CySill

Rheolau

Bydd angen sgrin-gip o ddewislen Rheolau. Rhifo'r dewisiadau.

(1) Cywiro sillafu

Cliciwch ar hwn os ydych am wirio sillafu eich dogfen. Os nad ydych am wirio sillafu, dylid diffodd y swyddogaeth (dim lliw ar yr icon/dim tic yn newislen Rheolau Cywiro | Sillafu)

(2) Cywiro gramadeg

Cliciwch ar hwn os ydych am wirio gramadeg eich dogfen. Os nad ydych am wirio gramadeg, dylech ddiffodd y swyddogaeth (dim lliw ar yr icon/dim tic yn newislen Rheolau | Cywiro Gramadeg)

(3) Rheolau sillafu

Mae nifer fawr o ddewisiadau ar gyfer y defnyddiwr. Fel y gwelwch chi, mae rhai ohonynt yn caniatáu i chi ddefnyddio sillafiadau llai ffurfiol. I Rhowch 'X' yn y bocsys i'w dewis. I analluogi dewis, cliciwch ar yr 'X' i glirio'r blwch.

Mae'r dewisiadau a ganlyn ar gael:

Derbyn geiriau cyfansawdd

Bydd CySill yn derbyn geiriau cyfansawdd sy'n cynnwys dau air a ysgrifennir ar wahân fel arfer, er enghraifft y cyfuniad 'hunan-gyfrifoldeb'. Ni fydd yn derbyn geiriau cyfansawdd os dylid sillafu'r cyfuniad arbennig hwnnw heb gyplysnod, er enghraifft dylai 'ail-osod' fod yn 'ailosod' bob amser.

Derbyn geiriau llafar

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a sillafiadau sydd, fel arfer, i'w cael wrth ddyfynnu o Gymraeg llafar yn unig, megis 'aballu' a 'pobol'.

Anwybyddu geiriau mewn priflythrennau

Bydd y rhaglen yn anwybyddu acronym neu eiriau sy'n ymddangos mewn priflythrennau, megis BBC, CPGC, MANCHESTER.

Anwybyddu geiriau sy'n dechrau â phriflythrennau

Bydd y rhaglen yn anwybyddu geiriau o fewn brawddeg sy'n dechrau â phriflythyren, megis 'Arthur' neu 'Birmingham'. Mae hon yn ffordd gyfleus o drin enwau priod sydd heb fod yn rhai Cymraeg yn hytrach na gosod enwau o'r fath yn eich Geiriadur Personol, er y dylech gymryd gofal wrth ddefnyddio'r opsiwn hwn gan na fydd y rhaglen bellach yn gwirio enwau priod Cymraeg o ran cywirdeb chwaith.

Anwybyddu geiriau rhwng " "

Bydd y rhaglen yn anwybyddu geiriau o fewn dyfynodau. Dyma ffordd gyfleus o beidio â gwirio dyfyniad mewn iaith dramor yn eich dogfen.

Anwybyddu rhifolion Rhufeinig

Bydd y rhaglen yn anwybyddu unrhyw rifolion Rhufeinig mewn dogfen.

Derbyn colli 'y' of flaen 's' ar ddechrau gair

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a sillefir heb 'y' o flaen 's' ar ddechrau gair, er enghraifft 'ystafell', 'ysgrifennu'.

Derbyn colli 'a of flaen 'a' neu 'e' ar ddechrau gair

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a sillefir heb 'f' ar ôl 'a' neu 'e' ar ddiwedd gair, er enghraifft 'cynta' a 'tre'.

Derbyn -a am -au

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a sillefir gydag '-a' yn hytrach nag '-au' ar ddiwedd gair, er enghraifft 'petha'.

Derbyn -e am -au

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a sillefir gydag '-e' yn hytrach nag '-au' ar ddiwedd gair, er enghraifft 'pethe'.

Derbyn hen eiriau

Bydd y rhaglen yn derbyn geiriau a nodir yn rhai hynafol (h.y. â * wrth eu hymyl) yn Y Geiriadur Mawr.

