Defnyddio gwirydd sillafu, geiriaduron electronig a phob dim arall sydd ar eich cyfrifiadur yn fwy effeithiol.
Delyth Prys a JPM Jones
© Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor
Cynnwys
3. Creu llwybr byr ar gyfer acenion
5. Creu llwybr byr ar gyfer newid iaith gwirio sillafu yn Word XP
6. Creu cronfa ddata o dermau at eich defnydd eich hun
7. Creu Llwybr byr i newid iaith gwirio sillafu yn Word XP (Manylach)
Arfau iaith y cyfieithydd yw pob dim y mae'n ei ddefnyddio i hwyluso a chyflymu'r broses gyfieithu. Fe'u gelwir yn 'language utilities' neu 'language tools' yn Saesneg. Yn yr amgylchedd cyfrifiadurol cyfoes, golyga hyn gymwyseddau electronig yn bennaf: gwirwyr sillafu a gramadeg, geiriaduron electronig a rhaglenni rheoli cyfieithu.
Mae modd defnyddio llawer o'r cymwyseddau hyn fel rhaglenni ar wahân, ond i gael y gorau ohonynt mae'n werth cynllunio gorsaf waith integredig, a threulio ychydig o amser i ystyried sut i gael y gorau ohonynt ar gyfrifiadur y cyfieithydd unigol, neu ar fewnrwyd swyddfa gyfieithu. O'u defnyddio'n effeithiol, mae'r arfau hyn yn cyflawni dau beth, sef arbed amser a rheoli ansawdd.
Ymhlith yr hyn sy'n arbed amser mae:
Ymhlith yr hyn sy'n gymorth i reoli ansawdd mae:
Mae nifer mawr o arfau iaith electronig ar gael ar gyfer y farchnad gyfieithu fyd eang, ac mae'r nifer sydd ar gael ar gyfer y Gymraeg yn cynyddu. Mae rhai arfau iaith e.e. systemau cof cyfieithu, yn bethau y gellir eu haddasu ar gyfer unrhyw iaith. Os bydd gennych funud yn rhydd i syrffio'r we, teipiwch derm fel 'language tools' neu 'translation memory' i'ch peiriant chwilio i weld beth sy'n cael ei gynnig. Bydd yn agoriad llygad i chi.
Beth yw'r broblem?
Pam mae'r broblem yn bod?
Er mwyn i gyfrifiaduron a systemau gwahanol fedru cyfathrebu â'i gilydd, rhaid cael SAFONAU CYFFREDIN rhyngddynt. Mae'r rhain wedi datblygu'n raddol dros y blynyddoedd, ond yn y cyfamser datblygwyd atebion lleol ac ad hoc i ambell i broblem. Mae'r rhain yn gweithio'n iawn ar beiriannau/o fewn meddalwedd unigol, ond nid oes modd eu trosglwyddo oni bai fod y peiriant/meddalwedd sy'n derbyn yn cydweddu iddynt. Enghreifftiau o atebion lleol yw'r acenion o fewn CySill a ffontiau MEU. Mae safonau rhyngwladol newydd yn gwella'r sefyllfa. Dan yr hen drefn doedd dim digon o gyfuniadau rhifau ar ôl i gyfleu'r w a'r y gydag acen grom, ond mae safonau newydd yn defnyddio cyfuniad hirach o rifau, ac felly yn cwmpasu mwy o symbolau (gan gynnwys yr w a'r y gydag acen grom). Fodd bynnag, nid yw'r rhain wedi treiddio i bob man eto, er bod pethau'n gwella. I ddarllen mwy am hyn, ewch at:
Er mwyn i gyfrifiaduron a systemau gwahano
http://www.evertype.com/celtscript/celtcode.html
I gael rhestr lawn o'r codau Unicode safonol, ewch at:
http://www.unicode.org/charts/
Rhybudd!
Hyd yn oed os yw acenion yn edrych yn iawn ar eich cyfrifiadur
chi, gallant gael eu drysu wrth gael eu trosglwyddo i amgylchedd arall. Mae
angen gofal arbennig
Os ydych chi'n gyrru gwaith yn electronig felly (h.y. unrhyw gyfrwng cyfrifiadurol - dim ond copi caled sy'n diogelu acenion!), cofiwch dynnu sylw'r cwsmer at broblem yr acenion.
