{0>TERMAU TECHNEGOL<}0{>TERMAU TECHNEGOL

nôl i'r dudalen hyfforddiant


<0}

CYNNWYS

Beth yw term?

Safoni v. Cysoni

Cwestiwn awdurdod

Cywirdeb gwleidyddol

Safonau rhyngwladol

Defnyddio geiriaduron termau

 

 

Beth yw term?

 

Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru:

“Gair neu ymadrodd a ddefnyddir mewn ystyr bendant neu fanwl mewn pwnc neu ddisgyblaeth benodol, gair neu grŵp o eiriau sy’n mynegi (cy)syniad neu a ddefnyddir mewn cyd-destun penodol”.

 

Y defnydd o air neu eiriau mewn cyd-destun penodol, nid y gair neu’r geiriau hynny ynddynt eu  hunain, sy’n eu gwneud yn dermau. Er enghraifft, mae geiriau fel ‘egni’, ‘munud’ a ‘modfedd’ yn bod fel termau mewn meysydd technegol, ond maent hefyd yn eiriau cyffredin sy’n bod mewn iaith bob dydd. Mae egni yn derm arbenigol yn perthyn i faes ffiseg mewn brawddeg fel “Mae egni fel arfer yn cael ei rannu yn dri dosbarthiad: egni cinetig, egni potensial ac egni pelydrol”. Ar y llaw arall, mae egni yn air sy’n perthyn i iaith bob dydd mewn brawddeg fel “Does gen i fawr o egni i wneud fy ngwaith heddiw”. Mae egni mewn iaith bob dydd yn cael ei ddefnyddio’n drosiadol bron, a gellid rhoi gair neu ymadrodd arall yn ei le heb golli’r ystyr e.e. “Does gen i fawr o ffrwt/ does fawr o fynd arna i ....” Yr un fath gyda’r gair munud, fel term technegol mae hwn yn golygu chwedeg eiliad (union). Mewn iaith bob dydd fodd bynnag, pan fyddwn ni’n dweud “Aros funud” fyddwn ni ddim yn golygu cyfnod mor benodol, dim ond cyfnod gweddol fyr. Gallem hefyd ddweud “Aros eiliad/ aros ychydig bach” heb newid dim ar yr ystyr. Mae modfedd yn cael ei ddefnyddio fel term technegol i olygu mesur penodol o hyd, ond mewn iaith bob dydd mae’n golygu pellter gwahanol fyr e.e. “Paid ti symud fodfedd/ paid ti symud o’r fan”. Mae iaith yn gyfrwng byw, cynhyrchiol, ac mae delweddu, drwy wneud defnydd trosiadol o eirfa sy’n perthyn i faes penodedig a’i addasu i sefyllfaoedd eraill, yn un ffordd o gyfoethogi iaith.

 

Wrth drin termau mewn meysydd arbenigol, nid oes yr un rhyddid i siarad yn llac, a defnyddio geiriau mewn ystyr anfanwl. Mae termau technegol yn perthyn i’r hyn a elwir yn iaith at ddibenion arbennig, neu yn Saesneg language for special/specific  purposes (LSP). O wneud ymchwil ar y we, fe welir fod llawer o theori wedi’i ysgrifennu ynghylch LSP, a bod cyrsiau prifysgol yn dysgu yr hyn maent yn ei alw’n LSP i bobl sy’n gorfod trin pynciau arbenigol yn eu hail iaith e.e. Almaeneg ar gyfer Peirianwyr, Sbaeneg ar gyfer Meddygon, neu Eidaleg ar gyfer Busnes. Mae llawer o gynnwys y cyrsiau hyn yn ymwneud â dysgu’r termau technegol cywir yn yr ieithoedd hyn. Er mwyn bod yn sicr bod pawb yn siarad am yr un peth o fewn LSP, datblygwyd theori safoni termau. Os ydych am ddysgu mwy am hyn, ewch i safle gwe Infoterm (Canolfan Gwybodaeth Rhyngwladol ar Derminoleg, a sefydlwyd dan UNESCO yn 1971). Y cyfeiriad yw http://linux.infoterm.org/.

