CREU LLWYBR BYR I NEWID IAITH GWIRIO SILLAFU AR WORD XP
nôl i Arfau Iaith Cyfrifiadurol
Dyma ffordd i greu llwybr byr ar y bysellfwrdd i newid yr iaith gwirio sillafu i'r Saesneg neu i'r Gymraeg.
I wneud hyn defnyddir 'macro'. Y cwbl yw macro yw dull o recordio cyfres o orchmynion a chyfarwyddiadau ar y cyfrifiadur mewn ffordd y gellir eu chwarae yn ôl yn awtomatig.
Ewch at y ddewislen Tools ac yno dewis: Macro Record New Macro...
Bydd blwch dialog yn cael ei agor:
Rhowch enw synhwyrol yn y blwch Macro name(1.): (megis SillafuCymraeg - rhaid ei sgrifennu fel un gair heb fylchau na chysylltnodau) a disgrifiad byr (megis NEWID GWIRIO SILLAFU I'R GYMRAEG) yn y blwch Description (2.):
Y cam nesaf yw clicio ar y botwm Keyboard (3.) i agor blwch newydd:
Pwyswch y llwybr byr yr ydych am ei ddefnyddio;
Dewiswch rhywbeth hawdd i'w gofio megis pwyso Alt a c gyda'i gilydd i olygu 'newid i'r Gymraeg'.
Bydd y llwybr byr yn ymddangos yn y blwch (1.).
Yna pwyswch Assign (2.) a Close (3.).
Bydd blwch bychan yn ymddangos ar y sgrin sy'n dangos bod y macro yn cael ei recordio - hynny yw mae unrhyw orchmynion neu gyfarwyddiadau y byddwch yn eu rhoi i'r cyfrifiadur yn cael eu recordio. ( NID oes angen brysio wrth recordio, dim ond y gorchmynion a'r cyfarwyddiadau, nid yr amser, sy'n cael eu recordio.) |
Felly rhowch y gorchmynion a ganlyn i'r cyfrifiadur:
1. Mynd i'r ddewislen Tools a dewis Language Set Language...
2. Yn y blwch sgroliwch i lawr i ddewis Welsh a chlicio ar OK.
3. Mynd i'r ddewislen Tools a dewis Macro Stop recording
Yn awr crëwch lwybr byr arall yn yr un ffordd i newid yr iaith gwirio sillafu yn ôl i'r Saesneg. Rhowch enw synhwyrol megis SillafuSaesneg i'r macro a defnyddiwch lwybr byr hawdd i'w gofio megis Alt ac s gyda'i gilydd.
Yn awr gellwch newid i'r Gymraeg trwy bwyso Alt ac c gyda'i gilydd, ac yn ôl i'r Saesneg trwy bwyso Alt ac s gyda'i gilydd. Sylwch bod yr iaith yn ymddangos yn y bar gwybodaeth ar waelod y sgrin.
Os byddwch yn sgrifennu dogfennau dwyieithog gellir gosod yr iaith briodol ar gyfer rhan o'r ddogfen trwy lusgo ar draws y rhan a gosod yr iaith trwy ddefnyddio'r llwybr byr priodol. Gellir hefyd osod iaith wahanol ar gyfer celloedd gwahanol mewn tabl.
Mae'n hawdd dileu neu newid macro trwy fynd i'r ddewislen
Tools a dewis Macro Macros.
ac yn y blwch ddewis y macro yr ydych am ei olygu neu ei ddileu.