Ymarferiad Lluniwch bolisi byr i'ch asiantaeth/swyddfa chi i ddelio gyda phroblemau wrth drosglwyddo acenion yn electronig. Dylai hyn gynnwys
|
Creu Llwybr Byr Ar Gyfer Acenion
I weld beth yw'r llwybr byr ar gyfer acenion ewch at y ddewislen Insert a dewis Symbol. Bydd hyn yn rhoi blwch dialog ichi:
Bydd hyn rhoi blwch dialog arall
Mae'n werth cadw cysondeb a defnyddio yr un math o llwybr byr ar gyfer yr un acen fel bod:
Ctrl a ^, yna a, yn cynhyrchu â
Ctrl a ^, yna w, yn cynhyrchu w gydag acen grom
Ctrl a ^, yna E, yn cynhyrchu Ê
ac yn y blaen.
Wrth deipio Cymraeg yn Word, gofalwch fod y dewis iaith wedi'i osod ar gyfer y Gymraeg os yw'r dewis ar gael. Gyda Word XP, bydd hyn yn golygu y bydd y gwirydd sillafu Cymraeg yn gweithio hefyd (os yw wedi'i lwytho). Gyda Word 2000 mae 'Welsh' yn ddewis yn y ddewislen ieithoedd (o dan Tools - Language - Set Language) er nad oes arfau iaith ar ei chyfer. Gyda fersiynau cynharach o Word, nid yw'r dewis yn bod. Fodd bynnag, os ydych yn teipio'n Gymraeg a'r iaith wedi'i gosod fel 'English' bydd y rhaglen awtogywiro yn gwneud pethau rhyfedd fel troi pob 'i' sydd ar ei phen ei hun yn brif lythyren. Mae dau ateb i hyn:
Mae modd defnyddio'r Autocorrect yn fwy helaeth fodd bynnag. Os ydych chi'n arfer teipio mewn mwy nag un iaith, gallwch osod dewisiadau Autocorrect gwahanol ar gyfer y gwahanol ieithoedd drwy bennu'r iaith briodol ar gyfer y ddogfen yn gyntaf (gw. uchod). Beth yw'r gwallau yr ydych chi'n tueddu'u gwneud amlaf wrth deipio? Mae modd i chi osod rhain i ymgywiro drwy fynd at Tools - Autocorrect Options - Autocorrect a theipio'r geiriau priodol yn y blychau 'Replace:' a 'With:'.
Mae modd i chi osod geiriau sy'n cynnwys acenion i mewn gyda'r ddyfais hon er mwyn arbed rhoi acenion mewn â llaw. Mae'n ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw sillafiadau neu nodau rhyfedd e.e. priflythyren yng nghanol yr enw CySill. Peidiwch fodd bynnag â chynnwys gair gydag acen os byddai'n camgywiro gair arall lle na ddylid cael acen e.e. 'môr' os ydych chi eisiau ysgrifennu 'mor' weithiau. Cofiwch am y ffurfiau treigledig hefyd!
Rhai awgrymiadau i'w hawtogywiro yn Gymraeg.
Cysill | CySill |
Cysgair | CysGair |
ty | ty^ |
ddwr | ddw^r |
casau | casáu |
ol | ôl |
hol | hôl |
Gwyliwch!
Nid yw'r llwybrau byr a wnaethoch ar gyfer yr acenion yn Word yn gweithio yn
y ddewislen Tools a rhaid i chi deipio'r cod i mewn yn llawn. Mae'r rhain i'w
gweld gyda'r symbolau priodol dan y ddewislen 'Insert - Symbol'. Ar gyfer 'y'
rhaid teipio 0177, Alt+X ac ar gyfer 'w' rhaid teipio 0177, Alt+X.
Creu Llwybr Byr Ar Gyfer Newid Iaith Gwirio Sillafu
Yn Office XP mae modd gwirio sillafu Cymraeg. Fel arfer mae'r iaith wedi ei gosod fel Saesneg a rhaid mynd trwy'r broses o newid yr iaith.
1. Y ffordd hir o wneud hyn yw mynd at ddewislen
Tools
Language Set Language...
a newid yr iaith i Welsh.
2. Ffordd ychydig haws yw dwbl glicio ar y gair English yn y bar ar waelod y sgrin ac yna newid yr iaith.
3. Ond mae modd creu macro i wneud hyn yn haws. Mae macro yn recordio'r hyn sy'n cael ei wneud ar y fyseddell, yna gellir chwarae'r macro yn lle defnyddio'r fyseddell.
Ewch at y ddewislen:
Tools
Macro Record New Macro...
Bydd y cyrchwr yn dangos llun bychan fel tâp recordio. Tra bo hwn i'w weld
ewch trwy'r broses o newid iaith fel yn adran 1 uchod (nid oes rhaid brysio!).
