosod system sgorio'r meini prawf hyn neu'r ffactorau ansawdd er mwyn rhoi sgôr safon i'r cyfieithiad.

 

Crynodeb

Metrig Safon SAE J2450

Samuelsson-Brown, Geoffrey, A Practical Guide for Translators, 1993

Trafodion Aslib, Translation and the Computer, 1999.

Ffurflen Llwytho J2450 i lawr o'r We


nôl i'r dudalen hyfforddiant