E-Gymraeg
Canolfan Bedwyr
e-Gymraeg
Terminoleg a Pheirianneg Iaith

Defnyddio
Defnydd Uwch

Defnyddio'r Gwirydd Sillafu Cymraeg

Wedi i chi orffen gosod y gwirydd sillafu ar eich cyfrifiadur, mae modd i chi ddechrau'i ddefnyddio yn eich dogfennau yn OpenOffice.org.

Yn syml, dewisiwch y testun Cymraeg yn eich dogfen (drwy amlygu neu dduo'r testun)

Gwallau


Yna cliciwch ar y botwm 'cy' ar eich bar offer ...

Botymau Bar Offer


... neu dewisiwch o'r brif ddewislen Format - Character:

Format -> Character


Fe ddylai ffenestr fel yr un isod ymddangos. Ewch i'r dewis o ieithoedd a dewisiwch 'Welsh'. Cliciwch ar OK. D.S. os yw'r gwirydd sillafu Cymraeg wedi'i osod yn iawn fe ddylai fod tic wrth ochr 'Welsh' .

Format Character Dialog


I weld y tanlinellu coch o dan unrhyw wallau yn eich testun, cliciwch ar y botwm AutoSpellCheck On/Off ar ochr chwith y sgrin :

Sut Mae Troi AutoSpellCheck Ymlaen neu i Ffwrdd


Yn yr enghraifft hon, mae tanlinellu coch yn ymddangos fel hyn:
Sgwigyls Coch

Os rhowch chi'r llygoden dros un o'r geiriau anghywir a phwyso ar y botwm de, fe fydd rhestr yn ymddangos o awgrymiadau i chi ddewis o'u plith er mwyn cywiro gwall :

Awgrymiad

Hawlfraint © Prifysgol Cymru, Bangor 2001-2004