Y Dewislenni Cwympo
Golygu
(1) Archwilio Gair: cliciwch yma am ragor o wybodaeth
(2) Dadwneud: cliciwch ar hwn os ydych chi am ddadwneud y camgymeriad mwyaf diweddar y mae CySill wedi'i gywiro yn eich dogfen.
(3) Golygu Gair: gallwch agor Archwilio Gair trwy glicio yma. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
(4) Golygu geiriau: Pan fydd CySill yn oedi ar air yn eich dogfen ac yn cynnig awgrymiadau anaddas, gallwch chi olygu darn o'r testun eich hun. Cliciwch ar 'Golygu Geiriau' i agor ffenestr gyda hyd at dri gair mewn llinell olygu. Gwnewch y newidiadau priodol ac yna cliciwch ar 'Iawn' i ailosod y geiriau yn ôl yn eich dogfen.
(5) Ymlaen tan ... Mae modd neidio dros ran o'r ddogfen y mae CySill yn ei phrosesu trwy glicio ar 'ymlaen tan ...'. Bydd ffenestr fel hon yn ymddangos:
' Teipiwch y gair neu'r atalnodiad (e.e. coma, hanner colon, atalnod llawn) o ble dymunwch i'r rhaglen ailddechrau gwirio. Cliciwch ar 'Iawn' i neidio at y pwynt hwn yn eich dogfen. Mae'n werth agor 'Ymlaen tan ...' os ydych chi am neidio dros ddarn o destun mewn iaith ar wahân i'r Gymraeg.
(6) Anwybyddu brawddeg: Trwy glicio ar hwn, gallwch chi neidio i ddiwedd y frawddeg y mae CySill yn ei phrosesu. Gallwch farcio diwedd y frawddeg yn eich dogfen gyda naill ai atalnod llawn, gofynnod neu ebychnod (yn Golygu | Ymlaen tan ...)
(7) Ailgywiro: Defnyddiwch yr opsiwn hwn yn yr amgylchiadau canlynol. Mae CySill wedi oedi ar air nad yw'n ei adnabod, er enghraifft lluosog 'peth' wedi'i sillafu 'petha'. Yn yr achos hwn, mae'r rhaglen yn cadw at wirio Cymraeg eithaf ffurfiol ac ni fydd yn caniatáu ffurfiau lluosog o'r fath. Pe baech yn newid eich meddwl am arddull y Gymraeg ar ganol gwirio dogfen, gallwch ddefnyddio ffenestr gwympo 'Rheolau' ac agor y dewis 'Rheolau Sillafu' linc at rheolau > rheolau sillafu i ganiatáu defnyddio ffurfiau -a o'r fath mewn terfyniadau lluosog. Bydd dychwelyd at y brif ffenestr wirio yn y fan hyn yn gadael y gair 'petha' wedi'i amlygu ar y sgrin. Cliciwch ar y botwm ailgywiro ac fe fydd y rhaglen yn ailgywiro'r gair 'petha', gan ddefnyddio'r dewis newydd rydych bellach wedi ei ganiatáu. Yn yr achos hwn, gan eich bod wedi newid y dewis o arddull bydd yn derbyn 'petha' ac unrhyw enghraifft bellach o ffurfiau lluosog tebyg yng ngweddill y ddogfen.
(8) Rhoi nodyn yn y ddogfen: Mae modd rhoi nodyn yn y ddogfen sy'n cael ei gwirio ar y pryd. Gallech wneud hyn, er enghraifft, pe baech am ddychwelyd i weithio ar ddogfen gyda'ch prosesydd geiriadur ar ôl ei gwirio gyda CySill. Trwy ychwanegu nodyn mewn lle arbennig yn y ddogfen, gallwch chi chwilio amdano yn eich prosesydd geiriau er mwyn gwneud newidiadau yn y lle hwnnw.
Pryd bynnag y bydd CySill wedi oedi ar air, gallwch glicio ar 'Rhoi nodyn yn y ffeil'. Bydd ffenestr yn ymddangos ac yn y llinell olygu medrwch chi deipio'r nodyn i'w osod yn eich dogfen.
(9) Cofnodi gwall: Nid oes modd i chi gofnodi gwall bellach.