Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd

 

 

 

 

.Arweiniad Defnyddwyr.

Holi'r Gronfa Ddata

Cyfyngiadau
Bwriad perchenogion yr hawlfraint a PB yw gwarchod yr archif ar ei ffurf wedi'i ddigideiddio fel yn yr archif o slipiau yn PB. Yn ystafell ymchwil yr Archifdy mae modd eu gweld a'u cop´o, a rhydd AMR yr un cyfleuster. Mae AMR yn caniatßu i ymchwilwyr weld ac argraffu tudalennau o 20 cofnod y dudalen er mwyn pennu dosbarthiad enw arbennig, neu amlder elfen enw lle.

 

Chwilio
Mae i dudalen chwilio cronfa ddata Archif Melville Richards chwe blwch chwilio. Y mae'r rhain yn cyfateb i'r prif gategor´au gwybodaeth yn y gronfa ddata, sef:

  • Prif Enw
  • Plwyf
  • Ffurf
  • Dyddiad
  • Sir
  • Ffynhonnell


Mae modd chwilio fesul categori neu gategor´au lluosog trwy deipio gwrthrych eich chwiliad yn y blwch/blychau chwilio priodol.

Er enghraifft:

I chwilio am bob cofnod sy'n cynnwys bangor fel ei Brif Enw:

  • Teipiwch bangor i'r blwch chwilio Prif Enw.
  • Cliciwch ar Chwilio.

I chwilio am bob cofnod sy'n cynnwys bangor fel ei Brif Enw ac sy'n cynnwys ffurf hanesyddol a gymerwyd o ffynhonnell Mostyn:

  • Teipiwch bangor i'r blwch Prif Enw.
  • Dewiswch Mostyn o'r ddewislen raeadru a glymir i'r blwch chwilio Ffynhonnell.
  • Cliciwch ar Chwilio.

Defnyddio'r nod seren *
Mae modd hefyd chwilio am rannau o eiriau neu enwau trwy ddefnyddio'r nod seren *.

Er enghraifft:

Bydd chwilio am bangor yn y Prif Enw yn dangos pob cofnod sy'n cynnwys bangor yn unig.

Bydd chwilio am *bangor yn y Prif Enw yn dangos pob cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan olaf gair neu enw, er enghraifft Capel Bangor, Bryn Bangor a Bangor.

Bydd chwilio am bangor* yn y Prif Enw yn dangos pob cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan gyntaf gair neu enw, er enghraifft Bangor Is-coed, Bangor Fawr a Bangor.

Bydd chwilio am *bangor* yn y Prif Enw yn dangos pob cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan ganol gair neu enw, er enghraifft Cored Bangor Fawr, Cefn Bangor Isaf a Bangor.


Dangos canlyniadau'r chwiliad
Wedi rhoi ymholiad chwilio i mewn i'r gronfa ddata, crŰir tabl i ddangos canlyniadau'r chwiliad. Mae colofnau'r tabl yn cyfateb i'r categor´au gwybodaeth sydd yn y gronfa ddata, sef:

  • Prif Enw
  • Plwyf
  • Sir
  • Dyddiad
  • Ffurf
  • Ffynhonnell Fer
  • Ffynhonnell
  • Argraffiad/Tudalen etc.
  • Cyfeiriad Grid Cenedlaethol (dull rhif)
  • Cyfeiriad Grid Cenedlaethol (dull llythyren)

Trefnu canlyniadau'r chwilio
Mae modd gosod unrhyw un o golofnau'r tabl yn nrhefn yr wyddor. I wneud hyn, cliciwch ar deitl y golofn y carech ei didol yn nhrefn y wyddor. Ail-drefnir y data ym mhob colofn arall i gyfateb i drefn y golofn a ddetholwyd.

 

Dethol elfennau
Wrth ysgrifennu'r slipiau arferiad Melville Richards, diolch byth, oedd safoni'r prif enw. Felly, er mai dim ond rhai esiamplau sydd, er enghraifft, o'r ffurf hanesyddol Kaye Koghion, prif enw Melville Richards yw Caeau Cochion. Gallwch felly gyrchu'r elfennau cae a coch(ion) yn weddol rhwydd trwy chwilio yn y blwch Prif Enw yn hytrach na'r blwch Ffurf. Dylech fod yn ofalus o gadwynau o lythrennau sy'n ymdebygu i elfennau (Cefn Cerddinen yn ymddangos fel esiampl o din, Cae'r fel caer, ac yn y blaen) gan nad ydynt o reidrwydd yn cyfateb i'r elfen o rhan eu hystyr.

 

Treigladau
Mae enwau lleoedd Cymraeg yn dilyn teithi'r iaith ac yn treiglo. Bydd arnoch angen o leiaf wybodaeth waith led dda o'r patrymau ffonolegol hyn er mwyn cyrchu holl amrywiadau posibl elfen. Er enghraifft, i gyrchu pob esiampl o coch, bydd yn rhaid i chi hefyd ofyn am goch; am bach, hefyd fach; am gwaun, hefyd waun; am pen, hefyd ben; celli, hefyd gelli; ma-, hefyd -fa; Cybi, hefyd -gybi, ac yn y blaen. Byddwch yn ofalus gyda lan gan ei fod yn amrywiad o glan ac o llan. Mewn llawer achos, mae'n debyg y bydd y chwiliad cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r amrywiadau perthnasol. Mae rhestr safonol o amrywiadau yn Bruce Griffiths, Dafydd Glyn Jones, Geiriadur yr Academi, The Welsh Academy English-Welsh Dictionary (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995), xxviii-xlii.

