Canolfan Bedwyr
e-Gymraeg
Terminoleg a Pheirianneg Iaith |
|||
|
|||
| Defnydd Uwch | |||
Defnydd Uwch o'r Gwirydd Sillafu Cymraeg
Mae'r gwirydd sillafu Cymraeg wedi'i ddatblygu hefyd i hwyluso rhoi geiriau'n sy'n cynnwys lythrennau arbennig (e.e. rhai gyda tho bach neu acenion) nad ydynt yn bodoli ar eich bysellfwrdd 'Saesneg UK'. Mae'r gwirydd yn gallu rhoi'r rhain i mewn i chi yn awtomatig drwy un o ddau ddull.
1) Cywiro gwall sillafu
Mae'n bosib teipio'r gair gyda'r llythyren heb yr acen neu'r to bach.
e.e 'ol' . Bydd y gwirydd sillafu Cymraeg yn awgrymu 'ôl' yn ei le.
Enghreifftiau eraill yw 'grwp' sy'n cynhyrchu'r awgrym 'grŵp', 'ty'
ar gyfer 'tŷ', 'caniatad' ar gyfer 'caniatâd', 'caniatau' ar gyfer 'caniatáu'.
2) Defnyddio dwy lythyren arbennig
Weithiau ceir dau air tebyg sydd ag ystyron gwahanol, gyda dim ond to
bach i ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt. Enghreifftiau o hyn yw 'môr'
a 'mor' a 'tŵr' a 'twr'. Mewn enghreifftiau felly ni fydd y gwirydd
Cymraeg yn cynnig cywiriad, gan fod y ddwy ffurf yn bosibl.
Ffodd bynnag mae modd i chi gael OpenOffice.org i roi to bach i mewn
i chi uwhcben y llafariad, drwy roi 'x' ar ôl y llythyren. Os yw'r gair
yn y geiriadur yna fe fydd y gair gyda llafariad a tho bach yn cael
ei gynnig fel awgrym i chi.
Felly er enghraifft bydd 'moxr' yn newid i 'môr' a 'twxr' yn newid i
'tŵr'.
Enghreifftiau eraill : ynglyxn i ynglŷn, hyxn i hŷn.