CysGair
Sgrin CysGair
Acenion
Trowch at:
Ymddangosiad/Dewisiadau/Ymddangosiad neu View/Options/Appearance
i weld yr opsiynau sydd ar gael i'r defnyddiwr.
Defnyddio ffont Unicode i arddangos …
Mae 'w' ac 'y' gydag acen grom (^) yn rhan o set lythrennau rhai ffontiau, sef
ffontiau 'Unicode'. Os ydych chi'n defnyddio un o'r ffontiau arbennig hyn, bydd
CysGair 2 yn gallu dangos 'w' ac 'y' gydag acen grom. Fel arall,
mae'n rhaid i CysGair 2 osod yr acenion ar y llythrennau ei
hun. Gellir cael 'w' ac 'y' gydag acen grom gyda ffontiau cyffredin fel 'Arial'
a 'Times New Roman', ond nid oes modd eu cael ym mhob ffont. Os ydych chi'n
defnyddio Windows 95, dylech arsefydlu 'Multilanguage Support' os ydych am ddefnyddio
un o ffontiau 'Unicode'.
Torri a gludo gan ddefnyddio …
Gall y rhaglen dorri a gludo geiriau o gymwysiadau eraill gan ddefnyddio naill
ai godau 'ANSI' (Latin-1, ISO-8859-1), y codau a ddefnyddir gan MEU (Latin-8,
ISO 8859-14) ar gyfer eu ffontiau Cymraeg, neu godau 'Unicode'. Mae'r opsiwn
hwn yn eich galluogi i dorri a gludo'r llythrennau nas cefnogir gan Windows,
drwy ddefnyddio codau ffontiau MEU. Dewiswch yr opsiwn hwn os oes gennych ffontiau
MEU ar eich system, ac os ydych yn eu defnyddio yn eich prosesydd geiriau.
Er bod Microsoft Office 97/2000 yn gallu defnyddio codau 'Unicode', nodwch
na fedr pob cymhwysiad wneud hyn.
![]() |