CysGair
Chwilio am air
Teipio yn y bocs geiriau
Teipiwch air Cymraeg neu Saesneg yn y Bocs Geiriau. Wrth i chi deipio fe welwch chi'r Rhestr Eiriau yn cael ei diweddaru'n awtomatig i ddangos safle'r gair yn y geiriadur. Ar ôl gorffen teipio, gallwch glicio ar y botwm Chwilio neu fe allwch bwyso 'Enter' i ddangos cyfieithiad y gair.
Pe baech chi'n teipio'r nodau 3 neu 4 yn y Bocs Geiriau er enghraifft, bydd diffiniad y trydydd neu'r pedwerydd gair yn y Rhestr Eiriau yn ymddangos. Mae modd defnyddio nodau 1-9.
Dewis gair yn eich dogfen i'w gyfieithu
Mae modd galw ar CysGair o du mewn i'ch prosesydd geiriau trwy glicio ar icon CysGair. Bydd y rhaglen yn dewis y gair nesaf at y cyrchwr, ei gopïo i'r Bocs Geiriau a dangos y cyfieithiad ohono yn y Ffenestr Ddiffinio.
Newid Iaith y Geiriadur
Cliciwch ar y botwm hwn i newid iaith y geriadur i Saesneg-Cymraeg/Cymraeg-Saesneg.
Fe allech chi hefyd glicio ar unrhyw gyfieithiad yn y Ffenestr Ddiffinio i newid iaith y geiriadur.
![]() |