Mae'n syniad da sefydlu trefn rheoli projectau y gellir ei dilyn wrth gwblhau pob project cyfieithu. Math o system llif gwaith yw trefn rheoli projectau, sy'n gosod camau clir y dylid eu dilyn yn y broses gyfieithu. Nid oes rheolau set ynglyn â pha gamau y dylid eu dilyn ac, wrth gwrs, bydd gan bob cyfieithydd ei flaenoriaethau ei hun wrth sefydlu rhaglen waith. Y peth pwysicaf yw sicrhau bod gosod y camau yn hwyluso'r gwaith i'r cyfieithydd ac felly dylid ystyried p'un yw'r ffordd fwyaf effeithlon. Gall gosod trefn rheoli projectau set wella'r cysylltiadau rhwng y cyfieithydd a'r cleient a gall leihau'r amser a dreulir yn aml yn ateb cwestiynau'r cleient ac yn ei holi ynglyn â'r gwaith hefyd. Wrth ddilyn yr un drefn bob tro gellir lleihau yr amser a dreulir yn gweinyddu projectau a chynyddu faint o waith a wneir. Bydd sefydlu trefn o'r fath yn dangos i'r cwsmer bod gan y cyfieithydd safonau a chamau clir y bydd yn eu dilyn wrth gwblhau'r gwaith.
Wrth ystyried sefydlu trefn rheoli projectau dylid ystyried materion megis:
Isod nodir rhai syniadau ar gyfer sefydlu trefn rheoli projectau.
1. Y cytundeb cyfieithu
Rhaid deall yn union yr hyn y mae'r cwsmer ei eisiau er mwyn osgoi camddealltwriaeth yn ddiweddarach yn y broses gyfieithu. Materion i'w hystyried wrth ymgynghori â'r cwsmer yw:
(Gweler yr enhraifft o gontract)
2. Wedi cytuno ar y materion uchod a rhai eraill y bernir eu bod yn berthnasol rhaid cadarnhau'r wybodaeth honno trwy gyfrwng ffacs, e bost neu lythyr.
3. Ystyried pa arbenigedd y bydd ei angen i ymgymryd â'r gwaith, e.e. gwybodaeth gyfreithiol, ariannol, gwaith cymdeithasol, gwyddonol, technegol ayb.
4. Camau rheoli project
(Gweler yr enghraifft o blaenddalen rheoli projectau)
5. Cwblhau'r gwaith
Er mwyn cwblhau'r gwaith
a ellir ymgynghori â chyrff eraill, e.e. Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Safoni Termau, awdurdodau perthnasol, y cwsmer ei hun
pa eiriaduron fydd yn cael eu defnyddio
adnoddau cyfieithu a chyfrifiadurol eraill y byddwch yn eu defnyddio
6. Golygu
Drafft 1
|
Gwirio Sillafu
|
Golygydd
|
Cwsmer
|
Argraffu
|
Prawfddarllen
|
Terfynol
|
7. Trosglwyddo i'r cwsmer
Sut y trosglwyddir y cyfieithiad - yn electronig, ar bapur, ar ddisg, mewn ffacs
Cyfrifoldeb pwy fydd newidiadau megis to bach ar y ac w
Os yw'n cael ei gyhoeddi a fydd angen ei brawf ddarllen yn derfynol cyn ei gyhoeddi i sicrhau nad oes camgymeriadau cysodi
A fydd y cyfieithydd yn cwblhau ffurflen rheoli ansawdd gan gyfeirio at drafferthion, amheuon ayb. Buasai o gymorth ar gyfer y gwaith golygyddol
8. Gwaith parhaus
Syniadau a geir yma ynglyn â sut mae datblygu system rheoli projectau ar gyfer cwmni cyfieithu. Gellir cael mwy o wybodaeth o'r llyfrau a'r safleoedd gwe canlynol:
A Practical Guide for Translators, Geoffrey Samuelsson-Brown, Multilingual Matters, Clevedon, 1993.
The Association for Information Management, ASLIB http://www.aslib.co.uk/