Wedi gorffen ewch at y ddewislen:
Tools Macro
Stop recording
Recordiwch facro arall i newid yr iaith yn ôl i'r Saesneg.
Nid yw pob term ar gael mewn geiriadur. Mae gwahanol gwsmeriaid hefyd yn gofyn i dermau penodol gael eu defnyddio, ac mae angen cofnodi'r rhain. Mae llawer o gyfieithwyr felly yn cynnull eu rhestri eu hunain o dermau. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, ond mae cronfa ddata electronig yn hwyluso'r gwaith yn fawr. Wrth ddefnyddio cronfa ddata gellir:
Mae rhaglenni cronfeydd data pwrpasol fel Access (sy'n rhan o'r pecyn Microsoft Office) yn hwylus ar gyfer y gwaith hwn. Gellir defnyddio taenlen fel Excel hefyd. Fodd bynnag, mae tabl syml o fewn Word hefyd yn medru gweithredu fel cronfa ddata ac yn fan da i gychwyn y gwaith.
1. Cynllunio'r gronfa ddata
Mae gwahanol ddarnau o wybodaeth yn mynd i wahanol 'feysydd' yn y gronfa ddata.
Mae'n hawdd meddwl am hyn fel 'blychau' gwahanol mewn tabl. Dyma rai meysydd
sy'n ddefnyddiol mewn cronfa ddata o dermau:
maes 1:     term yn Saesneg
maes 2:     diffiniad cryno
maes 3:     rhan ymadrodd y term Saesneg
maes 4:     term yn Gymraeg
maes 5:     rhan ymadrodd y term Cymraeg
maes 6:     ffurf luosog y term Cymraeg
maes 7:     brawddeg enghreifftiol
maes 8:     ffynhonnell y term Saesneg
maes 9:     ffynhonnell y term Cymraeg
maes 10:   enw'r cwsmer sy'n defnyddio'r term
Wrth gwrs, does dim rhaid i chi gynnwys pob un o'r meysydd hyn. Penderfynwch pa feysydd fydd yn ddefnyddiol i chi, a chyfrif y nifer o golofnau fydd eu hangen yn y tabl ar sail hynny. Ar ei symlaf gall hwn fod yn dabl yn cynnwys dwy golofn: maes term Saesneg a maes term Cymraeg yn unig. Lluniwch dabl fel hyn yn Word (ewch at y ddewislen Table - Insert).
Term Saesneg | Term Cymraeg |
Cadwch y ddogfen hon ar agor wrth weithio ar ddogfen arall. Bob tro y dowch at derm yr ydych am ei gynnwys yn eich rhestr, copïwch y term o'r ddogfen honno a'i ludo yn eich tabl. Mae'n hawdd sboncio rhwng dwy ddogfen drwy gadw'r ddwy ar agor a chadw eicon y llall yn fach ar waelod y dudalen neu os oes gennych sgrin fawr, gallwch hollti'r sgrin rhyngddynt fel bod y ddwy yn y golwg drwy'r amser.
Sortio yn nhrefn y wyddor
Nid oes angen gosod geiriau i mewn yn nhrefn y wyddor. Fe wnaiff y rhaglen
eu sortio drosoch chi. Ewch at y ddewislen 'Table' eto ac edrych am yr eicon
A
Z
Mae'n bosib y bydd angen i chi bwyso'r saethau sy'n dod â mwy o ddewisiadau
i'r golwg os nad ydych wedi arfer defnyddio'r eicon hwn. Amlygwch y golofn yr
ydych am ei sortio, ac fe welwch y geiriau'n ad-drefnu'u hunain yn nhrefn y
wyddor. Sylwch, ar hyn o bryd, dim ond yn ôl trefn y wyddor Saesneg y mae hyn
yn gweithio: bydd eich 'ch' a'r 'll' Gymraeg yn y llefydd anghywir, a rhaid
cadw hyn mewn cof.
I greu rhestr gyda'r iaith arall yn gyntaf, amlygwch y golofn berthnasol a'u llusgo draw i'r chwith. Yn awr gosodwch honno i sortio yn nhrefn y wyddor. Gallwch wneud copi o'r tabl cyn gwneud hyn er mwyn cael dau dabl, y naill yn Saesneg>Cymraeg a'r llall yn Cymraeg>Saesneg.
Gwirio sillafu
Os oes gennych Word XP gallwch dduo'r naill golofn a phennu'r iaith briodol (yn y ddewislen Tools - Set language) a gwirio'r iaith honno, wedyn duo'r golofn arall, newid iaith a mynd drwy'r un broses eto.
© Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor