E-Gymraeg
Canolfan Bedwyr
e-Gymraeg
Terminoleg a Pheirianneg Iaith

Gosod
Defnydd Uwch

Sut i Osod Gwirydd Sillafu MySpell Cymraeg

Gofalwch fod OpenOffice 1.1 wedi'i osod yn barod ar eich cyfrifiadur. Mae proses gosod MySpell Cymraeg yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows a Linux.

Llwythwch y ffeil sip ganlynol i lawr :

Ffeil MySpell.zip sy'n cynnwys :

- rhaglen gosod gwirydd sillafu Cymraeg (DicOOo_cy.sxw)
- geiriadur (PackWelsh.zip)

Tynnwch DicOOo_cy.sxw a PackWelsh.zip allan o'r archif sip, agorwch DicOOo_cy.sxw a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Defnyddwyr Mac OS X

Yn anffodus nid yw OpenOffice 1.1 ar gael ar gyfer y Mac OS X eto, felly nid yw'r gwirydd sillafu yn gweithio'n gyfan gwbl ar y Mac hyd yn hyn.

Am y newyddion diweddaraf ynghylch OpenOffice ar gyfer y Mac OS X ewch i'r dudalen : http://porting.openoffice.org/mac


Hawlfraint © Prifysgol Cymru, Bangor 2001-2004