nôl i'r dudalen hyfforddiant

Moeseg ac Egwyddorion

Mae'n anochel y bydd cyfieithydd yn wynebu cyfyng gyngor moesegol yn ystod ei yrfa. Isod cyfeirir at rai problemau a dyletswyddau y dylid eu hystyried yn y cyd-destun moesegol hwn. Byddai gosod cod ymarfer yn fodd i reoli safonau ac yn dangos addewid i’r cwsmer o ymarfer da gan y cyfieithydd. Byddai hefyd o gymorth iddo/iddi pe bai'n wynebu'r fath broblemau.

Cyfrinachedd

Yn rhinwedd ei swydd bydd cyfieithydd yn aml yn dod ar draws gwybodaeth gyfrinachol y gallai, o'i datgelu, ymelwa ohoni.  Gallasai'r wybodaeth honno fod yn niweidiol i rai ac yn fanteisiol i eraill, ond dylai'r cyfieithydd yn rhinwedd ei swydd, gofio ei ddyletswydd tuag at ei gyflogwr neu gwsmer.  Weithiau bydd hyn yn mynd yn groes i egwyddorion neu ddiddordebau'r cyfieithydd ei hun ond dylai ymddwyn yn anrhydeddus ac ystyried ei sefyllfa a'i swyddogaeth fel cyfieithydd a'i ddyletswyddau.  Dylai geisio peidio â gadael i'w farn bersonol liwio'r ffordd y bydd yn cyfieithu ac yn ymddwyn.  Efallai y bydd hefyd o dan bwysau gan gyrff a phobl eraill i ddatgelu'r wybodaeth yn ei feddiant, ond unwaith eto dylai geisio ymddwyn yn anrhydeddus.  Rhaid i'r cyfieithydd hefyd sicrhau na fydd neb arall yn cael gafael ar y wybodaeth honno a byddai mesurau i ddinistrio'r wybodaeth, megis rhwygo papur yn fân mewn peiriant rhwygo, yn gam y dylid ei ystyried.  Yn yr un modd, dylid sicrhau bod y wybodaeth sydd wedi'i chadw ar ffurf gyfrifiadurol, yn cael ei hamddiffyn yn ddigonol.  Mewn gwirionedd, drwy fod ag agwedd gadarnhaol ac ystyrlon tuag at eu dyletswyddau proffesiynol gall cyfieithwyr ddatrys y rhan fwyaf o'r problemau sydd ynglŷn â'u dyletswyddau i'r gymuned ac i'w cyflogwyr neu gwsmeriaid. Er hynny, cyn cychwyn project, dylid cytuno os yw cyfieithydd yn rhwym wrth unrhyw reolau cyfrinachedd.

Datblygu gyrfa

Mae'n rheidrwydd ar i gyfieithwyr gynhyrchu gwaith o'r safon uchaf ac i gadw'r safonau hynny.  Er mwyn gwneud hynny dylent hefyd geisio datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau trwy gydol eu gyrfa, a hynny er eu budd hwy yn bersonol ac hefyd er budd y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. 

Y Gyfraith

Dylai pob cyfieithydd fod yn ymwybodol o egwyddorion sylfaenol yng nghyswllt deddfau iechyd a diogelwch, gwarchod gwybodaeth, gwahaniaethu annheg a hawliau dynol a allai fod yn berthnasol iddynt hwy.  Gellir cael mwy o wybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn yr uned berthnasol.

Yr Amgylchedd

Dylai cyfieithwyr fod yn ymwybodol o ffyrdd o leihau effaith eu gwaith ar yr amgylchedd.  Yn y lle cyntaf, golyga hyn fabwysiadu mesurau syml megis:

Y Wasg

Efallai weithiau y bydd cyfieithwyr yn cael eu gwahodd i fynegi barn ar agwedd o'u gwaith neu o'r byd cyfieithu. Mae cyfieithwyr hunangyflogedig yn rhydd fel arfer i wneud fel y mynnont, ond gall fod cymalau yn eu contract gyda chwsmeriaid penodol sy’n mynnu eu bod yn gofyn caniatâd cyn eu henwi hwy mewn unrhyw gyd-destun. Hyd yn oed os nad oes contract felly, mater sensitif yw trafod unrhyw beth sy’n ymwneud â gwaith cwsmeriaid a dylid gofalu nad yw cyfrinachedd byth yn cael ei fradychu. Dylai cyfieithwyr sy’n gweithio’n gyflogedig o fewn cwmnïau ofyn i’w rheolwr llinell cyn cytuno i wneud cyfweliad sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd o’u gwaith. Os ydynt yn mynegi barn bersonol yna dylent sicrhau eu bod yn gwneud yn gwbl glir mai barn bersonol ydyw, gan y gall barn cyfieithwyr eraill fod yn wahanol. 

 


 

Sampl o God Ymarfer y Cyfieithydd

Mae gan rai sefydliadau god ymarfer cyffredinol i’w staff, a dylai cyfieithwyr yn y sefydliadau hynny fod yn ymwybodol o’r cod hwnnw. Fodd bynnag, hyd yn oed lle ceir cod ymarfer cyffredinol, mae’n arfer da i fabwysiadu cod ymarfer penodol ar gyfer cyfieithwyr. Dylai cwmnïau cyfieithu annibynnol a  chyfieithwyr hunangyflogedig hefyd lunio codau ymarfer pwrpasol at eu defnydd hwy. Mae’r isod yn enghraifft bosibl o god ymarfer o’r fath.