CysGair
Chwilio am air
Cenedl enwau a lluosogion
Wrth symud pwyntydd y llygoden dros enw Cymraeg yn y Ffenestr Ddiffinio, bydd cenedl y gair hwnnw yn ymddangos mewn bryslen. Bydd ffurfiau lluosog geiriau unigol hefyd yn ymddangos.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae CysGair yn nodi'r gwahaniaeth rhwng ystyron gwahanol rhai prifeiriau Saesneg.
Mae'r prifair yn cael ei ddilyn gan air mewn cromfachau fel arfer. Weithiau,
bydd y gair yn gyfystyr â'r prifair ac felly'n cael ei ragflaenu gan y
symbol '='. O bryd i'w gilydd bydd categori (megis Computing, Mathematics neu
Business) yn ymddangos mewn cromfachau hefyd.
Berfau a geiriau wedi'u treiglo
Gall y rhaglen adnabod treigladau, rhediad berfau (rheolaidd ac afreolaidd) a ffurfiau lluosog. Er enghraifft, gall CysGair adnabod mai ffurf dreigledig o canolfan yw nghanolfan ac mai ffurf ar cyflwyno yw cyflwynodd. Pe baech yn teipio'r enw lluosog ceisiadau, byddai'r rhaglen yn dangos mai cais yw ffurf unigol yr enw hwnnw.
![]() |