 

Safoni v. cysoni termau

Os mai’r cyfan sydd angen ei wneud i ddiogelu bod pawb yn siarad am yr un peth o fewn iaith dechnegol, gellid meddwl fod cysondeb yn ddigon wrth benderfynu ar y term cywir. Ond beth os oes dau gynnig ar gael, dyweder, i gyfieithu’r term Saesneg language register. Y cynnig cyntaf yw cofrestr iaith, a’r ail gynnig yw cywair iaith. Os mai’r cyfan sy’n bwysig yw cael cysondeb, does dim gwahaniaeth pa un o’r ddau derm hyn a ddewiswn, dim ond i bawb gytuno i ddefnyddio’r un un. Ond o holi beth yw ystyr y term Saesneg, cawn fod register ynddo yn golygu gwahanol fathau gwahanol o iaith: a yw’r iaith yn ffurfiol, yn anffurfiol, yn dechnegol, yn dafodieithol neu’n sathredig. Y gair Cymraeg am hyn yw cywair, ac mae’r term cywair iaith felly yn gywir. Ar y llaw arall mae cofrestr yn y term cofrestr iaith yn gamgyfieithiad, am ei fod wedi camddeall ystyr register yn y Saesneg.

 

Gellir dadlau felly, bod modd cael mwy nag un term safonol mewn iaith. Yn sicr, mae’n well cael anghysondeb yn y defnydd o dermau, lle mae pob term a ddefnyddir yn gywir, yn hytrach na chysondeb, os yw’r term hwnnw’n anghywir. Yn ymarferol wrth gwrs, y nod yw cael safon a chysondeb. Wrth safoni termau, mae terminolegwyr yn sôn am y term cymeradwy (preferred term), cyfystyron (synonyms) a thermau anghymeradwy (deprecated terms). Y termau anghymeradwy yw’r rhai na ddylid eu defnyddio, naill ai am eu bod yn anghywir, neu bod dadl gref arall yn eu herbyn, e.e. eu bod yn hiliol neu yn peri loes i rywrai (gw. cywirdeb gwleidyddol). Mae’r cyfystyron yn dermau sydd yn gywir, ond er mwyn cadw cysondeb, mae’n rhaid penderfynu ar un term lle ceir dewis o dermau cywir, a hwnnw felly yw’r term cymeradwy.

 

Stori wir:

Roedd corff arholi yn Lloegr yn defnyddio asiantaeth gyfieithu yng Nghymru i gyfieithu papurau arholiad. Gan nad oedd neb yn swyddfa’r corff yn Llundain yn arbenigwr ar y Gymraeg, gofynnwyd i gorff arall adrodd iddynt ar safon y cyfieithiadau, a gweithredu fel canolwr os oedd problem yn codi ynghylch camgyfieithu neu ddiffyg safoni termau. Yr oedd safon y cyfieithu’n dda, ac ni fu’n rhaid defnyddio’r drefn apęl o gwbl. Fodd bynnag, doedd y corff ddim wedi meddwl sefydlu trefn debyg i ofalu am y Saesneg gwreiddiol. Daeth cwyn gerbron y corff am fod anghysondeb yn eu defnydd o dermau Saesneg, ond doedd dim peirianwaith ganddynt i ddelio gyda chwynion am dermau yn yr iaith honno!

 

 

Cwestiwn awdurdod

Pwy sydd â’r awdurdod i bennu pa derm yw’r term cymeradwy i’w ddefnyddio mewn maes arbennig? Mewn rhai gwledydd (Ffrainc er enghraifft), mae’r llywodraeth yn ceisio rheoli pa eiriau sy’n cael eu defnyddio. Nid yw hyn yn llwyddiannus iawn, am fod siaradwyr cyffredin yr iaith yn mynnu mynd eu ffordd eu hun. Mae’n dangos dryswch hefyd rhwng termau technegol o fewn LSP a geirfa iaith bob dydd, lle mai siaradwyr yr iaith yw’r awdurdod am yr iaith honno.

 

Weithiau bydd gwahanol gyrff yn dod at ei gilydd i geisio safoni. Mewn sefyllfa felly, y cysyniadau sy’n cael eu safoni mewn gwirionedd, ac nid yw’r termau ond yn adlewyrchu’r cysyniadau hynny. Mae’r Systčme International d'Unites wedi pennu unedau mesur safonol, a symbolau rhyngwladol safonol yn codi ohonynt. Mae’r awdurdod sy’n deillio o’r unedau safonol hyn yn tarddu o gytundeb gwirfoddol y gymuned ryngwladol i lynu wrthynt. Yr un fath gyda safoni termau, cytundeb gwirfoddol o fewn y gymuned ieithyddol sy’n rhoi awdurdod iddynt.

