Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd

 

 

Cytundeb Defnyddiwr

 

 

Delir y gronfa ddata a geir ar y wefan hon gan Brifysgol Bangor (PB) mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Digideiddio’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHDS). Adwaenir y gronfa ddata fel Archif Melville Richards, ac AMR yw’r talfyriad.

Rhaid cydnabod cyrchu’r gronfa ddata ac unrhyw ddefnydd a wneir ohoni. Dyma isafswm geiriad y gydnabyddiaeth:

Yr wyf i/ydym ni yn cydnabod defnydd o archif ymchwil enwau lleoedd yr Athro Melville Richards ym Mhrifysgol Bangor, a gyrchwyd trwy gronfa ddata Archif Melville Richards(AMR), prosiect a gyllidwyd trwy grantiau gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru a Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Delir hawlfraint archif yr Athro Melville Richards o bapurau ymchwil, llyfrau nodiadau a slipiau gan ysgutorion stad yr Athro Richards. Rhoes yr ysgutorion ganiatâd i PB ganiatáu mynediad at y defnydd enwau lleoedd a gedwir yn PB ac at y fformat a ddigidwyd (AMR).

Rhybudd: Diogelir y gronfa ddata hon gan ddeddf hawlfraint a chytundebau rhyngwladol. Os bydd unrhyw un yn dyblygu neu yn dosbarthu’r rhaglen hon (neu ran ohoni) heb fod yn unol â’r telerau a’r amodau, a/neu heb y gydnabyddiaeth uchod, gall fod yn agored i gosb droseddol neu sifil ddifrifol, ac fe’i herlynir i’r eithaf posibl dan y gyfraith. Daw’r cytundeb hwn dan Gyfraith Lloegr a Chymru.