(4) Rheolau gramadeg

Mae nifer fawr o ddewisiadau ar gael i reoli'r gwirydd sillafu. I Rhowch 'X' yn y bocsys i'w dewis. I analluogi dewis, cliciwch ar yr 'X' i glirio'r blwch.

Mae'r dewisiadau a ganlyn ar gael:

Dechrau brawddeg gyda phriflythyren

Mae'r rhaglen yn gwneud yn siwr bod y gair cyntaf mewn brawddeg yn dechrau â phriflythyren.

Gwirio priflythrennau eraill

Mae'r rhaglen yn gwneud yn siwr bod enwau priod mewn dogfen yn dechrau â phriflythyren.

Treiglo enwau personau

Bydd y rhaglen yn mynnu bod enwau personol yn cael eu treiglo, er enghraifft 'i Ddafydd' yn hytrach nag 'i Dafydd'.

Cywiro treigladau

Bydd CySill yn gwirio treigladau. Os cafodd y dewis hwn ei analluogi ni fydd y treigladau'n cael eu gwirio.

Cywiro talfyriadau

Bydd y rhaglen yn gwneud yn siwr na fydd talfyriadau megis 'u, 'w yn digwydd ond ar ôl geiriau yn gorffen â llafariad.

Cywiro rhifolion/trefnolion

Bydd CySill yn sicrhau bod rhifolion/trefnolion wedi'u treiglo'n gywir.

Mynnu ar 'chyda' am 'gyda' &c. ar ôl 'a'

Bydd yn rhaglen yn mynnu cael "a chyda" yn hytrach nag "a gyda" ac "a chan" yn hytrach nag "a gan".

Gair wedi'i ailddweud

Bydd y rhaglen yn chwilio am eiriau a ailadroddir yn eich dogfennau.

Wedi drysu gair

Bydd CySill yn chwilio am eiriau sydd o bosib wedi'u dewis yn anghywir, megis defnyddio 'mor' yn hytrach na 'môr' neu 'a' yn hytrach nag 'â'.

Cystrawennau anffurfiol

Bydd y rhaglen yn caniatáu'r gystrawen anffurfiol 'sy ddim'.

Chwilio am -ydd yn lle -wr

Bydd y rhaglen yn chwilio am y terfyniad di-ryw amgen '-ydd' yn hytrach na'r terfyniad '-wr'. Os daw o hyd i air sy'n diweddu ag '-wr' a bod ffurf '-ydd' i'w chael yn un o'i ddau eiriadur, bydd yn awgrymu hyn fel dewis.

Anwybyddu treigladau ar deitlau

Ni fydd CySill yn chwilio am dreiglo'r llythyren ar ddechrau enwau llyfrau ac ati, pan fydd y rhain yn ymddangos gyda phriflythrennau.

(5) Terfyniadau berfol

Mae'r ffenestr hon yn rhestru'r terfyniadau berfol y byddwch naill ai am eu derbyn neu eu gwrthod yn eich dogfennau.

Mae'n gadael i chi ddewis terfyniadau berfol neilltuol i'w gwirio gan y rhaglen. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu peidio â chynnwys ffurfiau ail berson unigol, neu derfyniadau dibynnol neilltuol. Mae 'X' mewn blwch yn nodi bod terfyniad neilltuol yn cael ei dderbyn gan y rhaglen. Gallwch alluogi neu analluogi gwirio terfyniadau unigol trwy glicio ar y blychau priodol.

(6) Terfyniadau eraill

Mae'r ffenestr hon yn dangos terfyniadau berfol y byddwch yn debygol o fod am eu caniatáu bob tro. Mae 'X' mewn blwch yn nodi bod terfyniad neilltuol yn cael ei dderbyn gan y rhaglen. Gellir galluogi neu analluogi gwirio terfyniadau unigol trwy glicio ar y blychau priodol.