 

Gall corff unigol benderfynu safoni termau o’i fewn, ac mae awdurdod i’r termau yna wedyn o fewn y corff. Ni all y corff hwnnw (oni bai ei fod yn fater o ddeddf gwlad) orfodi cyrff nac unigolion  eraill i ddefnyddio’r un termau, ond gall fod yn fanteisiol iddynt wneud. Er enghraifft, penderfynodd ACCAC (Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru) safoni termau ym maes y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Yr oedd ganddo’r awdurdod i fynnu bod y dogfennau  yr oedd ef ei hun yn eu cyhoeddi yn defnyddio’r termau yr oedd yn eu hargymell, ac i ofyn i’w gyfieithwyr, lle roedd hynny’n berthnasol, i ddefnyddio’r termau hyn. Nid oedd yn medru gorfodi athrawon, er enghraifft, i ddefnyddio’r termau hynny yn eu gwersi yn ysgolion Cymru, ond roedd yn fanteisiol iddynt hwy a’u disgyblion eu bod yn gwneud, gan mai dyma’r termau fyddai’n ymddangos yn eu meysydd llafur.

 

Weithiau bydd cyrff sy’n gweithio yn yr un maes neu mewn meysydd cyfagos yn dod at ei gilydd i safoni termau ar y cyd. Mae Cyllid y Wlad, Tollau Cartref a Thramor, Y Swyddfa Brisio, Asiantaethau Budd-daliadau a Chynnal Plant ac amryw eraill wedi gwneud hynny yng Nghymru fel bod ganddynt nid yn unig dermau safonol fel cyrff  unigol, ond eu bod yn cytuno â’i gilydd ar draws y maes. Unwaith eto, mae’n fanteisiol i bobl o’r tu allan i’r cyrff hyn ddefnyddio’u termau hwy, gan wybod eu bod eisoes wedi’u cywiro a’u cysoni rhyngddynt â’i gilydd.

 

Gellir ystyried teitlau deddfau ac enwau sefydliadau fel termau safonol na ddylai pobl heb awdurdod i wneud hynny ar unrhyw gyfrif eu newid. Mae teitlau deddfau yn cael eu pennu o fewn y deddfau eu hunain. Mae’r rhain yn deitlau ‘swyddogol’ dan ddeddf gwlad. Yn Saesneg yr ysgrifennir deddfau llywodraeth San Steffan i gyd, ac nid ydynt yn cael eu cyfieithu’n swyddogol i’r Gymraeg. Nid oes cyfieithiadau swyddogol ar gael o deitlau’r deddfau hyn ychwaith. Mewn cyd-destun technegol manwl felly, dim ond teitlau Saesneg sydd ar gael. Mae llawer o’r teitlau yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg mewn dogfennau eraill (gan gynnwys dogfennau’r llywodraeth), ond dylid bod yn ymwybodol nad teitlau ‘swyddogol’ mohonynt.

 

Gydag enwau sefydliadau, mater i’r sefydliad ei hun yw ei enw. Wrth gyfieithu enw sefydliad i iaith arall felly, dylid gofyn yn gyntaf i’r sefydliad a oes ganddo enw swyddogol yn yr iaith honno, a’i ddefnyddio os oes yna un. Os yw enw sefydliad yn cael ei gyfieithu am y tro cyntaf, dylid ceisio sicrhau bod y sefydliad yn hapus gyda’r cyfieithiad, ac annog y sefydliad i gadw cofnod ohono ar gyfer y dyfodol.

 

Cywirdeb gwleidyddol

Weithiau, nid ystyriaethau o gywirdeb yw’r unig rai pwysig wrth safoni term. Mae sensitifrwydd i ddymuniadau unigolion a grwpiau gwahanol hefyd wedi dod yn elfen yn y dewis o dermau priodol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os yw pobl ddiabetig yn collfarnu’r term ‘clefyd siwgr’ am fod y gair ‘clefyd’ yn awgrymu eu bod yn afiach, rhaid parchu eu dewis, er bod ‘clefyd siwgr’ yn hen derm traddodiadol Cymraeg. Mae’r un peth yn wir am eirfa sy’n disgrifio swyddi merched a dynion, neu aelodaeth o grwpiau ethnig gwahanol. Yma rhaid bod yn ofalus i beidio â defnyddio iaith sy’n gwahaniaethu’n annheg yn erbyn unrhyw un.

