Dewisiadau
1) Newid arddull
Cliciwch ar hwn i reoli arddull yr iaith sy'n cael ei defnyddio i wirio dogfennau. Mae gan y defnyddiwr nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer gwirio sillafu a gwirio gramadeg. Bydd y set benodol o ddewisiadau wedi ei dewis fel canlyniad i'ch dewisiadau yng ngwahanol adrannau 'Golygu' a 'Rheolau'. Mae pob set o arddulliau'n cael ei storio mewn ffeil gyda'r estyniad .ARD a dim ond un y gellir ei defnyddio gan y rhaglen ar y tro. Cliciwch ar enw'r ffeil arddull sydd i'w defnyddio ac yna cliciwch ar OK. Gweler hefyd 'Newid disgrifiad yr arddull'.
Fel diofyniad, mae rhaglen CySill yn defnyddio'r enw USER.DCT ar gyfer y geiriadur personol, ond gallwch newid hwn pe baech am greu eich geiriadur arbenigol eich hun. Cliciwch ar y dewis hwn i agor ffenestr 'Newid Geiriadur Personol'. Fe welwch chi fod y ffeiliau geiriadur sy'n cael eu defnyddio gan CySill yn cael eu rhestru gyda'r estyniad .DCT. Teipiwch enw eich ffeil geiriadur personol yn llinell olygu Enw'r Ffeil. Bydd yr enw hwnnw'n parhau mewn grym hyd nes i chi ei newid gan ddefnyddio'r dewis hwn.
Mae'r opsiwn hwn yn rheoli ffont y sgrin a ddefnyddir yn ffenestr ddogfen CySill. Cliciwch ar hwn ac yna dewiswch enw, maint ac edrychiad eich ffont. Dylech sicrhau bod digon o le i arddangos o leiaf dair llinell o destun yn ffenestr ddogfen CySill gyda'r ffont o'ch dewis. Os na fedrwch chi weld neges gyfan yn ffenestr neges CySill, y tebygolrwydd yw eich bod wedi dewis maint ffont rhy fawr.
Mae'r opsiwn hwn yn rheoli ffont y sgrin a ddefnyddir yn ffenestr neges CySill. Cliciwch ar hwn ac yna dewiswch enw, maint ac edrychiad eich ffont. Dylech sicrhau bod digon o le i arddangos o leiaf dair llinell o destun yn ffenestr ddogfen CySill gyda'r ffont o'ch dewis.
Os na fedrwch chi weld neges gyfan yn ffenestr neges CySill, y tebygolrwydd yw eich bod wedi dewis maint ffont rhy fawr.
Cliciwch ar hwn i reoli'r ffordd y bydd acenion Cymraeg yn cael eu dangos yn ffenestr CySill. Mae gennych ddau ddewis yma, naill ai defnyddio llythrennau ag acenion diofyn Windows, defnyddio'r acenion a grëwyd gan MEU Cymru neu unrhyw lythrennau eraill.
Mae'r dewis hwn yn caniatáu i CySill addasu eich ffeil ACN. i'w defnyddio gan y rhaglen. Gan dybio eich bod chi wedi addasu eich ffeil ACN. a'i chadw, cliciwch ar y dewis hwn i agor ffenestr 'Acenion yn y ffeil'. Cliciwch ar 'Ymlaen' i agor blwch dewis 'Agor Ffeil'. Dylech nodi'r gwahaniaeth rhwng ffeiliau ACN.* y gall eich prosesydd geiriau ymdrin â nhw, a ffeiliau *.ACN sydd er defnydd mewnol y rhaglen yn unig. Teipiwch enw'r ffeil ACN. ddiwygiedig yn llinell Enw'r Ffeil a chlicio ar OK i barhau neu Exit i ganslo. Os penderfynwch ddal ati, bydd y rhaglen yn cynhyrchu fersiwn diweddarach o'r ffeil ACN. cyfatebol.
Gallwch ddewis y lliw a ddefnyddir gan CySill ar gyfer marcio cefndir y camgymeriadau sy' n cael eu hamlygu. Dylech ddefnyddio'r dewis hwn ynghyd â'r dull ar gyfer dewis lliw amlygu'r blaendir.
8) Newid lliw blaendir gwallau
Gallwch ddewis y lliw a ddefnyddir gan CySill ar gyfer marcio blaendir y camgymeriadau sy' n cael eu hamlygu. Dylech ddefnyddio'r dewis hwn ynghyd â'r dull ar gyfer dewis lliw amlygu'r cefndir. Linc i 'newid lliw cefndir gwallau ' (uchod)
Bydd gosod allweddi poeth yn galluogi CySill i weithio gyda phrosesyddion geiriau a chymwysiadau nad ydynt yn cynnal macros. Gallwch osod allwedd boeth ar gyfer pob un o'r gweithrediadau 'Newid i CySill', 'Gwirio Dogfen' a 'Gwirio Gair'. Serch hynny, mae cyfyngiadau ar yr allweddi hyn y dylech wybod amdanynt:

Mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i'r rhaglen storio nifer o'ch dewisiadau y tu hwnt i sesiwn cyfredol CySill. Diofyniadau'r rhaglen ar gyfer y tri dewis cyntaf yw "OFF". Mae "X" mewn blwch gwirio yn dangos bod dewis neilltuol wedi ei alluogi gan y rhaglen. Gallwch eu galluogi neu eu hanalluogi trwy glicio ar y blwch dewis priodol.
Y dewis i chi yw:
Ailosod heb ofyn
Cliciwch ar hwn i analluogi'r anogwr rhaglen ym mlwch dewis 'Gwall Sillafu' a chaniatáu ailosod yr holl eiriau a ddewisir dan y dewis hwnnw heb ofyn.
Anwybyddu iaith
Cliciwch ar hwn i ganiatáu i'r rhaglen anwybyddu codau iaith mewn dogfennau prosesyddion geiriau a gynhyrchir dan Word neu WordPerfect (nid dan AmiPro). I ddefnyddio'r dewis hwn, bydd yn rhaid i chi ffurfweddu eich prosesydd geiriau yn briodol. Gweler llawlyfr eich prosesydd geiriau.
Clirio anwybyddu
Fel arfer bydd rhaglen CySill yn storio unrhyw eiriau rydych wedi dewis eu "Hanwybyddu bob tro" yn ystod sesiwn gywiro. Cliciwch ar y dewis hwn i ganiatáu i'r rhaglen glirio'r geiriau hyn bob tro y bydd yn gorffen gwirio dogfen (Gweler hefyd Dangos Geiriau i'w hanwybyddu).
Cofio ar ôl
Defnyddiwch hwn i ddewis nifer yr adegau y gall yr un gair a gamsillefir ddigwydd cyn i'r rhaglen gadw'r gair a'i gywiriad. Cliciwch ar y blwch golygu a theipio'r rhif rydych am i'r rhaglen ei ddefnyddio ar gyfer y dewis hwn.
Neges ar ôl gorffen
Mae'r dewis hwn yn achosi i CySill ddangos neges gadarnhaol 'Mae CySill wedi gorffen gwirio'r ddogfen' pan fydd wedi gwirio'r ddogfen yn llwyddiannus. Mae'r neges yn ymddangos os nad yw'r rhaglen wedi oedi ar air anghywir.
Mae'r opsiwn yn toglo iaith y negeseuon gramadeg rhwng Cymraeg a Saesneg.