 

Amrywiadau ffurfdroedig
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o amrywiadau ffurfdroedig. Felly (g)wyn a'r ffurf fenywaidd (g)wen, coch a'r lluosog cochion, du a duon. Bydd y chwiliad cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r amrywiadau lluosog perthnasol a nifer o'r ffurfiau benywaidd. Mae rhestr safonol yn Geiriadur yr Academi xlii-xliii.

 

Amrywiadau sillafu
Gwreiddiodd rhai sillafiadau ansafonol, sy'n aml yn adlewyrchu amrywiadau tafodieithol, mewn enwau lleoedd megis cadair fel Cader, isaf fel Isa, tref fel tre, (g)waun fel waen. Mae'n debyg y bydd y chwiliad cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r amrywiadau perthnasol.

Gair o rybudd

Ystod yr Archif
Nid casgliad cyflawn o holl enwau lleoedd yw hwn, ac nis bwriadwyd felly erioed. Archif ydyw o'r hyn y medrodd un dyn gasglu yn ystod ei oes. Nid oedd modd yn y byd i Melville Richards ddod ar draws yr holl ddogfennau oedd ar gael i rywun fyddai'n gweithio ar un plwyf, cwmwd neu sir; ni chynrychiolir pob rhan o Gymru gyda'r un manyldra. Nid yw'r slipiau yn cynnig tarddiad enwau.

 

Trawsgrifio
Yr oedd llawysgrifen ddestlus gan Melville Richards. Fodd bynnag, ar rai adegau, yn enwedig wrth drawsgrifio enwau anghyfarwydd i mewn i AMR, cododd peth ansicrwydd

  • wrth wahaniaethu rhwng y llythrennau
    i, u, v, n, r, m, nn, nr, ri, J, L
  • wrth wahaniaethu rhwng 5 a 8
  • wrth wahaniaethu priflythyren oddi wrth lythyren fechan ar ddechrau gair
  • wrth bennu union raniad rhwng geiriau, gan gynnwys prif enwau
  • wrth wahaniaethu ei lythyren d arbennig ef oddi wrth y symbol yr arferai llawer o ysgolheigion Cymreig ddefnyddio ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed fel llawfer gyfleus am dd.

Pan ddewch ar draws yr hyn sy'n edrych fel gwrthdaro rhwng tystiolaeth ddogfennol arall, cynghorir chi i edrych ar y slip ei hun neu'r ddogfen wreiddiol i ffurfio'ch barn eich hun am y darlleniad cywir.

 

Safoni
Yr oedd llawer o ddogfennau canoloesol yn defnyddio sawl symbol i gynrychioli'r ch Gymraeg. Dyna wnaeth Melville Richards ond mae AMR wedi eu trawsgrifio fel z ; yn ddieithriad, bron, bydd y cyd-destun yn dangos lle mae z yn cynrychioli ch.

Ni allai'r rhaglen wreiddiol roi acen grom ar yr w, W, y ac Y. Mae gan y rhaglen ddiweddarach acen grom ar y llythrennau bach ond nid ar y priflythrennau.

Ymddengys D˘l a d˘l o bryd i'w gilydd fel Dol a dol, anghysondeb annodweddiadol nad yw byth yn ymddangos yng nghyhoeddiadau Melville Richards. Cadwodd AMR yr anghysondeb.

Lle bo gwahaniaethau o'r fath yn allweddol i'r dehongli ieithegol, y cyngor gorau yw archwilio'r slip ei hun neu'r ddogfen wreiddiol.

 

Prif enw
Yn y rhaglen wreiddiol, rhaid oedd i'r prif enw fod mewn priflythrennau, confensiwn y bu'n rhaid ei gadw. Rhaid bod yn ofalus felly wrth ddyfynnu enwau mewn ffurf safonol, yn enwedig os yw'n dilyn cysylltnod (fel bod BETWS-Y-COED yn Betws-y-coed, TON-TEG yn Ton-teg ond LLANDRILLO-YN-RHOS yn Llandrillo-yn-Rhos a MOEL Y GAER yn Moel y Gaer). Mae'r ffurfiau safonol o enwau lleoedd Cymru i'w gweld yn Elwyn Davies, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957, 1975).

Lleoliad
Nododd Melville Richards leoliad gweinyddol lle pan oedd yn hysbys iddo neu yn amlwg o'r dystiolaeth ddogfennol. Fodd bynnag, nodwyd yr uned weinyddol yn amrywiol fel trefgordd, plwyf eglwysig neu sifil, dosbarth gwledig neu drefol, bwrdeistref sirol, cwmwd, cantref, arglwyddiaeth neu sir. Wrth gynllunio ymchwiliad, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r categorïau gweinyddol Plwyf a Sir. Cyfeirlyfr defnyddiol yw Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1969).

Ar adegau, gydag enwau cyfarwydd iawn, ni chynigwyd lleoliad.

Ffynonellau
Nid yw'r dyfynnu wastad yn gyson, felly gall cyfeiriadau at yr un papurau Mostyn fod yn Mostyn a FRO Mostyn.

Mae rhai ffynonellau dogfennol eto i'w hadnabod (gweler uchod).

Diwygiodd rhai archifdai catalogau a rhestri ers 1973.

Weithiau, mae slip yn cynnwys ffurf a ddilynnir, nid gan dystiolaeth ddogfennol primaidd, ond gan gyfeiriad at erthygl neu lyfr. Ni ddylid ei ystyried yn ffurf hanesyddol.

Cywiriadau
Dylai defnyddwyr roi gwybod i ni bob tro am unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau angenrheidiol.