 

Mae gwahanol gyrff yn cyhoeddi canllawiau ar y termau priodol yn eu maes hwy o dro i dro. Dau gyhoeddiad cyfredol sy’n gymorth ym maes anabledd a chyfle cyfartal yw Anabledd ac Iaith: Canllawiau defnyddio terminoleg anabledd (gw. Llyfryddiaeth), a Cyfieithu Cydraddoldeb. Gellir cael copďau o Cyfieithu Cydraddoldeb oddi wrth y Comisiwn Cyfle Cyfartal, Ffôn: 2034 3553, e-bost: wales@eoc.org.uk

 

Safonau Rhyngwladol

Mae’n bwysig cofio nad gweithgaredd sy’n digwydd yn y Gymraeg neu mewn ieithoedd lleiafrifol yn unig yw safoni termau. Mae hwn yn weithgaredd rhyngwladol, ac wrth i gyfnewid gwybodaeth ddod yn bwysicach rhwng ieithoedd â’i gilydd, gwnaed ymdrechion i lunio safonau a fyddai’n gymorth i bawb yn y maes. Un corff rhyngwladol sy’n ceisio gwneud hyn yw ISO, neu’r International Organization for Standardization. Mae hwn yn cynnig safonau mewn pob math o feysydd, gan gynnwys maes terminoleg. Gellir gweld maint ei weithgarwch ar ei safle gwe: http://www.iso.ch/iso/en/. O fewn maes terminoleg, ceir nifer o safonau gwahanol, yn ymwneud, er enghraifft, â rheoli projectau terminoleg, a chyfatebiaeth cysyniadau ar draws ieithoedd, yn ogystal ag egwyddorion safoni termau. Mae’r rhain o reidrwydd yn gyffredinol iawn, gan eu bod yn gorfod bod yn ddilys ar gyfer pob iaith. Mae disgwyl i gyrff sy’n ymwneud â safoni termau ar gyfer ieithoedd unigol addasu’r rhain ar gyfer eu hieithoedd hwy. Yn 1993 cynhyrchodd y Ganolfan Safoni Termau ei chanllawiau cyntaf ar gyfer safoni termau yn y Gymraeg yn seiliedig ar ISO 704. Ceir crynodeb o’r meini prawf pwysicaf isod.

 

Meini Prawf Safoni Termau ar gyfer y Gymraeg

 

- Dylai term fod yn ieithyddol gywir (o ran orgraff a gramadeg)

- Dylai adlewyrchu’r nodweddion a roddir yn y diffiniad

- Dylai term fod yn gryno

- Dylai fedru cynhyrchu ffurfiau eraill (enwau, ffurfiau lluosog, berfau, ansoddeiriau)

- Dylai pob term gyfateb i un cysyniad yn unig

 

 

Defnyddio geiriaduron termau

Mae geiriaduron yn arfau iaith anhepgor i gyfieithwyr. Gall y rhain fod naill ai’n eiriaduron cyffredinol, neu’n eiriaduron termau arbenigol. Gall y naill ddosbarth a’r llall fod yn uniaith, yn ddwyieithog, neu gynnwys mwy na dwy iaith. Dylai pob cyfieithydd gael detholiad da o eiriaduron wrth law (gw. Llyfryddiaeth). Mae geiriaduron ar ffurf electronig yn dod yn fwy cyffredin erbyn hyn, ar ffurf CD Rom, neu’n rhyngweithiol ar y we. Gall geiriaduron electronig arbed amser i gyfieithydd a gwella cywirdeb, gan eu bod yn gynt i’w chwilio a bod modd copďo a gludo geiriau yn syth i ddogfen ohonynt.

 

Mae geiriaduron cyffredinol yn rhaid disgrifiadol, yn disgrifio’r iaith fel y mae, ac nid ydynt yn ceisio penderfynu rhwng termau ‘cymeradwy’ ac ‘anghymeradwy’. Enghreifftiau o eiriaduron cyffredinol yw Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur yr Academi, a The New Dictionary of English. Mae geiriaduron termau arbenigol yn rhai rhagnodol, yn nodi pa dermau yw’r rhai cymeradwy. Byddant weithiau yn nodi cyfystyron, termau anghymeradwy, a hyd yn oed gyweiriau iaith gwahanol. Enghreifftiau o eiriaduron termau arbenigol yw Y Termiadur Ysgol, Termau Asiantaeth yr Amgylchedd a Bailličre’s Dictionary for Midwives.