(7) Ansoddeiriau benywaidd

Gallwch ddewis a ddylai CySill fynnu defnyddio ffurfiau benywaidd ar ansoddeiriau yn dilyn enw benywaidd. Trwy alluogi'r dewis hwn, ni fydd y rhaglen ond yn derbyn er enghraifft 'cath wen'. Trwy ddiffodd y dewis, bydd yn derbyn 'cath wen' yn ogystal â 'cath wyn'. Mae'r ddewislen hon yn caniatáu i chi ddewis pa ansoddeiriau neilltuol yr ydych am i CySill fynnu eu cael, er enghraifft efallai y byddwch yn mynnu cael 'cath wen' yn hytrach na 'cath wyn' ond yn caniatáu 'cath wlyb' yn ogystal â 'cath wleb'.

Yn y blwch dewis hwn mae'r dewisiadau canlynol ar gael:

I ddewis y cyntaf neu'r ail o'r rhain, cliciwch ar 'Bob amser' neu 'Does dim rhaid' a bydd y neges yng nghornel chwith uchaf y ffenestr yn newid yn unol â hynny.

I ddewis y trydydd, cliciwch ar fotwm 'Rhai ansoddeiriau' a bydd y rhestr o ansoddeiriau yn y ffenestr rolio yn ymddangos mewn du. Symudwch y cyrchwr at y ffenestr hon i rolio trwy'r rhestr o ffurfiau a chlicio ar y rhai rydych yn dymuno eu dewis ar gyfer eu gwirio. Bydd y rhain yn cael eu hamlygu ar y sgrin arddangos. Gellir dad-ddewis unrhyw rai a amlygwyd eisoes trwy glicio arnynt eto.

(8) Ansoddeiriau lluosog

Gallwch ddewis a ddylai CySill fynnu defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ar ôl enw lluosog. Trwy alluogi'r dewis hwn, ni fydd y rhaglen ond yn derbyn, er enghraifft, 'caeau gleision'. Trwy analluogi'r dewis, bydd yn derbyn 'caeau gleision' yn ogystal â 'caeau glas'.

Mae'r ddewislen yn caniatáu i chi benderfynu pa ansoddeiriau neilltuol rydych am i'r rhaglen fynnu eu cael, er enghraifft efallai y penderfynwch fynnu cael 'caeau gleision' yn hytrach na 'caeau glas' ond caniatáu 'caeau garw' yn ogystal â 'caeau geirw'. Mae'r dewisiadau canlynol ar gael:

I ddewis y cyntaf neu'r ail o'r rhain, cliciwch ar 'Bob amser' neu 'Does dim rhaid'. Bydd y neges yng nghornel chwith uchaf y ffenestr yn newid yn unol â hynny. I ddewis y trydydd, cliciwch ar fotwm 'Rhai ansoddeiriau' a bydd y rhestr o ansoddeiriau yn y ffenestr roli yn ymddangos mewn du. Symudwch y cyrchwr i'r ffenestr hon i rolio trwy'r rhestr o ffurfiau a chlicio ar y rhai yr ydych yn dymuno eu dewis ar gyfer eu gwirio. Bydd y rhain yn cael eu hamlygu ar y sgrin arddangos. Gallwch ddad-ddewis unrhyw rai a amlygwyd eisoes trwy glicio arnynt eto.

(9) Newid disgrifiad yr arddull

Mae'r dewis hwn yn caniatáu i chi ddewis eich teitl disgrifiadol eich hun ar gyfer ystod cyffredinol yr iaith a'r arddulliau a ddewisoch yn y ffenestr gwympo dewislen 'Rheolau'. Er enghraifft, efallai y byddech am adael i'r rhaglen dderbyn cyfuniad annhebygol o ffurfiau megis 'petha', 'caeau glas', 'cath wyn' a phob terfyniad berfol ail berson unigol, ond peidio â derbyn pob terfyniad berfol ail berson lluosog. I ddiffinio'r cyfuniad arddull hwn yn 'Cymraeg gor-anffurfiol', teipiwch y disgrifiad hwn yn llinell olygu'r blwch 'Newid Disgrifiad' a chlicio ar 'Iawn'. Bydd y rhaglen bellach yn dangos yr arddull 'Cymraeg gor-anffurfiol' hwn ym mar Gwahanu CySill ac yn cadw hwn fel arddull ddiofyn nes i chi ei newid eto dan y dewis 'Newid Arddull'.


Nôl
Ymlaen