 

Mae geiriaduron cyffredinol yn tueddu i weithio o’r gair unigol, ac yn tueddu i arbed lle drwy restru ystyron gwahanol drwy gyfrwng rhifau 1, 2, 3 ac ati. Felly bydd cofnod mewn geiriadur cyffredinol efallai yn rhoi rhywbeth fel:

grain    1. gronyn

            2. grawn

            3. graen

Ar y llaw arall, bydd geiriadur termau yn gweithio o’r cysyniad, a bydd yno fel arfer gofnod gwahanol ar gyfer pob cysyniad gwahanol. Fel hyn:

grain (=particle) gronyn

grain (food crop) grawn

grain (in rock, wool, cloth) graen

Mae hyn yn help i gadw’r gwahanol ystyron ar wahân. Yn yr enghraifft uchod hefyd ceir disgrifiad byr rhwng cromfachau i helpu gwahaniaethu rhwng y cysyniadau gwahanol. Yr enw technegol ar y disgrifiad hwn yw dadamwysydd (disambiguator), a bydd craffu ar y dadamwyswyr hyn yn arbed llawer i gam gwag wrth gyfieithu. Weithiau, bydd geiriaduron termau arbenigol yn rhoi brawddeg neu baragraff llawn i esbonio term. Mae hyn yn arbennig o wir am eiriaduron termau uniaith. Gall y rhain hefyd fod o gymorth mawr i’r cyfieithydd, yn enwedig er mwyn deall cysyniadau anghyfarwydd.

 

Nid canllaw i roi i ni “y gair Cymraeg am ---” yn unig yw geiriaduron. Mae geiriaduron yn help i ni ddeall ystyron geiriau. Mae dadamwyswyr a diffiniadau yn rhoi gwybodaeth bwysig i ni.

 

Mae geiriaduron cyffredinol yn tueddu i gynnwys termau ac ymadroddion sy’n cynnwys mwy nag un gair fel isgofnodion o dan air unigol. Gair unigol yw’r  dangosair fel arfer. Gall hyn guddio’r ffaith fod ystyr term sy’n cynnwys mwy nag un gair yn medru bod yn wahanol i ystyron y geiriau unigol o’i fewn. Er enghraifft, nid math o lygoden sy’n dod o Ffrainc yw ‘llygoden Ffrengig’ ond rhywogaeth a elwir yn Saesneg, ‘rat’. Mae geiriaduron termau arbenigol (a rhai geiriaduron cyffredinol erbyn hyn) yn rhoi cofnod annibynnol i dermau sy’n cynnwys mwy nag un gair. Wrth gwrs, gall term sy’n cynnwys mwy nag un gair mewn un iaith gyfateb i derm sy’n cynnwys gair unigol mewn iaith arall, ac mae’n bwysig bod cyfieithwyr yn chwilio am unedau sy’n cynnwys mwy nag un gair mewn geiriaduron. Mae’n haws gwneud ymchwil o’r fath mewn geiriaduron electronig, ac weithiau mae’n bosib gosod y rhain i chwilio am eiriau unigol, unrhyw air o fewn uned fwy, neu unedau cyflawn mwy nag un gair.

 

Mewn cymdeithas sy’n newid mor gyflym, mae cysyniadau a thermau newydd yn ymddangos drwy’r amser. Mae geiriaduron yn cymryd amser i’w cynhyrchu, ac felly efallai y bydd y cyfieithydd yn dod ar draws termau neu ystyron newydd sydd heb eto gael eu cynnwys mewn unrhyw eiriadur. Mewn achosion felly, gall y cyfieithydd wneud ymchwil termau ei hun ar y we fyd-eang, ac mae’n rhyfeddol mor llwyddiannus yw’r cyfrwng hwn yn codi enghreifftiau o eiriau newydd sbon, a hynny yn aml mewn cyd-destun sy’n esbonio rhywfaint am eu hystyr. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler yr adran Ymchwil Termau ar y We.

 

Cofiwch hefyd am y cylch trafod welsh-termau-cymraeg ar y rhyngrwyd. Gall unrhyw un sydd â mynediad at e-bost ymaelodi ag ef. Gallwch ymaelodi drwy fynd i  http://www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg.html a dilyn y cyfarwyddiadau yno. Cylch sy’n cael ei redeg gan y Ganolfan Safoni Termau o fewn Uned e-Gymraeg Canolfan Bedwyr ydyw. Mae’n cynnwys tua 135 o aelodau erbyn hyn, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfieithwyr proffesiynol.  Gall unrhyw un holi’r cylch ynghylch term penodol, ac mae rhyddid i unrhyw aelod ymateb. Weithiau bydd trafodaeth fywiog yn codi o ganlyniad i hyn. Caiff hen negeseuon eu harchifo ar y we, a gall unrhyw un weld yr ymatebion iddynt. Gofynnir i aelodau ddefnyddio’r term y maent yn holi yn ei gylch fel teitl eu neges, a chadw’r un teitl drwy’r rhes o atebion, fel bod modd olrhain y drafodaeth a’r ymatebion drwy ddilyn y teitl hwnnw.

 


nôl i'r dudalen hyfforddiant